'Lle i amau' fod marwolaeth yn sgil trawma ymosodiad 2002
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn bron i 23 o flynyddoedd wedi ymosodiad difrifol ar stryd yng Nghaerdydd, clywodd cwest.
Daethpwyd o hyd i Leon Adams yn anymwybodol ger gorsaf reilffordd Grangetown yn yr oriau mân ar 14 Chwefror 2002.
Fe fu farw ddydd Gŵyl San Steffan 2024.
Clywodd cwest ym Mhontypridd fod Mr Adams, oedd yn 24 pan ddigwyddodd yr ymosodiad, wedi bod mewn coma yn yr ysbyty am ddwy flynedd.
Fe gafodd anafiadau i'w ymennydd yn ystod yr ymosodiad ac fe glywodd y crwner fod "lle i amau" fod yr ymosodiad gwreiddiol wedi "cyfrannu at ei anafiadau".
Does neb wedi cael eu herlyn am yr ymosodiad.
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad bod Mr Adams wedi marw o ganlyniad i septisemia ynghyd ag anafiadau difrifol i'r arennau, yn ogystal â pharlys o ganlyniad i anaf trawma i'r ymennydd.
Dywedodd y crwner, Graeme Hughes: "Mae gyda fi le i amau fod marwolaeth Mr Adams o ganlyniad i trawma, sydd felly yn arwain at barhau â'r ymchwiliad."
Ychwanegodd ei fod wedi gofyn i'w swyddogion gasglu tystiolaeth ynghylch amgylchiadau'r farwolaeth.
Bydd adolygiad cyn cwest yn yr haf ac fe gafodd y cwest ei ohirio tan hynny.
Estynodd Mr Hughes ei gydymdeilad at deulu a ffrindiau Leon Adams.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud y bydd yn parhau i gymryd camau os ddaw gwybodaeth newydd i'r fei.
Er i elusen gynnig gwobr o £10,000 i geisio dod o hyd i'r sawl oedd yn gyfrifol ni ddaethpwyd o hyd i'r ymosodwr.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad oriau wedi i dîm pêl-droed Cymru wynebu'r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, fel yr oedd yn cael ei 'nabod ar y pryd.
Fe gafodd ei weld ar luniau CCTV yng nghanol y ddinas tua 02:00 y bore, a'i ganfod yn gorwedd ar y llawr am 05:10.
Roedd ei wyneb wedi chwyddo ac yn waedlyd.
Y gred yw bod tri dyn yn rhan o'r ymosodiad, a ddigwyddodd o gwmpas 02:30.
Pan gafodd y wobr ariannol ei chynnig yn 2018 yn y gobaith i ddal y sawl a'i anafodd, dywedodd ei fam Angela Main bod cael gwybod y gwir "yn golygu llawer" iddo.
"Mae e'n gofyn yn aml - mae e eisiau gwybod pam," meddai. "Pam wnaethon nhw wneud e?
"Sut allwch chi sathru ar wyneb dyn, yn llythrennol mor galed nes eich bod yn gadael ôl troed sy'n bosib ei gyfateb i esgid? Dydw i ddim yn deall pam."