Ymosodiad yn 2002 wedi cyfrannu at farwolaeth dyn y llynedd - cwest

Leon Adams gyda'i fam, Angela MainFfynhonnell y llun, Reach
Disgrifiad o’r llun,

Leon Adams gyda'i fam, Angela Main

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ymosodiad ar ddyn a'i adawodd ag anafiadau difrifol yn 2002 gyfrannu at ei farwolaeth 23 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ôl crwner.

Clywodd cwest Leon Adams, a fu farw ddiwedd 2024, fod ei anafiadau adeg yr ymosodiad mor ddifrifol bod ei fam ond wedi gallu ei adnabod drwy siâp ei drwyn.

Does neb wedi eu herlyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad yng Nghaerdydd yn Chwefror 2002.

Buodd Mr Adams mewn coma am ddwy flynedd wedi'r digwyddiad, ac yna roedd angen gofal 24 awr arno.

Dywedodd ei fam, Angela Main, ei fod yn "ddyn mor ddoniol", oedd "wedi brwydro gymaint dros y 23 mlynedd".

Clywodd y cwest fod Ms Main wedi codi pryderon yn Nhachwedd 2024 bod ei mab yn colli pwysau a'i iechyd yn dirywio.

Dywedodd nad oedd staff wedi gwrando ar ei phryderon, ond erbyn iddo fynd i Ysbyty Treforys yn Rhagfyr 2024, roedd yn cael trawiadau (seizures) cyson.

Dywedodd Ms Main ei bod hefyd wedi cael sioc o ddysgu bod gan ei mab gymhlethdod difrifol yn ymwneud â diabetes math 2 - er nad oedd wedi cael diagnosis o hynny tra'i fod yn fyw.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif ddydd Mercher, dywedodd y crwner Patricia Morgan fod Mr Adams wedi marw o septisemia ynghyd ag anafiadau difrifol i'r arennau, yn ogystal â pharlys o ganlyniad i anaf trawma i'r ymennydd.

Dywedodd hefyd fod yr anafiadau a gafodd yn yr ymosodiad yn golygu "nad oedd gan ei gorff y gallu i frwydro heintiau", ac felly bod hynny wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Nid oedd hi'n gallu dweud yn sicr a fyddai ymyrraeth feddygol i'r cyflwr cysylltiedig â diabetes wedi newid y canlyniad, meddai.

Pynciau cysylltiedig