Pryderon am gynlluniau i gau unedau strôc

Cyfarfod Bronglais
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 400 o bobl yn y cyfarfod yn Aberystwyth nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Roedd dros 400 o bobl mewn cyfarfod yn Aberystwyth nos Wener i drafod y newidiadau mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn eu cynnig i'r uned strôc yn Ysbyty Bronglais.

Mae'r bwrdd iechyd yn ymgynghori ar newidiadau i naw o wasanaethau ar draws ei bedwar ysbyty cyffredinol – Bronglais yn Aberystwyth, Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli a Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Gall yr opsiynau sy'n cael eu hystyried ar gyfer gwasanaethau strôc olygu y bydd yr unedau strôc ym Mronglais a Glangwili yn cau, gyda'r ysbytai yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo' a gofal arbenigol yn cael ei ddarparu yn Llanelli a Hwlffordd.

Dywed y bwrdd iechyd fod angen newidiadau i wasanaethau strôc "i gyrraedd safonau ac ymateb i fregusrwydd y gwasanaeth".

Cynhaliwyd cyfarfod nos Wener yn y Neuadd Fawr ar gampws prifysgol Aberystwyth, lle'r oedd bron pob sedd yn y neuadd wedi'i llenwi ar noson boeth iawn.

Cafodd ei drefnu gan y grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais sy'n gwrthwynebu'r newid arfaethedig i'r uned strôc, gan ei ddisgrifio fel israddio.

Roedd gwleidyddion Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig o'r canolbarth, y gogledd a'r gorllewin wedi annerch y cyfarfod.

A hefyd yr Athro Phil Kloer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Dr. Neil Wooding, sy'n cadeirio'r bwrdd.

Ymhlith y cannoedd yn y gynulleidfa roedd pobl o dde Gwynedd a Phowys yn ogystal â Cheredigion, gan gynrychioli'r ardal ddaearyddol fawr y mae Ysbyty Bronglais yn ei gwasanaethu. Roedd llawer o oroeswyr strôc a'u perthnasau yn bresennol hefyd.

Galwodd nifer o'r gwleidyddion ar y bwrdd iechyd i dynnu'r opsiwn o gau'r uned strôc ym Mronglais allan o'r ymgynghoriad, gan alw yn lle hynny am fuddsoddi yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel yr uned strôc sy'n perfformio orau o fewn ardal Hywel Dda.

Phil Kloer
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen i ni wneud newidiadau," meddai'r Athro Phil Kloer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Dywedodd yr Athro Phil Kloer fod y bwrdd iechyd yn cydnabod cryfder y teimladau ar y mater hwn a dywedodd fod Bronglais yn chwarae "rôl hanfodol wrth ddarparu gofal iechyd i ganolbarth Cymru, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol."

Ond ychwanegodd yr Athro Kloer ar gyfer gwasanaethau strôc: "Allwn ni ddim darparu ar draws ein holl ysbytai, y math o ofal fyddai'n rhoi'r canlyniadau gorau ar ôl dioddef strôc.

"Felly mae angen i ni wneud newidiadau, ac er ein bod ni wedi rhoi'r opsiynau arfaethedig hyn, ry'n ni'n agored i syniadau a chynigion eraill, a dyna pam ry'n ni'n ymgynghori â'n cyhoedd a'n staff."

Ysbyty Bronglais
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cynigion yw bod unedau strôc ysbytai Bronglais a Glangwili yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo'

Gofynnwyd cwestiynau gan aelodau'r gynulleidfa ynghylch sut y byddai'r trosglwyddo rhwng ysbytai yn gweithio mewn ardal mor fawr a gwledig pan fo'r gwasanaeth ambiwlans eisoes dan gymaint o bwysau.

Teimlai llawer yn y gynulleidfa nad oedd y cwestiynau hyn wedi'u hateb, a nifer yn dweud bod diffyg manylion yn y ddogfen ymgynghori.

Anerchodd Senthil Kumar, arweinydd y bwrdd iechyd ym maes strôc, y cyfarfod. Dywedodd bod angen newid oherwydd nad yw Hywel Dda yn bodloni'r safonau angenrheidiol a byddai ail-lunio'r gwasanaeth yn ei wella ar gyfer gleifion.

Ar ddiwedd y cyfarfod, cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig canlynol – 'Credwn y dylid buddsoddi yn yr uned strôc yn ysbyty Bronglais a'i gwella, a dylai'r uned gadw gwasanaethau strôc lawn i gleifion gan gynnwys gwasanaeth adfer.'

Cafodd ei gefnogi'n unfrydol gan bob aelod o'r cyhoedd a'r gwleidyddion.

'Cwestiynau ynghylch cludiant'

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Lisa Francis, cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais: "Mae llawer o gwestiynau ynghylch cludiant ar gyfer y cynllun hwn, y cynllun 'trin a throsglwyddo', sy'n golygu y bydd cleifion strôc ardal Bronglais yn cael eu cludo i Fronglais am asesiad cychwynnol, sgan, ac yna'n cael eu symud i Lanelli neu Llwynhelyg.

"Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym ynghylch cludo'r cleifion hynny. Ydy Gwasanaeth ambiwlans Cymru yn mynd i wneud hyn? Maen nhw eisoes dan y don.

"Ry'n ni am i'r bwrdd iechyd gadw Bronglais fel y mae gyda gwasanaethau adsefydlu yno, ond cynyddu'r gwasanaethau hynny, ei wella a'i ddatblygu.

"Mae'n darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gleifion canolbarth Cymru, ac ry'n ni am weld hynny'n parhau."

Cyfarfod Bronglais

Mae Hywel Dda yn darparu gwasanaethau ar gyfer ardal ddaearyddol fawr, ac mae'n dweud mewn rhai achosion bod y timau clinigol mewn gwasanaethau sy'n cael eu hystyried yn fregus wedi'u gwasgaru ar draws sawl safle a bod gorddibyniaeth ar nifer fach o unigolion.

I fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r bwrdd iechyd yn ystyried opsiynau ar gyfer newidiadau i'r naw maes gwasanaeth canlynol:

  • Gofal critigol

  • Dermatoleg

  • Llawfeddygaeth gyffredinol frys

  • Endosgopi

  • Offthalmoleg

  • Orthopedig

  • Radioleg

  • Strôc

  • Wroleg

Ar ddiwedd mis Mai, dechreuodd y bwrdd iechyd ymgynghoriad 13 wythnos ar y newidiadau arfaethedig a fydd yn rhedeg tan 31 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig