Llyfr nodau clustiau defaid o'r 60au yn drysor i heddlu cefn gwlad

Iwan Owen a'r llyfr nodau clustiau defaid
- Cyhoeddwyd
Pan aeth Iwan Owen o dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru i fart Rhuthun yn ddiweddar, derbyniodd hen lyfryn mewn llawysgrifen gan ffermwr o ardal Bylchau, Llansannan.
Rhwng y ddau glawr mae cofnodion o'r 1960au gan y diweddar Norman Ashford, plismon yn Llansannan ar y pryd o nodau clustiau defaid yr ardal, sef yr arferiad o dorri patrwm yng nghlustiau defaid er mwyn gwybod i ba fferm mae defaid yn perthyn.
Ac wrth dyrchu am ragor o wybodaeth am hanes y llyfryn fe sylweddolodd fod PC Norman Ashford wedi cofnodi nodau clustiau defaid y fferm lle ganwyd ei daid, sydd bellach dan y dŵr.
Cysylltiad PC Norman Ashford â thaid Iwan
Ond sut gwyddai'r ffermwr ym mart Rhuthun fod gan Iwan gymaint o ddiddordeb mewn nodau clustiau defaid gan ddod â'r llyfr iddo?
"Roedd fy nhaid, Joseff Owen, o fferm Pen-cae-cwm, ardal Bylchau, Llansannan yn arfer cofnodi nodau clustiau defaid ei ardal a ro'n i'n gwybod fod o wedi ysgrifennu llyfr a dwi wedi bod am flynyddoedd yn ceisio ei ffeindio fo ac yn holi ffermwyr yr ardal ond heb gael lwc."
Er nad yw wedi llwyddo i ffeindio'r llyfryn ysgrifennodd ei daid, "mae wedi gwirioni" wrth dderbyn y llyfryn bach yma a sylweddoli fod PC Norman Ashford a'i daid yn adnabod ei gilydd. Mae'n debygol mai ei daid drosglwyddodd llawer o'i wybodaeth i PC Norman Ashford:
"Mae'n rhaid fod y ffarmwr yma'n gwybod 'mod i'n chwilio am y llyfrau nodau clustiau. Mi ddoth o â thair llyfr i mi, dau wedi eu teipio ac un ohonyn nhw yn llawysgrifen PC Norman Ashford," meddai.

Cyflwyniad PC Norman Ashford yn y llyfr
Fe gafodd lluniau o'r llyfrau eu rhannu ar Facebook tîm Troseddau Cefn Gwlad a daeth mab y diweddar PC Norman Ashford i gysyllltiad gydag Iwan gan egluro cysylltiad ei dad gyda thaid Iwan:
"Fe ddaeth Cledwyn Ashford, mab Norman i gysylltiad. Mae o'n sgowt i Academi Wrecsam felly mae o'n foi reit enwog.
"Dyma fo'n cadarnhau wedyn bod o'n cofio fy nhad a fy nhaid yn Llansannan yn y 60au. Ar ôl hynny wnes i gyfarfod â modryb i mi a dyma hi'n dweud ei bod hi'n cofio Norman Ashford, ei fod o'n ffrindiau mawr efo'n nhaid ac mai fo ddysgodd Norman am nodau clustiau'r ardal felly mae'r stori yn mynd yn gylch i gyd o'r dechrau i'r diwedd.
"Mae'n amlwg fod fy nhaid wedi rhoi'r addysg a'r hyfforddiant i gyd ac wedi helpu y PC yma i 'sgwennu'r llyfr. Oedd Anti Llinos yn dweud 'Duw, oedd PC Ashford arfer bod yn y tŷ o hyd i siarad am glustiau defaid!'"
Nodau clustiau defaid a throseddau cefn gwlad
Ond pam fod yr arferiad o gofnodi nodau clustiau defaid mor bwysig a pha ddiddordeb fyddai gan blismon ynddyn nhw? Iwan sy'n egluro:
"Ar y mynydd mae gen ti dir cyffredin lle mae gan bob ffarm hawl i bori defaid ond y broblem ydy bod y defaid yn cymysgu a bod yna beryg i'r defaid anghywir fynd i'r lle anghywir felly mae gen ti ffermwr sy'n cael ei enwebu fel setiwr, felly fo sy'n cadw golwg ac yn gwneud yn siŵr fod pawb wedi marcio clustiau defaid a'u cofnodi nhw. Roedd fy nhaid yn setiwr ar Fynydd Hiraethog.
"Am mai fo oedd y setiwr yn yr ardal, mi oedd gan Joseff Owen gyfoeth o wybodaeth am ffermydd a nodau ei fro. Ac o be' dwi'n ddalld mi oedd ffermwyr yn 'sgwennu eu llyfrau nodau clustiau eu hunain ac mae'n debygol y byddai pobl yn mynd at fy nhaid i gael gwybodaeth.
"Mi fasa plisman gwlad fel Norman Ashford efo diddordeb mawr yn y nodau ac yn ffordd iddo fo adnabod ffermydd yr ardal roedd o'n wasanaethu er mwyn taclo troseddau neu broblemau cefn gwlad.
"Tasa'n ffeindio dafad wedi crwydro neu ddefaid wedi cael eu dwyn, mi fasa'n gallu estyn y llyfr nodau clustiau allan, cael golwg arno fo a sylwi 'O ia, fferm Cae Cwm' sydd piau rhain neu mae defaid y ffarmwr yma yn 'Hafod Dre.' Maen nhw'n gweithio yn debyg i serial number sy'n helpu chdi ffeindio pwy ydy'r perchennog."

