Symud ceffylau marw oedd wedi dod i'r lan yn Llanelli

Un o'r ceffylauFfynhonnell y llun, Kirstie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerddwyr wedi gorchuddio un o’r ceffylau gyda blancedi ar ôl iddyn nhw gael eu canfod

  • Cyhoeddwyd

Mae dau geffyl marw a gafodd eu canfod ar draeth yn Llanelli wedi eu symud gan y cyngor.

Cafwyd hyd i un o'r ceffylau ger caffi ac un arall ger gwarchodfa natur, yn ôl Kristie Jones sy'n byw yn lleol.

Ychwanegodd Ms Jones fod cerddwyr wedi gorchuddio un o’r ceffylau gyda blancedi ar ôl iddyn nhw gael eu golchi i fyny penwythnos diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr y gallai'r ceffylau, oedd wedi pydru'n ddrwg, wedi dod o unrhyw le ar arfordir y gorllewin neu hyd yn oed ymhellach.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi'u hysbysu am bresenoldeb yr anifeiliaid marw ond nad oedd yn fater i'r heddlu.