'Dyn wedi talu £1,500 i ffrind i drefnu lladd ei wraig'

Paul Lewis (ar y dde, mewn siaced lliw golau a sbectol) yn cael ei dywys ar gyfer gwrandawiad llys gan swyddog carchar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Lewis (dde) yn gwadu ei fod wedi cynllwynio i lofruddio i wraig, ddwy flynedd wedi iddyn nhw wahanu

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed honiad bod dyn o Abertawe wedi talu £1,500 i ffrind gyda'r bwriad o drefnu i rywun ladd ei wraig wedi i'r briodas chwalu.

Mae Paul Lewis, 54, a Dominique Saunders, 35, yn gwadu cynllwyn i lofruddio Joanne Atkinson-Lewis rhwng 28 Chwefror 2023 a 30 Ebrill 2023.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful na fu unrhyw niwed i Ms Atkinson-Lewis, oedd yn dal yn briod â Mr Lewis ddwy flynedd wedi iddyn nhw wahanu, ond bod hynny'n amherthnasol i'r cyhuddiadau.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, William Hughes, y bydd angen i'r rheithgor ystyried "a fu cytundeb troseddol rhwng y ddau ddiffynnydd ar gyfer hwyluso llofruddiaeth menyw gyda'r bwriad i hynny ddigwydd".

Mae'r erlyniad yn dadlau bod Mr Lewis wedi codi £1,500 ym mis Mawrth 2023, bod Mr Saunders wedi talu £1,300 i'w fanc yn fuan wedyn, ac mai'r bwriad oedd trefnu rhywun i ladd Ms Atkinson-Lewis.

Roedd ymholiadau wedi datgelu ceisiadau ar-lein am wybodaeth ynghylch reifflau, meysydd saethu a chyfeiriad Ms Atkinson-Lewis.

'Rwy ei mo'yn hi mas'

Yn ystod yr wythnosau canlynol, bu sawl neges WhatsApp rhwng y ddau ddiffynnydd, oedd yn byw yn yr un bloc o fflatiau.

Gofynnodd Mr Lewis sawl tro a oedd unrhyw "newyddion" ac am weld lluniau teclyn GoPro - camau, yn ôl yr erlyniad sy'n amlygu "cytundeb troseddol".

Anfonodd neges hefyd yn awgrymu y byddai "marwolaeth yn siwtio" ei wraig, a sawl neges yn datgan: "Wnes i dalu gyda phob ewyllys da."

Dywedodd mewn negeseuon eraill ei fod "wedi gweld Joanne ar draeth Aberafan ac roedd hi'n edrych yn iawn" ac "rwy' ei mo'yn hi mas".

Erbyn diwedd Ebrill 2023, fe ysgrifennodd sawl neges yn amlygu teimlad ei fod wedi cael ei dwyllo oherwydd roedd ei wraig "yn dal yn anadlu".

Clywodd y rheithgor bod Mr Saunders wedi dweud mewn neges: "Wna'i anfon rhif y dyn 'na a gei di dy £1,500 yn ôl. Paid â gofyn i mi helpu eto. Rwy' mas."

Dywedodd Mr Hughes bod y negeseuon "yn dangos yn glir bod Paul Lewis wedi cytuno i dalu, ac fe dalodd, £1,500 i hwyluso llofruddiaeth Joanne Lewis".

Dominique Saunders (ar y dde mewn top glas tywyll) yn cael ei dywys i'r llys gan swyddog carchar benywaidd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dominique Saunders (ar y dde) yn gwadu cytuno helpu Paul Lewis i drefnu marwolaeth ei wraig

Dywedodd mab Mr Lewis, Kieron Lewis, wrth y llys ei fod wedi mynd i fflat ei dad ar 29 Ebrill 2023 wedi i'w nain fynegi pryder.

"Gofynnais yn blaen a oedd wedi trefnu hit ar Joanne," meddai.

"Wnaeth e ddim ateb, ond nodio i gadarnhau a dechrau crio."

Edrychodd Kieron Lewis a'i gariad, Sidney West, ar ffôn ei dad a dod ar draws y negeseuon cyn mynd i fflat Mr Saunders i'w herio o'r tu allan ac yna ffonio'r heddlu.

Clywodd y llys fod Paul Lewis yn bygwth lladd ei hun, ac fe gafodd ei gludo o'r fflat ar gyfer asesiad iechyd meddwl.

Dywedodd Ms West wrth y llys ei fod wedi gofyn wrth Paul Lewis: "Ydych chi'n deall eich bod wedi talu rhywun i gymryd mam rhywun oddi arno?"

Fe wylodd Mr Lewis yn y doc wrth i Ms West ychwanegu ei fod wedi nodio mewn ymateb i'r cwestiwn.

'Targed delfrydol i rywun gymryd mantais ohono'

Dywedodd bargyfreithiwr Mr Lewis, John Hipkin KC, bod ei gleient wedi bod "yn fregus" am gyfnod hyd at ddwy flynedd cyn yr adeg dan sylw, ac wedi bod "i mewn ac allan o ysbyty seiciatryddol".

Awgrymodd ei fod "yn darged delfrydol i rywun allai fod eisio cymryd mantais ohono".

Doedd dim cytundeb, meddai, gyda Mr Saunders a oedd "wedi mynd ati i'w dwyllo, ac fe dwyllodd Paul Lewis £1,500".

Ar ran Mr Saunders, dywedodd John Harrison KC bod "cynllwyn angen cytundeb ac yn yr achos yma doedd dim cytundeb. Ni gytunodd â Mr Lewis i lofruddio ei wraig... ni gytunodd i wneud unrhyw beth o gwbl".

'Ni fu erioed yn dreisgar tuag ata'i'

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Joanne Atkinson-Lewis bod iechyd meddwl Mr Lewis wedi dechrau dirywio rai blynyddoedd cyn iddo gael ei arestio.

Dywedodd eu bod yn cecru cyn iddyn nhw wahanu ond "ni fu erioed yn dreisgar tuag ata'i", a'u bod ond wedi gweld eu gilydd unwaith yn y ddwy flynedd wedi i'r berthynas chwalu.

Ychwanegodd ei fod "yn gwneud rhywbeth fel bygwth lladd ei hun" bob tro roedden nhw ar fin cwrdd i drafod ysgaru.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu cynllwynio i lofruddio ac mae disgwyl i'r achos bara am bythefnos.