Pedwar o deigrod prin yn cael eu geni yn Sir Benfro

Teigr Sumatra chwe wythnos oed yn edrych i ffwrdd gyda'i lygaid glas. Ffynhonnell y llun, Megan Lee Photography
Disgrifiad o’r llun,

Un o bedwar cenaw sydd wedi cyrraedd Manor House Wildlife Park

  • Cyhoeddwyd

Mae sŵ yn Sir Benfro wedi croesawu pedwar teigr Sumatra prin gan roi gobaith newydd i rywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu.

Fe gafodd y cenawod "swnllyd ond ciwt iawn" eu geni tua chwe wythnos yn ôl yn Manor House Wildlife Park.

Mae'r parc wedi bod yn ceisio cadw'r newyddion yn gyfrinachol tra bod y teigrod yn cael cyfle i ymgartrefu gyda'u mam Terima, sydd yn 11 oed.

Cafodd y teigrod eu geni ar 8 Mehefin gan wneud Sir Benfro yn gartref i gyfanswm o saith teigr Sumatra.

Disgrifiad,

Dywedodd y perchennog, Anna Ryder-Richardson: "Dyma'r hatsied fwyaf ym Mhrydain, o bosib trwy Ewrop, ac mae'n gyffrous iawn."

Amcangyfrifir bod llai na 400 o deigrod Sumatra ar ôl yn y gwyllt yn sgil colli cynefinoedd a photsio anghyfreithlon.

Mae'r parc bywyd gwyllt yn rhan o "rhaglen fridio llym iawn."

"Mae hwn yn gyfle prin iawn i weld cenawod yng Nghymru," ychwanegodd Ms Ryder-Richardson.

"Mae gan y teigrod waith pwysig iawn i'w wneud oherwydd eu bod wedi cael eu paru'n enetig ar gyfer bridio. Mae'r grŵp bridio yn gobeithio bod un o'r pedwar yma yn wryw."

'Cyfle prin i bobl ddod i weld, a dysgu'

Mae paru a bridio anifeiliaid penodol yn cael ei reoli yn Ewrop gan un corff sydd yn gwneud parau yn ôl amrywiaeth genetig a meini prawf ar addasrwydd.

Mae'n golygu bod rhaid i bob sŵ sy'n rhan o'r rhaglen anfon eu hanifeiliaid at sŵ arall i'w bridio, os gofynnir iddynt wneud hynny.

Nod y cydweithredu yw ceisio sicrhau bod y boblogaeth gyffredinol mor gryf ac iach â phosibl.

Y fam, Tarima yn chwyrnu tra bod un o'r cenawod yn llyfu ei wefusau. Ffynhonnell y llun, Megan Lee Photography
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cenawod yn aros yn y parc bywyd gwyllt am ddwy flynedd cyn symud i sŵ arall i barhau yn y rhaglen fridio

Dywedodd Ms Ryder-Richardson: "Ni fyddwch yn gallu gweld Teigrod Sumatra yn y gwyllt, falle yn ystod ein hoes ni ond yn sicr yn ystod oes ein plant ni.

"Mae'r rhywogaeth yn diflannu ac mae'n digwydd o flaen ein llygaid ni ac mae'n drasig iawn.

"Dwi ddim yn meddwl bydd ein sŵ ni yn cael bridio eto, oni bai ein bod yn dod â gwryw arall i mewn, neu'n cyfnewid y benywod ond dydyn ni ddim am wneud hynny.

"I Gymru, mae'n gyfle prin ac mae'n bwysig i bobl ddod i weld, a dysgu."

Roedd Manor House Wildlife Park wedi bod yn ceisio bridio o'u teigrod yn aflwyddiannus ers dros wyth mlynedd cyn i'w cenaw cyntaf gyrraedd yn 2024.

Mae'r parc bywyd gwyllt yn apelio am awgrymiadau o ran enwi'r cenawon, unwaith y byddan nhw'n gwybod eu rhyw, gyda Ms Ryder-Richardson yn gobeithio "am enwau Cymraeg".