Legia Warsaw: 'Tîm y fyddin' fydd yn herio'r Cofis
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn y fuddugoliaeth ddramatig yn erbyn y Crusaders o Ogledd Iwerddon, mae Caernarfon wedi ennill lle yn ail rownd gemau rhagbrofol Cyngres Ewrop.
Bydd y Caneris yn wynebu Legia Warsaw - neu Legia Warszawa fel maent yn cael eu 'nabod mewn Pwyleg - yn yr ail rownd dros ddau gymal ar 25 Gorffennaf a 1 Awst.
Yn anffodus ni fydd cefnogwyr Caernarfon yn teithio i Warsaw oherwydd gwaharddiad sy'n atal cefnogwyr rhag mynd i gemau Legia Warsaw yng nghystadleuaethau Ewrop. Daw hyn yn dilyn camymddwyn gan gefnogwyr ultras y clwb.
Ond sut glwb ydy Legia? A beth yw eu hanes?
Rhywun sy'n byw yn Poznań yng ngorllewin Gwlad Pwyl yw Siôn Pennar, sy'n wreiddiol o Borthmadog.
"Mae Legia yn un o gewri pêl-droed Pwylaidd, a dros y 10-15 mlynedd diwethaf maen nhw wedi cynyddu eu dominyddiaeth," meddai.
"Bellach maen nhw wedi ennill y bencampwriaeth Bwylaidd 15 o weithiau."
'Tîm y fyddin'
Mae Siôn yn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd ac yn cadw siop lyfrau yn Poznań yng ngorllewin y wlad. Mae'n dilyn Lech Poznań, un o brif wrthwynebwyr Legia ym mhrif adran Gwlad Pwyl, Yr Ekstraklasa.
“Yn draddodiadol, Legia ydy tîm y fyddin ac yn y cyfnod Comiwnyddol roedd hyn yn galluogi iddyn nhw gael gafael ar chwaraewyr gorau'r wlad. Teg dweud bod dim llawer o gariad tuag at Legia ymhlith cefnogwyr y rhan fwyaf o glybiau eraill y wlad."
Cefnogwyr adain dde
Ffurfiwyd y clwb yn 1916 ac hyd heddiw mae Legia'n cael ei ystyried fel clwb adain dde, yn geidwadol, genedlaetholgar ac yn erbyn mewnfudo.
Mae cefnogwyr y clwb yn lleisio eu barn yn rheolaidd yn erbyn y Prif Weinidog, Donald Tusk, ac maent hefyd wedi arddangos baneri anferthol a dadleuol dros y blynyddoedd, fel yr un yn 2022 o Vladimir Putin yn cael ei grogi tra'n gwisgo crys Spartak Moscow.
Ar 20 Gorffennaf eleni fe chwaraeodd Legia gartref yn erbyn Zagłębie Lubin yn yr Ekstraklasa. Yn y gêm fe gododd cefnogwyr Legia faner enfawr gyda'r geiriau Refugees Welcome arno.
Neges sarcastig oedd y 'croeso' yma. Roedd un dyn ar y faner yn gafael mewn bat, un arall â morthwyl yn ei law, ac roedd y ddynes gyda chroes Gristnogol rownd ei gwddf yn cario pen mochyn ar blât - neges glir i unrhyw ffoadur.
Legia sydd wedi ennill y bencampwriaeth genedlaethol y nifer fwyaf o weithiau, sef 15 gwaith. Ond er gwaetha' llwyddiant hanesyddol Legia, dydi popeth heb fynd eu ffordd nhw yn ddiweddar, fel esboniai Siôn Pennar:
"Dydyn nhw ddim wedi bod ar ben eu gêm dros y cwpwl o dymhorau diwethaf, ac mae hynny wedi galluogi i dimau llai adnabyddus i gipio'r Ekstraklasa - Jagellonia Białystok aeth â hi yn 2023-24, a hynny am y tro cyntaf yn eu hanes.
"Roedd y ras am y bencampwriaeth y tymor diwethaf yn arbennig o agored, a Legia'n un o'r 'crwbanod' hynny oedd yn baglu eu ffordd at y llinell orffen. Ond fe lwyddon nhw i ennill gemau allweddol, gan gynnwys curo Lech yma yn Poznań, er mwyn hawlio'u lle yn Ewrop."
Gorffenodd Legia yn drydydd y llynedd, pedair pwynt tu ôl i Śląsk Wrocław a'r pencampwyr, Jagiellonia Białystok.
Llwyddiannau yn Ewrop
Mae Legia wedi cael dipyn o lwyddiant yng nghystadlaethau Ewrop dros y blynyddoedd. Yn 1969-70 roedd y clwb yn rownd gynderfynol Cwpan Ewrop, gan golli 2-0 dros ddau gymal yn erbyn Feyrnoord, a aeth ymlaen i godi'r tlws.
Fe gyrhaeddodd Legia y chwarteri yn 1970–71 ac yn 1995–96, ac roeddent yn y gemau grŵp yn 2016-17 hefyd.
"Mae modd dadlau y dylai timau Pwyl, ar y cyfan, wneud yn well yn Ewrop," meddai Siôn, "ond mae dyfodiad Cynghrair Ewrop fel cystadleuaeth trydydd haen wedi rhoi llwyfan iddyn nhw. Fe gyrhaeddodd Legia y 32 olaf y llynedd, a hynny wedi curo Aston Villa yn y grŵp.
"Mi amlygodd y gemau hynny hefyd broblemau ynghylch ymddygiad cefnogwyr - rhywbeth sydd wedi codi yn ystod gemau oddi cartref mewn cystadlaethau Ewropeaidd.
"Ymhlith eu canlyniadau cofiadwy eraill yn Ewrop mae gêm gyfartal o 3-3 yn erbyn Real Madrid yn 2016-17, a hynny yng Nghynghrair y Pencampwyr."
Sêr rhyngwladol
Mae carfan Legia heddiw'n cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol, boed hynny dros Wlad Pwyl neu i wledydd eraill.
Fel esboniai Siôn: "Mae tipyn o brofiad yn eu carfan gyda chwaraewyr fel y capten, Artur Jędrzejczyk wedi cael degau o gapiau rhyngwladol.
"Mae eraill, fel Marc Gual, wedi bwrw ei brentisiaeth yn Barcelona ac Espanyol."
Mae Siôn wedi gweld pa mor dda y gall Legia fod gyda'i lygaid ei hun.
"Mae Legia yn dîm sy'n gallu rheoli gêm a chadw'u pennau dan bwysau - fe welais i hynny efo'n llygaid fy hun pan ddaethon nhw i Poznań ddiwedd tymor diwethaf a churo Lech yn dda."
Er fod y Cymro'n cydnabod mai Legia yw'r Goliath a Chaernarfon yw'r Dafydd, mae'n byw mewn gobaith.
"Legia fydd y ffefrynnau amlwg yn erbyn y Cofis, ond does dim byd yn amhosib yn y byd pêl-droed!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024