Campwaith Eidalaidd yn dod nôl i Gymru am gyfnod

CanalettoFfynhonnell y llun, Yr Oriel Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 'The Stonemason's Yard' ei beintio gan Canaletto tua 1725

  • Cyhoeddwyd

Bydd campwaith o gelf Eidalaidd o'r 18fed ganrif yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddydd Gwener.

Mae ‘The Stonemason’s Yard’ – a beintiwyd gan Canaletto tua’r flwyddyn 1725 – wedi’i fenthyg gan yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.

Y darlun fydd y prif atyniad yn yr arddangosfa newydd yn y llyfrgell.

Dyma’r eildro i’r llun fod yng Nghymru – fe ddaeth am y tro cyntaf mewn amgylchiadau gwahanol iawn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn un o tua 2,000 o weithiau celf amhrisiadwy a gafodd eu symud o Lundain i weithfeydd llechi ym Mlaenau Ffestiniog er mwyn eu hamddiffyn rhag bomiau’r Almaenwyr.

Dros 80 mlynedd yn ddiweddarach mae’r llun yn ôl yng Nghymru, a bydd yn cael ei arddangos yn y llyfrgell tan fis Medi fel rhan o’r arddangosfa Delfryd a Diwydiant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trysorau o’r Oriel Genedlaethol yn Llundain yn cael eu harchwilio wrth iddyn nhw gael eu symud i chwarel lechi Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae’r arddangosfa yn adrodd stori ‘The Stonemason’s Yard’ a sut y daeth i Gymru fel "ffoadur" rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gael ei amddiffyn yn ddiogel ym mwyngloddiau llechi Manod.

Roedd Winston Churchill – y Prif Weinidog ar y pryd – wedi gorchymyn y dylid symud casgliad yr Oriel Genedlaethol i ffwrdd o Lundain a'i guddio mewn "ogofâu a seleri".

Gosodwyd stiwdios brics a system awyru yn y mwyngloddiau er mwyn storio’r casgliad, a oedd yn cynnwys gwaith gan artistiaid fel Titian, Michelangelo a Constable.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y trysorau yn cael eu tynnu allan ar gyfer eu glanhau yn Chwarel Manod

Flynyddoedd ar ôl i'r lluniau gael eu dychwelyd i Lundain, daeth Glyn Williams a'i deulu o Flaenau Ffestiniog yn berchnogion ar y chwarel.

Dywedodd Mr Williams fod ganddyn nhw gynlluniau i ehangu'r gwaith yno yn y 1980au, ond roedd Llywodraeth y DU eisiau cadw'r stiwdios yn eu lle a chyfyngu ar ffrwydro yn y chwarel rhag ofn iddyn nhw gael eu difrodi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Williams, a ddaeth yn berchennog y chwarel, wedi cyd-gofnodi'r hanes

Enillodd Mr Williams fuddugoliaeth yn y llys i orfodi’r llywodraeth i adael y chwarel ac ehangodd y gwaith yn y Manod.

Yn 1983 fe helpodd Mr Williams i wneud llyfryn i gofio'r amser pan gafodd y gweithiau celf amhrisiadwy eu cuddio yn y chwarel.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn anodd iawn cludo rhai o’r darluniau i’r chwarel gan fod rhai yn fawr iawn, fel y portread o Charles I ar gefn ceffyl gan Van Dyck.

“Roedd y lluniau yn cael eu cario i fyny i’r chwarel mewn loris, ond mi oedd yna broblem," meddai Mr Williams.

"Mi oedd pont y railway yn rhy isel i’r loris fynd o dan iddi, felly beth wnaethon nhw oedd tyllu o dan y bont a rhoi sylfaen newydd a trio gyrru’r lori drwodd.

"Ond roeddan nhw wedi methu efo’u mesuriadau ac mi oedd rhaid iddyn nhw ollwng aer o deiars y lori i gael hi drwodd, achos mae’r llun King Charles on Horseback yn anferth o lun - mae’n pwyso tua hanner tunnell!”

