Pam bod y gwasanaeth iechyd angen arian ychwanegol?

Ward gwag mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yr arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r gyllideb hon, ac mae disgwyl iddo dderbyn dros £400m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau o ddydd i ddydd, a £175m o gyllid cyfalaf ar gyfer isadeiledd a thechnoleg y flwyddyn nesaf.

Ar un lefel efallai dyw'r penderfyniad gwleidyddol i flaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd ddim yn syndod - yn enwedig gan y bydd gwleidyddion Bae Caerdydd yn wynebu etholiad cyn bo hir.

Mae arolygon yn gyson awgrymu fod iechyd yn flaenoriaeth i bobl pan fo nhw'n dewis sut mae pleidleisio - ac mae heriau mawr y gwasanaeth iechyd yn amlwg.

Pa heriau sy'n wynebu'r GIG?

Mae rhestrau aros yng Nghymru yn uwch nag erioed, ac yn tyfu, gyda dros 800,000 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau.

Mae cyfran y cleifion sy'n aros y cyfnodau hiraf am y triniaethau hynny (dros flwyddyn neu ddwy) hefyd gryn dipyn yn uwch nag yn Lloegr.

Mae unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans dan bwysau sylweddol drwy gydol y flwyddyn ac yn paratoi am aeaf anodd arall gyda chyfraddau ffliw a heintiau eraill sy'n ymledu yn y gaeaf yn codi.

Mae cost meddyginiaethau ar gynnydd hefyd gyda 84.6m o bresgripsiynau wedi cael eu rhoi yng Nghymru y llynedd - y ffigwr uchaf erioed.

Mae nifer o adeiladau'r gwasanaeth iechyd yn hen erbyn hyn, gyda'r amcangyfri' yn 2022/23 fod gwaith cynnal a chadw gwerth £793m i'w gyflawni.

Yn y cyfamser, mae cynlluniau blynyddol byrddau iechyd yn awgrymu y byddan nhw'n wynebu diffyg ariannol ar y cyd o £221m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

O ystyried hynny fe fyddai'n benderfyniad dewr peidio rhoi arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd ac mae'n debygol y caiff y cyllid ei lyncu'n gyflym.

Heriau i wasanaethau eraill

Ond dyw'r gwasanaeth iechyd ddim wedi'i ynysu o'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau eraill.

Cymerwch y straen ar ofal cymdeithasol er enghraifft.

Ar unrhyw adeg mae tua 1,500-1,700 o gleifion mewn gwelyâu yn ysbytai Cymru sy'n ddigon iach yn feddygol i adael, ond sy'n aros am asesiadau neu i ofal priodol gael ei drefnu ar eu cyfer.

Ac os yw wardiau ysbytai yn llenwi oherwydd hyn mae'r effeithiau yn cael eu teimlo ar draws y gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i wardiau ysbytai lenwi mae'r effeithiau yn aml yn cael eu teimlo ar draws y gwasanaeth iechyd

Mae 'na fwy o risg y caiff triniaethau gafodd eu trefnu o flaen llaw eu gohirio - sy'n cael effaith ar ymdrechion i ostwng rhestrau aros.

Mae yna effaith hefyd ar ofal brys.

Pan fo'r wardiau'n llawn mae unedau brys yn llenwi sy'n achosi i ambiwlansys giwio y tu fas i'r unedau hynny ac effeithio ar eu gallu i ymateb i alwadau 999 yn gymuned.

Atebion tymor byr

Ond mae 'na risgiau yn gysylltiedig â blaenoriaethu iechyd ar draul meysydd eraill ac adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru - sydd wedi gweld toriadau go sylweddol o ganlyniad i gyllidebau blaenorol.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai atebion tymor byr - lle mae arian yn cael ei drosglwyddo o gyllidebau eraill er mwyn cynnal y gwasanaeth iechyd - arwain at heriau dros y tymor hir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhestrau aros yng Nghymru yn uwch nag erioed ac yn tyfu, gyda dros 800,000 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau

Mae ymchwil yn awgrymu fod y gwasanaeth iechyd yn cyfrannu cyn lleied â 10% tuag at iechyd a lles cymdeithas.

Felly os nad oes digon yn cael ei wario ar wasanaethau fel tai, gwasanaethau hamdden a chefnogaeth i blant yn ystod y blynyddoedd cynnar, yna gallai hynny olygu pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yn y pendraw.

Mae hynny'n bryder penodol o ystyried fod iechyd a gofal bellach yn llyncu 56% o gyllideb dydd i ddydd Llywodraeth Cymru, o gymharu â 36% chwarter canrif yn ôl ar ddechrau datganoli.

Pynciau cysylltiedig