Tân mewn bloc o fflatiau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i dân mewn bloc o fflatiau yng nghanol Abertawe.
Cafodd 11 injan dân eu hanfon i'r safle brynhawn Llun.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin bod tân ar drydydd llawr yr adeilad ar Ffordd New Cut.
Chafodd neb ei anafu ac mae'r criwiau wedi dechrau gadael y safle.
Mae'r ffordd wedi cau ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.