Rhybudd am stormydd o daranau mewn grym yng Nghymru

MelltFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl taranau, cenllysg a chawodydd trwm yn rhannau o Gymru o fewn yr oriau nesaf.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau yn siroedd Dinbych, Y Fflint, Wrecsam a Phowys.

Fe fydd mewn grym rhwng 12:00 a 20:00 ddydd Sul.

Fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd, trafferthion i deithwyr, a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map rhybudd tywydd ddydd Sul 26 Mai

Mae'r arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai "mellt niferus a chynllysg, yn arbennig yn nwyrain [ardal y rhybudd tywydd" achosi problemau.

Ychwanegodd y rhybudd bod yna "siawns fach" o lifogydd yn taro cartrefi a busnesau'n gyflym a "difrod i rai adeiladau yn sgil dŵr llifogydd a mellt".

Pynciau cysylltiedig