'Dim posib aros' am ysbyty newydd i'r gorllewin cyn gwella gwasanaethau

Mae Ysbyty Glangwili yn dyddio'n ôl i 1949
- Cyhoeddwyd
Mae "dadl gref" wedi ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru am fuddsoddiad yn ysbytai gorllewin Cymru, yn ôl prif weithredwr y bwrdd iechyd, yn dilyn cyfaddefiad na fydd ysbyty newydd yn cael ei chodi yn y dyfodol agos.
Yn ôl Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, "dyw hi ddim yn bosib aros am ysbyty newydd" cyn y bydd yna "fuddsoddiad i wella'r is-adeiledd presennol".
Yn y cyfamser, mae rhai o gynghorwyr Plaid Cymru yn ardal Caerfyrddin wedi galw am wario miliynau o bunnau er mwyn adnewyddu Ysbyty Glangwili.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi'n cydweithio gyda'r bwrdd iechyd "ar ei anghenion i'r dyfodol".

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn galw am fuddsoddi miliynau o bunnau er mwyn adnewyddu Ysbyty Glangwili
Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal ymgynghoriad, dolen allanol ar Gynllun Gwasanaethau Clinigol.
Mae'r ymgynghoriad, sy'n edrych ar ddyfodol naw o wasanaethau "bregus" ar draws y bwrdd, yn dod i ben ddydd Sul.
Fe fydd newidiadau i wasanaethau gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endoscopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg, a sut i'w darparau ar draws ysbytai ac yn y gymuned, yn dilyn yr ymgynghoriad.
Mae rhai newidiadau posib yn ddadleuol tu hwnt gan gynnwys cynllun posib i gau unedau strôc ym Mronglais a Glangwili.
Mae disgwyl canlyniad yr ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni neu'n gynnar y flwyddyn nesaf.
Dim ysbyty newydd am ddegawd
Roedd yna gynllun i godi ysbyty newydd ar gyfer gofal brys rhywle rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn ar Dâf, ac fe gyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru yn 2022 am dros £1bn i wireddu'r cynllun.
Y gobaith oedd y byddai ysbyty newydd wedi ei hadeiladu erbyn 2029.
Ond ym mis Tachwedd 2024, fe gyfaddefodd y bwrdd iechyd ei bod hi'n annhebygol y byddai ysbyty newydd yn cael ei chodi yn y gorllewin am o leiaf 10 mlynedd, er bod rhestr fer o ddau safle wedi ei llunio yn barod, yn Sanclêr a Hendy-gwyn ar Dâf.
Yn ôl cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru yn gynharach eleni, fe wariodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros £1.2m ar gyngor arbenigol er mwyn clustnodi safleoedd ar gyfer ysbyty newydd.

Mae'r Cynghorydd Gareth John yn un o nifer sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau yng Nglangwili
Fe agorodd Ysbyty Glangwili yn 1949, ond mae nifer o'r adeiladau ar y safle yn heneiddio.
Yn ôl criw o gynghorwyr Plaid Cymru yn ardal Caerfyrddin, mae hi'n "annhebygol iawn bellach" y bydd cynllun gwerth £1.3bn i godi ysbyty gofal brys newydd yn cael ei wireddu.
Mae'n rhaid felly buddsoddi "miliynau o bunnau" er mwyn adnewyddu Ysbyty Glangwili, yn ôl y Cynghorydd Gareth John.
"Fi'n meddwl gallwn ni gymryd na fydd ysbyty newydd mewn o leia' degawd, os o gwbl.
"Beth ni wedi gofyn yn gyson amdano yw buddsoddi yn y safle hwn i ddod lan â Glangwili i safon fodern, saff, gyda'r adnoddau modern, er mwyn denu doctoriaid ac arbenigwyr i weithio ar y safle.
"Ar yr un pryd, ac yr un mor bwysig, yw buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol ac integreiddio llawer gwell gyda'r cyngor sir a gwasanaethau cymdeithasol. I drio cadw pobl mas o'r ysbyty nes bod rhaid iddyn nhw cael triniaeth. Mae lle i'r safleoedd [ysbyty] i gyd yn fy marn i."
Ychwanegodd bod cyflwr yr adeiladau presennol yn "annheg i'r staff a'r cleifion" am nad oes buddsoddiad wedi bod "ers blynyddoedd maith".

Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r Athro Phil Kloer
Yn ôl prif weithredwr y bwrdd, Phil Kloer mae "is-adeiledd yn heneiddeio ar safleodd yr ysbytai ac mae angen buddsoddiad i sicrhau y gofal gorau".
"Rydym mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth er mwyn gwella'r is-adeiledd. Rwy'n meddwl bod yna ddealltwriaeth bod yr is-adeiledd yn hen, a dyw hi ddim yn bosib aros am ysbyty newydd, cyn bod gwelliannau yn digwydd.
"Fe fydd llawer yn dibynnu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad a'r trafodaethau yn dilyn hynny, a sut i gyfeirio unrhyw fuddsoddiad."

Roedd y ddau safle a glustnodwyd ar gyfer yr ysbyty newydd yn etholaeth Sam Kurtz AS
Yn ôl Sam Kurtz, yr aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Orllewin Sir Gâr a Sir Benfro, mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ymhob un o'r ysbytai presennol, yn ogystal â Glangwili.
"Mae'n dangos bod Plaid Cymru yn meddwl am Gaerfyrddin a nid Sir Benfro. Mae yna ysbytai yn y gorllewin yn Llwynhelyg yn Hwlffordd ac ym Mronglais ble mae angen y buddsoddiad hefyd.
"Hoffwn i glywed wrth y llywodraeth achos nhw sydd yn rheoli gwasanaethau iechyd. Hoffwn i weld bod nhw yn buddsoddi mewn gwasanaethau yma yn y gorllewin.
"Mae pobl yma yn haeddu'r gwasanaethau gorau. Yn anffodus, mae pobl ddim yn cael y gwasanaethau maen nhw yn haeddu."
'Cydweithio gyda'r bwrdd'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydweithio" gyda'r bwrdd iechyd ar anghenion y dyfodol, ac y bydd buddsoddiadau'r dyfodol yn cael eu "llywio" gan waith ar y cynllun gwasanaethau clinigol.
"Fe wnaethon ni fuddsoddi dros £500m yn ystad a seilwaith GIG Cymru llynedd ac rydyn ni'n gweithio gyda Hywel Dda ar eu hanghenion ar gyfer y dyfodol."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi annog y cyhoedd i ymateb i'r ymgynghoriad cyn iddo gau am hanner nos ar 31 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin