Iechyd i gael £610m yn ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi cynllun gwario gwerth £26bn

  • Cyhoeddwyd

Mae gofal iechyd yng Nghymru yn cael cynnig cannoedd o filiynau o bunnoedd yn fwy y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â'r amseroedd aros uchaf erioed.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd £1.5bn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn ei chyllideb o £26bn ar gyfer mis Ebrill nesaf.

Bydd pob adran yn gweld cynnydd - gyda thrafnidiaeth yn cael yr hwb canrannol mwyaf, yn rhannol i dalu am uwchraddio ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford fod y gyllideb yn "gyfle gwirioneddol" i "adfywio ein gwasanaethau cyhoeddus".

Bydd yr adran iechyd yn derbyn £610m yn ychwanegol, tra bydd tai a llywodraeth leol - sy'n ariannu gofal cymdeithasol - yn cael bron i £400m yn ychwanegol.

Mae'n gyferbyniad i'r gyllideb ddiwethaf a dorrodd bob adran ar wahân i iechyd a thrafnidiaeth.

Wrth ymateb, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Cymru "ar chwâl" o dan y blaid Lafur, tra bod Plaid Cymru yn dadlau na fyddai'r gyllideb yn ddigon i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chynghorau lleol.

Ychwanegodd y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford: "Mae hon yn gyllideb dda i Gymru.

"Ond fe fydd yn cymryd amser i wrthdroi'r difrod a achoswyd i Gymru dros 14 mlynedd hir o esgeulustod gan weinyddiaethau blaenorol y DU."

Daw'r rhan fwyaf o'r cyllid gan Lywodraeth y DU, a roddodd hwb ariannol i Lywodraeth Cymru pan gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves ei chyllideb ym mis Hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond nid yw'n glir faint o arian fydd yn cael ei lyncu gan y taliadau yswiriant gwladol uwch i gyflogwyr a gyflwynodd hi.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyllid ychwanegol i dalu'r gost i gyflogwyr y sector cyhoeddus, ond nid ar gyfer y cwmnïau preifat sy'n darparu llawer o wasanaethau, gan gynnwys busnesau sy'n rhedeg cartrefi gofal.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

  • Bydd yr adran iechyd, sy'n cynnwys gofal plant, yn derbyn 3.8% ychwanegol mewn gwariant o ddydd i ddydd gwerth £435m, a £175m yn ychwanegol ar gyfer gwariant seilwaith, a elwir yn gyfalaf;

  • Bydd tai a llywodraeth leol yn cael £279.9m (5.4%) ychwanegol a £120m yn fwy mewn cyfalaf;

  • Bydd trafnidiaeth yn cael £69.6m (12%) yn ychwanegol, a £51m yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf;

  • Bydd addysg (nad yw'n cynnwys ysgolion, sydd dan ofal cynghorau) yn derbyn £83.6m (4.9%), a £28m yn fwy mewn cyllid cyfalaf (8.1%);

  • Bydd newid hinsawdd a materion gwledig yn derbyn £36.35m (6.6%) ychwanegol a £71.95m mewn mwy o gyfalaf (31%);

  • Bydd cyfiawnder cymdeithasol yn cael £6.8m ychwanegol o refeniw (4.7%) a £3m ar gyfer cyllid cyfalaf.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu pryder ers blynyddoedd am orwario ar gynllun Ffordd Blaenau'r Cymoedd

Mae'r arian ar drafnidiaeth yn cynnwys £30m o daliadau blynyddol y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu talu am Ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd wedi ei hariannu yn breifat, unwaith y bydd wedi'i chwblhau.

Gwelodd cyrff celfyddydau a diwylliant a Chwaraeon Cymru doriad o 10% eleni. Byddant yn cael cynnydd o £5m y flwyddyn nesaf, ond ni fydd yn gwneud iawn am doriadau blaenorol.

Bydd angen gwleidydd o'r gwrthbleidiau ar Lywodraeth Cymru i'w helpu i basio eu cynlluniau yn y Senedd, gyda phleidlais derfynol ym mis Mawrth 2025.

Roedd yn ymddangos bod gwleidydd Plaid Cymru wedi diystyru cytundeb ar y gyllideb fore Mawrth.

Gofynwyd i lefarydd cyllid y blaid, Heledd Fychan, ar Radio Wales Breakfast a oedd hi'n barod am gytundeb cyllideb: "Na. Rydyn ni eisiau cyllid teg i Gymru."

Dywedodd Jane Dodds, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol Cymreig yn y Senedd, wrth Radio Cymru, nad oedd yn diystyru cytundeb.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y gyllideb drwodd ac yn cael yr arian yn llawn," meddai.

"Rwy'n agored i siarad â nhw ond dydw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd eto."

Cymru 'ar chwâl'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid a llywodraeth leol, Peter Fox: "O dan Lafur, mae Cymru'n amlwg ar chwâl, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig all fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu busnesau a theuluoedd sy'n gweithio'n galed.

"Efallai y bydd gweinidogion Llafur yn awyddus i sôn am y gyllideb hon, ond gadewch i ni beidio ag anghofio ei fod yn dod o £40b mewn codiadau treth a cherdyn credyd Canghellor newydd Llafur, tra bod pensiynwyr yn colli buddion hanfodol a ffermwyr yn cael eu gorfodi i chwalu ffermydd teuluol."

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: "Mae cyllideb Llafur yn anuchelgeisiol, ac yn disgyn yn druenus o brin o'r hyn sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru sydd mewn trafferthion.

"I lywodraeth leol, does dim digon yma o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen i gwrdd â'r heriau cynyddol y mae cynghorau yn eu hwynebu."

Ychwanegodd: "Rydym wedi cael cyllideb sydd ddim hyd yn oed yn darparu digon i atgyweirio'r toeau ar ein hysbytai.

"Mae Cymru yn dal i fod yn styc gyda'r setliad ariannol gwaethaf o unrhyw wlad ddatganoledig, heb ddim arwydd o newid fformiwla ariannu Barnett, a dim gweithredu ar y £4b sydd yn eiddo i'n gwlad o HS2 na datganoli Ystâd y Goron chwaith - sy'n hanfodol i fuddsoddiad teg mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ysgogi twf economaidd."