'Trysor Saunders Lewis' yn cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn llawn trysorau.
Pan gafodd Ffion Dafis wahoddiad gan Dr Maredudd ap Huw (Curadur Llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol) i weld un o 'greiriau'r genedl,' prin yr oedd hi'n disgwyl gweld yr hyn oedd ar y bwrdd o'i blaen mewn bocs maint cas sbectol.
Ond, roedd cliwiau eraill wedi eu gwasgaru ar draws y bwrdd ynglŷn â'r sawl oedd yn berchen ar y bocs a'i gynnwys.
Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai eiddo Saunders Lewis oedden nhw, ac yn fwy na hynny, rhywbeth gafodd, o bosib, ei ddefnyddio i ffurfio un o ddogfennau enwocaf yr iaith Gymraeg.
Cyn mynd ati i agor y bocs, roedd rhyfeddodau eraill ar y bwrdd oedd yn haeddu sylw.
Yma oedd rhai o ddramâu Saunders Lewis, gan gynnwys, Blodeuwedd, Esther a Siwan.
Roedd Maredudd ap Huw yn eu galw nhw'n ‘jig-so creadigol’.
“Does dim un llawysgrif wreiddiol yma na drama wreiddiol. Does dim Blodeuwedd mewn drafft na ddrafftiau gwahanol o Esther na ddim byd.
“Roedd Saunders yn berson creadigol iawn ond mae gen i ofn, unwaith oedd y dramâu wedi cael eu cyhoeddi doedd yna ddim un o’r sgriptiau yn cael eu cadw.”
- Adran y stori
Adolygiad Kate Roberts
Roedd act gyntaf Blodeuwedd i’w gweld yn rhifyn y gaeaf o'r Llenor yn 1923, ond roedd yn rhaid disgwyl tan 1948 cyn gweld y ddrama gyflawn.
Roedd cais wedi dod yn 1947 gan Theatr Garthewin am ddrama Gymraeg newydd, a dyma Saunders Lewis yn cwblhau Blodeuwedd a’i hanfon atyn nhw i’w pherfformio.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gopïau gwreiddiol o gynllun gwisgoedd trawiadol y perfformiad cyntaf gan y cynllunydd Morris Jones.
Yn ystod y perfformiadau roedd 'na adolygwyr yn y gynulleidfa. Ar y noson gyntaf, un oedd yn bresennol oedd cyfaill agos iawn i Saunders Lewis, neb llai na Kate Roberts.
Ar y pryd Kate Roberts oedd yn gyfrifol am bapur newydd Y Faner a hithau hefyd oedd yn adolygu dramâu'r cyfnod ar gyfer y papur.
Fe ddisgrifiodd Kate Roberts berfformiad yr actorion yn y ddrama fel un ‘caboledig wych, mewn drama anodd.’
Roedd hi’n gwbl amlwg yn y cyfnod fod Kate Roberts a Saunders Lewis yn gohebu gyda'i gilydd yn aml, y naill a’r llall yn canmol gwaith ei gilydd.
Mae un o’r llythyrau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos Saunders Lewis yn dweud ei fod wedi darllen Te’n y Grug o leiaf dwywaith gan ddweud fod ‘graen proffesiynol ar y straeon i gyd.’
Nesaf ar y bwrdd o drysorau oedd rhai o lawysgrifau'r ddrama Siwan, drama y mae Ffion Dafis ei hun wedi bod yn rhan allweddol ohoni yn ddiweddar.
Fe bortreadodd Ffion y cymeriad Siwan mewn monolog yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn 2008.
Mae copi o’r Radio Times o Chwefror 1954 yn dangos fod cynhyrchiad radio o'r ddrama Siwan wedi cael ei darlledu ar donfeddi’r BBC.
A dyma gyrraedd y bocs.
“Os ydi hon yn be’ dwi’n feddwl ydi hi, dwi yn mynd i fod wrth fy modd,” meddai Ffion.
Yn y bocs mae ysgrifbin du gyda llofnod Saunders Lewis wedi naddu arni gan ‘ddosbarth yr aelwyd 1938-39.’
Dywedodd Meredudd ap Huw, “Mae hi’n grair hynod, hynod o ddiddorol, wedi dod i mewn yng nghanol casgliad o bapurau'r diweddar Ken Owen o Farian-glas, Sir Fôn.
“Mae hi’n ysgrifbin pwysig, mae hi’n mynd â ni yn ôl i 1938-39 pan oedd Saunders wedi’i ryddhau o’r carchar ac wedi colli ei swydd yn Abertawe cyn symud i ffermio yn Aberystwyth."
Un dirgelwch mawr ynghylch yr ysgrifbin yw ei defnydd i ysgrifennu rhai o glasuron dramatig yr iaith Gymraeg.
'Moment hynod arbennig'
Ond mae tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos efallai fod Saunders Lewis wedi defnyddio’r union ysgrifbin i ysgrifennu ei ddarlith, Tynged yr Iaith yn 1962.
Mae llun o 1962 gafodd ei dynnu gan y Western Mail a’i gyhoeddi yn y gyfrol Bro a Bywyd Saunders Lewis yn dangos Saunders wrth ei ddesg yn ei gartref ym Mhenarth ac o’i flaen y botel inc a’r union ysgrifbin.
Mae Maredudd ap Huw yn pwysleisio nad amgueddfa yw’r llyfrgell ac nad ydyn nhw fel arfer yn derbyn casgliadau personol, ond roedd hi’n amhosib peidio derbyn y casgliad yma.
Cyn rhoi’r ysgrifbin nôl yn y bocs, dywedodd Ffion Dafis ei bod wedi “profi un o fomentau hynod arbennig ei bywyd” o gael gafael yn yr ysgrifbin sydd wedi bod yn gyfrifol, efallai, am lunio rhai o lenyddiaeth bwysicaf yr iaith Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022