Bws yn hongian ar y dibyn ar safle ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio yn dilyn gwrthdrawiad ar dir ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg.
Mae'n ymddangos fod bws wedi taro drwy ffens a tharo wal maes parcio aml-lawr a'i fod yn hongian ar y dibyn brynhawn Iau.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cafodd 11 o bobl fân anafiadau ac fe gafodd dau eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.
Cafodd sawl car a oedd wedi parcio eu difrodi ac mae un maes parcio ar safle'r ysbyty yn parhau i fod ynghau.
Roedd criwiau tân Bro Morgannwg ar y safle yn helpu i gadw trefn ac i sicrhau fod y safle yn saff.
Fe wnaeth y ddamwain achosi oedi mawr yn yr ysbyty gyda bysiau yn cael eu gyrru i orsafoedd bws gerllaw.
Cafodd pobl gyngor i osgoi'r safle ddydd Iau.