Dirwy o £10,000 i siop cebab am achosi gwenwyn bwyd i 50 o gwsmeriaid

Hassan Saritag (chwith) a Sami Abudullah
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hassan Saritag (chwith) a Sami Abudullah gyfaddef i droseddau bwyd ar ôl i 51 o gwsmeriaid eu siop cebab gael gwenwyn bwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn fu'n rhedeg siop cebab wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 ar ôl i 11 o'u cwsmeriaid gael eu trin yn yr ysbyty am wenwyn bwyd.

Fe wnaeth Sami Abdullah, 46, o Gwmbrân, a Hassan Saritag, 38 oed o'r Fenni, gyfaddef i dri chyhuddiad yr un o droseddau hylendid bwyd ym mis Mai.

Roedd y ddau yn rhedeg siop cebab Marmaris ar Stryd Groes, Y Fenni.

Clywodd Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher, bod dros 50 o gwsmeriaid siop cebab Marmaris wedi mynd yn sâl ar ôl bwyta bwyd oedd yn cynnwys y bacteria shigella.

Fe wnaeth y ddau ddyn gyfaddef i werthu bwyd anniogel ym mis Chwefror 2023 yn ogystal â methu i gynnal hylendid bwyd a chadw cofnodion priodol.

'Plentyn wedi cael diabetes'

Clywodd y llys bod y 51 o achosion gwenwyn bwyd wedi cael "effaith eang" ar y dioddefwyr gan gynnwys plentyn 11 oed a ddatblygodd diabetes yn ddiweddarach.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth Sophie Toms: "Mae gweithredoedd chi'ch dau wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles eich cwsmeriaid chi.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod busnesau tecawê a'u llwyddiant wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth y busnes hwnnw i gadw pobl yn ddiogel.

"Fe wnaeth y ddau ohonoch chi fethu cynnal y gwaith hwnnw, gan dorri ymddiriedaeth pobl yn Y Fenni ac achosi niwed sylweddol."

Nid oes modd cadarnhau union ffynhonnell yr achos, ond clywodd y llys bod ymchwiliad wedi canfod bod y bacteria yn gysylltiedig â methiant y gweithwyr i gadw llysiau oedd wedi'u golchi a llysiau nad oedd wedi'u golchi ar wahân wrth baratoi coleslaw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod y 51 o achosion gwenwyn bwyd o'r siop Marmaris wedi cael "effaith eang" ar y dioddefwyr

Dywedodd Scott Tuppen, cyfreithiwr Abdullah, bod ganddo hanes hir yn gweithio mewn bwytai heb unrhyw fater hylendid blaenorol.

"Mae Mr Abdullah yn ymddiheuro'n ddwys i'r rhai sydd wedi'u heffeithio ac yn enwedig y rhai a ddioddefodd yn barhaol," meddai.

Yn ôl David Leathley, cyfreithiwr Saritag, roedd y digwyddiad yn cynnwys math prin o E. coli ac "ni welodd neb hyn yn dod".

Cafodd Abdullah orchymyn i dalu dirwy o £2,000, tra cafodd Saritag ddirwy o £3,065.

Cafodd y ddau orchymyn hefyd i dalu £2,792 mewn costau.