Bellamy heb sylweddoli pa mor bwysig oedd Cymru iddo

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y cyn flaenwr 78 o gapiau dros Gymru yn ystod ei yrfa, gan sgorio 19 gôl

  • Cyhoeddwyd

Doedd Craig Bellamy heb sylweddoli pa mor gryf oedd ei "gysylltiad emosiynol" â'i wlad tan iddo gael ei benodi yn rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai Bellamy, 44, fydd olynydd Rob Page, a'i fod wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe chwaraeodd cyn-ymosodwr Newcastle, Manchester City a Lerpwl 78 o weithiau i Gymru, yn ogystal â threulio cyfnod fel capten ar ei wlad.

Er gwaethaf ei yrfa ryngwladol hir a'i gyfnodau yn chwarae i Gaerdydd, dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, fod ei deimladau am Gymru "wedi dod yn ôl hyd yn oed yn gryfach".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

“Dydw i ddim yma am resymau ariannol," meddai Bellamy

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor bwysig oedd hi (Cymru) i mi,” meddai cyn-gapten Cymru.

“Efallai bod hynny gan fy mod i wedi bod yn byw yn Lloegr a Gwlad Belg.

“Doeddwn i ddim wedi anghofio, dwi wastad wedi dilyn Cymru, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor gryf oedd y cysylltiad emosiynol oedd gen i.

“Doeddwn i ddim yn siŵr os oedd o’n rhywbeth o'n i eisiau ei wneud, dydw i ddim yma am resymau ariannol, i mi, y cysylltiad emosiynol oedd yn bwysig.

“Dydi o heb fy ngadael, o'n i’n meddwl ei fod o, ond mae o wedi dod yn ôl hyd yn oed yn gryfach.

"Doedd hyn ddim byd i'w wneud â symud ymlaen (yn fy ngyrfa), roedd hyn wedi'i wreiddio ynof a doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yno."

Dadansoddiad Carl Roberts, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

Does dim dwywaith y byddai well gan Craig Bellamy fod ar ochr y cae ymarfer yn ei dracwisg yn hytrach na gwisgo'i siwt ac ateb cwestiynau gan llond ystafell o newyddiadurwyr.

Ond mae o'n derbyn fod rhaid delio gyda'r wasg fel rhan o'i swydd newydd - ac mae o'n dweud ei fod o'n barod am yr her a'r cyfrifoldeb o fod yn rheolwr rhyngwladol.

Be ddaeth yn amlwg o wrando arno oedd ei angerdd i lwyddo ym mhob agwedd o'i fywyd.

Mae ganddo safonau uchel, meddai, ac mae'n disgwyl i bob aelod o'i dîm ar y cae ac oddi ar y cae fynnu'r un safonau.

Cyfaddefodd ei fod eisoes wedi gwylio gwrthwynebwyr cyntaf Cymru dan ei reolaeth wyth gwaith - mae o'n benderfynol o fod yn barod ar gyfer y gêm yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd ar 6 Medi.

Bellamy oedd yr enw cyntaf ar restr fer Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn diswyddiad Robert Page fis diwethaf, a hynnny'n rhannol oherwydd ei weledigaeth am y ffordd y dylid chwarae’r gêm.

Mae o am weld Cymru yn chwarae ar y droed flaen, yn rhoi pwysau ar y gwrthwynebwyr, ac yn gweithio'n galed.