Disgrifiad o’r llun,

Llyfryn yn nodi hanes storio trysorau yr Oriel Genedlaethol

Dywedodd Mr Williams fod y lluniau wedi cael eu gwarchod yn dda - arhosodd arbenigwyr ger y chwarel i ofalu amdanyn nhw, ac roedd garsiwn o filwyr ger giât y chwarel i'w hamddiffyn.

"Roedd 'na bedwar adeilad wedi cael eu codi yn yr agorydd yn bwrpasol i gadw y lluniau," meddai.

"Cawson nhw i gyd eu codi o fewn rhyw naw mis a tu fewn i’r adeiladau newydd yma roedd system i aildroi yr awyr i gadw yr humidity yn gyson.”

Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, aeth y 2,000 o luniau yn ôl i'w horielau - llawer i'r Oriel Genedlaethol ac eraill i Balas Buckingham.

Disgrifiad o’r llun,

Y bwlch i'r chwarel wedi'i ledu ar gyfer symud y trysorau

Mae llun Canaletto yn ôl yng Nghymru fel rhan o ddathliadau 200 mlwyddiant yr Oriel Genedlaethol – mae 12 campwaith o’i chasgliad yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd ac orielau celf ledled y DU.

Mae gan yr arddangosfa yn Aberystwyth yr unig un sydd i’w weld yng Nghymru.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys tirluniau Cymreig o’r Casgliad Celf Cenedlaethol gan gynnwys gwaith gan artistiaid clasurol fel Richard Wilson, JMW Turner a Penry Williams ochr yn ochr â gwaith gan artistiaid mwy modern fel Graham Sutherland, Mary Lloyd Jones ac Ernest Zobole.

Am y tro cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol, bydd taith sain ddisgrifio ar gyfer rhai o'r eitemau ar gyfer ymwelwyr sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd campwaith Canaletto yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddydd Gwener

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae hon yn addo bod yn arddangosfa arbennig iawn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r National Gallery.

"Mae cael un o gampweithiau Canaletto yma yn anrhydedd, ac mae arddangos y gwaith ochr yn ochr â rhai o uchafbwyntiau’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn creu cyfle gwych i werthfawrogi cyfoeth ac amrywiaeth y profiad Cymreig a’r ymatebion i hynny mewn celf.”

Edrych ymlaen i rannu'r stori

Cafodd Canaletto ei eni yn 1697 a'i fagu yn Fenis, a fe oedd arlunydd Fenisaidd enwocaf ei ddydd.

Mae ‘The Stonemason’s Yard’ yn un o baentiadau cynnar Canaletto ac mae’n wahanol i lawer o’i waith arall gan ei fod yn darlunio golygfa o fywyd bob dydd yn hytrach na’i olygfeydd enwog o Gamlas Fawr Fenis, regatas a dyddiau gwyliau.

Yn lle crandrwydd a rhodres, mae’r darlun yn portreadu pobl gyffredin wrth eu gwaith ac yn rhoi cipolwg ar  fywyd bob dydd.

Dywedodd Mari Elin Jones, swyddog dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru “Mae hi wedi bod yn fraint anhygoel i weithio gyda’r National Gallery ar yr arddangosfa hon i nodi eu pen-blwydd yn 200 oed.

"Mae gallu croesawu campwaith Canaletto yn ôl i Gymru wedi iddo gael lloches yma dros 80 mlynedd yn ôl yn hynod gyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r stori hynod hon gyda’r cyhoedd.

“Mae’r arddangosfa hefyd wedi bod yn ysgogiad gwych i dreiddio’n ddyfnach i’n casgliad cenedlaethol ein hunain o dirluniau Cymreig, ac rydym wrth ein bodd i fod yn arddangos bron i 100 o weithiau sy’n ymestyn dros 250 mlynedd yn oriel fawreddog Gregynog.”