Yr artist lliwddall sy’n chwarae gyda lliwiau

Elfyn Lewis a'i gelfFfynhonnell y llun, Elfyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Lewis a darn o'i arddangosfa - Cân i Gymry - sydd yng Nghaeredin ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

“Dwi’n gweld lliw, ti’n gweld lliw, ond ‘da ni’n ei weld o mewn ffordd wahanol.”

Mae Elfyn Lewis yn lliwddall, cyflwr sy’n effeithio un o bob 12 dyn. Fodd bynnag, dydi hyn ddim wedi ei rwystro rhag dod yn artist llwyddiannus, sy’n defnyddio amrywiaeth o liwiau cryf yn ei waith.

Cafodd sgwrs ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru gyda’r gyflwynwraig Bethan Rhys Roberts, sydd hefyd â’r cyflwr – sydd ond yn effeithio ar un o bob 200 o ferched – am sut mae bod yn lliwddall ac yn artist yn cydblethu.

'Gadael dy farc' fel artist

"Dwi’n trio descreibio fel ei fod o fel dyslecsia efo geiriau. Dwi’n gweld lliw, ti’n gweld lliw, ond ‘da ni’n ei weld o mewn ffordd wahanol. Mae rhai yn gweld yn ddu a gwyn, a rhai efo 'mond coch a gwyrdd.

“Ond i fi, mae o’n fwy cymhleth; dwi’n cymysgu glas efo piws, melyn, gwyrdd, brown, coch, oren…”

Mae Elfyn yn teimlo ei bod hi’n ‘anochel’ ei fod o am fod yn artist, er gwaetha’r ffaith nad oedd o’n medru gweld y lliwiau fel pawb arall mewn gwersi celf.

“Yn yr ysgol, ti’m isho tynnu sylw at dy hun, ac o’n i’n lwcus ar y dechrau, o’dd gen i ffrind yn rhoi cymorth i mi, yn pigo lliwiau. Ond wedyn aeth hi’n flêr; ffrindiau fi yn tynnu coes, a rhoi’r lliwiau anghywir i fi, so pan o’n i’n gofyn am oren, ‘sa nhw’n rhoi gwyrdd i mi!

“Ond o’n i jyst yn licio’r teimlad o be’ odda ti’n medru ei ‘neud, gadael dy farc.”

Ffynhonnell y llun, Elfyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn yn defnyddio llawer o liwiau llachar yn ei waith

Dangos emosiwn drwy liwiau

Celf abstract ydi celf Elfyn, sydd yn ei ganiatáu i fod â rhyddid i arbrofi gyda lliwiau, meddai.

“Dwi ‘di gneud 'chydig o ddysgu, ac yn gweld, pan mae’r plant yn cyrraedd yr oed ‘na – saith, wyth, naw – mae’r ysgol fwy am ‘rhaid i chdi 'neud rhywbeth sy’n edrych fel rhywbeth’, ac mae hwnna’n eitha cul mewn ffordd.

“Mae o’n ffordd o ddangos emosiwn, sut 'da ni’n teimlo, a ti’m isho rhoi stop ar hynny.

“Dwi’n licio lliwiau llachar. Efo lliwiau a lluniau, o’n i jyst yn meddwl ‘dwisho trio gwthio fo’ a dwi’n meddwl mod i wedi.

“Dwi jyst yn teimlo’n hapus yn defnyddio paent a lliwiau cry’. Dwi bron yn 55, a dwi dal yn chwarae, a dyna ‘di’r peth mwya’ pwysig, bo’ chdi’n gwthio dy waith.”

Yn ffodus i Elfyn, mae enwau’r paent mae o'n eu defnyddio ar y potiau, ac er ambell i dro trwstan dros y blynyddoedd, dydi o ddim yn teimlo fod ei liwddallineb wedi ei rwystro yn ei fywyd o gwbl.

“Dwi’n fana’n mynd ‘w mae hwnna’n liw neis, y lliw X yna...’ a dio’m y lliw yna o gwbl! Ti’n cael dy hun mewn i drwbl weithiau, ond mae o’n rhywbeth ti’n ei ddysgu wrth fynd ymlaen.”

Ffynhonnell y llun, Elfyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Maldod a Llawenydd - dau o ddarnau Elfyn sydd yn llawn lliwiau cryf

Cadw at y cyfarwydd

Er fod y ddau wrth eu boddau â lliwiau llachar, roedd Bethan ac Elfyn yn cytuno fod gwisgo dillad yn eu hoff liwiau yn gallu bod yn heriol weithiau, a'i bod hi felly yn haws cadw at liwiau tywyll...

“[Dwi’n] licio gwisgo du a navy," eglurodd Bethan, "achos mod i’n ansicr am liw. Mae o’n anodd i drio egluro i rywun sydd ddim yn lliwddall... Dwi wrth fy modd efo oren, dwi wrth fy modd efo gwyrdd, ond dwi wastad yn meddwl ‘ydi hwn yn mynd?’, ‘pa liw ydi hwn?’.

Fel Bethan, ‘tueddu i fynd efo pethau [mae’n] ei wybod’ mae Elfyn.

Fodd bynnag, mae'r ddau â barn wahanol am sbectol arbennig sydd ar gael, sydd yn cywiro lliwddallineb.

Neidiodd Bethan ar y cyfle i'w trio, ac fe gafodd weld y byd mewn lliw go iawn am y tro cyntaf. Roedd lliwiau yn llawer ‘mwy llachar’, meddai, yn fwy ‘cyfoethog’, a’r byd yn ymddangos yn fwy ‘seicadelig’.

Ond fydd Elfyn ddim yn rhoi cynnig ar y sbectol hud, ac yn hapus i weld lliwiau sut mae o wedi arfer eu gweld:

“Mae o’n codi ofn arna i. Ydw i’n methu allan ar weld y gwyrdd yn y coed...? Dio’m ots gen i!”

Pynciau cysylltiedig