Y Llyfrgell Genedlaethol: Pum peth o sgwrs Dr Rhodri Llwyd Morgan

Rhodri Llwyd MorganFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Llwyd Morgan yw Prif Weithredwr newydd y Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

"Bedydd caredig, cynnes a thân yn ogystal"

Dyna sut wnaeth Dr Rhodri Llwyd Morgan ddisgrifio ei wythnos gyntaf yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae'n camu i mewn i'r swydd ar ôl cyfnod o weithio fel Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar ôl dim ond wyth diwrnod yn y swydd, cafodd sgwrs gydag Alun Thomas ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, a dyma bum peth oedd yn sefyll allan o'r sgwrs honno.

Apêl y swydd?

Dywedodd Dr Llwyd Morgan fod yr apêl yn un "amlwg i symud i sefydliad cenedlaethol o bwys."

"Dw'i wedi edmygu gwaith y Llyfrgell ers yn ifanc. Roeddwn yn edrych i fyny ar y Llyfrgell pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn edrych draw gydag edmygedd tra'n gweithio yn y Brifysgol.

"Mae wedi chwarae rôl flaenllaw ym mywyd y genedl.

"Mae'n chwarae rôl actif dwi'n teimlo o ran yr ymwybod sydd gyda ni o'n hunain fel cenedl.

"Dwi'n falch dros ben," meddai.

Y cyfrifoldeb

"Teimlad o gyfrifoldeb? Mae'n cadw rhywun yn effro pob nos," meddai.

"Meddwl am y trysorau sydd yma, meddwl am y gwaith ardderchog sydd wedi bod yn digwydd yma ers 120 o flynyddoedd a mwy.

"Mae yna bobl yma sydd yn arweinwyr yn arbenigwyr byd eang mewn sawl maes o ran llyfrgellyddiaeth, archifau, digido, deallusrwydd artiffisial.

"Mae'r peth yn wych ein bod yma fel gwlad fach yn meddu ar drysorau mawr ac ar drysor mawr fel sefydliad."

'Mynd a'r Llyfrgell i bob cwr o Gymru'

Na, does dim bwriad o gwbl i symud y Llyfrgell Genedlaethol o Aberystwyth...

Ond mae bwriad i ehangu'r modd o gael mynediad i rai o brosiectau'r llyfrgell mewn trefi a dinasoedd o amgylch Cymru.

Dyma oedd gan Dr Llwyd Morgan i'w ddweud ar y pwnc o gynnig prosiectau'r llyfrgell mewn cymunedau ar draws Cymru wrth wynebu heriau ariannol:

"Mae sawl un o'n prosiectau mwyaf blaenllaw ni wedi digwydd oherwydd ceisiadau grant sylweddol, dwi'n meddwl am yr Archif Ddarlledu Cymru fel enghraifft ddiweddar.

"Mae prosiect yr Archif Ddarlledu y Corneli Clip, mae nifer ohonyn nhw wedi agor yng Nghaerfyrddin, Conwy, Llanrwst ac Abertawe.

"Mae'r rheiny yn safleoedd o fewn adeiladau cyhoeddus sydd yn galluogi pobl i fynd at gyfrifiadur a chael i mewn i holl gyfoeth yr archif ddarlledu. Mae 250,000 o ddeunydd darlledu radio a theledu wedi eu digido ac ar gael i'w mwynhau.

"Mae 'na chwech o ganolfannau eraill i'w hagor dros y flwyddyn.

"Rydym yn sôn am ganolfannau yng Nghaerdydd, Canolfan y Mileniwm, Archif Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Merthyr Tudful, Caernarfon, Hwlffordd, Llangefni, Wrecsam, Y Drenewydd a Rhuthun.

"Felly rydym yn mynd a'r Llyfrgell i bob cwr o Gymru."

Gweledigaeth

"Llunio cynllun strategol, taro cyd bwysedd cywir rhwng rhoi'r anrhydedd dyledus i'r gwaith craidd ond hefyd ar yr un pryd, adnabod dau neu dri phrosiect uchelgeisiol iawn i ni fel sefydliad i'n symud ni ymlaen unwaith eto," meddai.

"Mae'r archif ddarlledu wedi profi bod y Llyfrgell yn hollol abl i wneud hynny mewn ffordd ysgubol o ran datblygiad sydd wedi symud pethe yn ei blaenau.

"Dwi'n gobeithio bydd fy nghyfnod i a cyfnod y prif weithredwr nesaf yn golygu fod y Llyfrgell yn mynd o nerth i nerth."

Pynciau cysylltiedig