Tu mewn y llyfr gyda lluniau o'r nodau clustiau defaid ac enwau'r ffermydd
Gyda llai o ddefaid ar y mynydd heddiw nid yw'r traddodiad o dorri clust y ddafad mor fyw ag oedd hi, a thagiau plastig wedi dod yn fwy poblogaidd. Ond yn ôl Iwan mae nodau clustiau'n parhau'n ddefnyddiol i heddlu cefn gwlad hyd heddiw:
"Os 'dan i'n mynd i 'neud ymchwiliad rŵan ynglŷn â defaid yn cael eu dwyn mae'n rhaid i ni gofio am sawl peth. 'Dan ni'n gofyn am rif tag ond byddwn i'n gofyn hyd heddiw os oes gan y ddafad nodau clustiau a be' ydyn nhw.
"Mae'n hawdd iawn cael gwared o'r tag ond mae'n anodd cael gwared o'r nodau clustiau felly i fi'n bersonol mae'n well gen i weld nodau clustiau. Er fod nodau'n mynd yn fwy a mwy hanesyddol mae yna rai ardaloedd dal i'w defnyddio nhw, mynyddoedd y Carneddau er enghraifft a'r Migneint."
Mae sylwi ar yr amrywiaeth mewn nodau hefyd yn diddori Iwan:
"Mae yna gannoedd o wahanol farciau fedri di roi ar glust; cylch, croes ac yn y blaen ac oedd gan bob un ffarm farciau unigryw i'r ffarm yna."

Mwy o nodau
Darganfod nodau fferm ei Daid
Ond un canfyddiad rhyfeddol iddo wrth bori drwy gyfrol Norman Ashford oedd sylwi ar nodau clustiau fferm Hafod yr Onthen sef y fferm lle ganwyd ei daid a sydd dan ddŵr argae Llyn Brenig heddiw:
"Yn Hafod yr Onthen y ganwyd Joseff Owen - mae'r marc yna yn bodoli rhwng tudalennau'r llyfr yma ond dydi'r ffarm ddim yn bodoli ddim mwy, mae o dan ddŵr Llyn Brenig. Mae'n siŵr bod yna ffermydd yn y llyfr yma sydd ddim yn bodoli ddim mwy."

Cronfa ddŵr Llyn Brenig lle mae fferm Hafod yr Onthen dan y dŵr. Adeiladwyd yr argae rhwng 1973-1976
Gobaith Iwan yw arddangos y llyfrau i'r cyhoedd pan fydd tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru'n ymweld â sioeau amaethyddol.
Meddai: "Faswn i'n licio gwneud copis o'r llyfrau yma er mwyn rhoi addysg i genhedlaeth newydd, rhoi cyfle i blant chwarae gêm nodau clustiau a chodi sgwrs am broblemau 'sgynnon ni yng nghefn gwlad fel cŵn yn mynd ar ôl defaid. Mae yna ddarnau o hanes yn y llyfrau yma."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024