Cymeradwyo pont newydd £3m yn lle strwythur 'eiconig'

Darlun o sut byddai disgwyl i'r pont grog newydd edrychFfynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut allai'r bont grog newydd dros Afon Conwy ym Metws-y-coed edrych

  • Cyhoeddwyd

Mae pont droed newydd yn Eryri fyddai'n cymryd lle strwythur sydd wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers dros dair blynedd wedi cael ei chymeradwyo.

Ers bron i 100 mlynedd mae Pont y Soldiwr - neu Sappers' Bridge - wedi darparu croesfan ddiogel dros Afon Conwy ym Metws-y-coed.

Mae wedi bod ar gau ers Rhagfyr 2021 wedi i beirianwyr ganfod fod llawr pren y bont yn pydru a bod gwendid gyda'r ceblau dur.

Mae'r bont newydd yn werth £3m a fore Mercher cafodd y cynllun ei ganiatàu gan Bwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri.

'Effaith gadarnhaol'

Bydd cynllun Cyngor Conwy yn golygu pont lletach na'r un presennol, sef 4 medr o'i gymharu â 1.4 medr Pont y Soldiwr.

Roedd y cais yn amlinellu y byddai'n welliant ar y strwythur presennol, sydd wedi ei "orchuddio â rhwd", gyda'r cyllid ar gyfer ei adeiladu yn cael ei ddarparu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Pont y Soldiwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont bresennol, Pont y Soldiwr, ar gau i'r cyhoedd ers Rhagfyr 2021

Roedd y cynlluniau eisoes wedi denu cefnogaeth gan Gyngor Cymuned Betws-y-coed sy'n credu y byddai'n cael effaith gadarnhaol ar fusnesau a chanol y pentref.

Ac er gwaethaf pryderon gan rai o swyddogion y parc bod y dyluniad "braidd yn ddiffygiol ac y gellid ei wella'n gyffredinol", roedd Cyngor Conwy "wedi darparu cyfiawnhad manwl a thystiolaeth ar gyfer sail resymegol dylunio'r bont arfaethedig fel sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd".

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Liz Roberts, fod llawer yn gweld colli'r bont, sydd wedi bod yn "eicon bwysig i Betws ac yn rhan o hanes y pentref".

"Mae'r bont yn bwysig gan fod o'n adnodd cyswllt rhwng busnesau sydd ochr arall i'r afon, ger yr A470 a phentref Betws," meddai.

"Mae wedi achosi problemau i'r busnesau hynny ers i'r bont gau."

Liz Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Liz Roberts yn cefnogi'r ymdrechion i godi pont droed newydd yn y pentref

Ychwanegodd Ms Roberts ar raglen Dros Frecwast fore Mercher fod cau'r bont wedi bod yn "golled fawr i'r gymuned leol a'r ardal ehangach hefyd".

"I bobl sy'n cerdded neu'n rhedeg ac i bobl sy'n byw'r ochr draw i'r A470, byddai hi lot haws iddyn nhw groesi'r bont yn hytrach na gorfod mynd reit rownd at Bont Waterloo i gyrraedd y pentref, yn enwedig mewn tywydd garw.

"Bydd pobl mewn cadair olwyn hefyd yn gallu defnyddio'r bont newydd - rhywbeth fydd yn bonus arall.

"Does gan yr awdurdod lleol ddim yr arian rhagor, ac mi fydda fo'n costio dros £1m i adfer yr hen un - felly pan gawson ni'r pres yma (gan Lywodraeth y DU) roedd o fel ryw magic yn dod i'n helpu ni."

y parchedig Stuart Elliot
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parchedig Stuart Elliot am weld pont "sydd yn rhan o'r cynllun teithio llesol"

Dywedodd y parchedig Stuart Elliot, sy'n byw yn lleol, y byddai adeiladu pont newydd yn hwb i fusnesau.

"Mae angen pont sydd yn ein galluogi i groesi'r afon - mae busnesau a phobl sy'n byw yn y gymuned angen yr access yna. Mae Rhyd-y-creuau yn rhan o Fetws-y-coed, mae Zip Forest yn rhan o Fetws-y-coed.

"Mae angen y bont ar gyfer access, ond hefyd pont sydd yn rhan o'r cynllun teithio llesol."