Arestio gyrrwr ar ôl i ferch gael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 68 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ferch 12 oed gael ei tharo gan gar yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad ar Elaine Crescent tua 15:00 ddydd Mawrth.
Ni wnaeth y car stopio wedi'r gwrthdrawiad, ond dywedodd y llu y cafodd y dyn ei arestio yn ddiweddarach.
Mae'n cael ei amau o yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Fe gafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty am driniaeth, ac mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.