Osian Roberts ddim eisiau swydd rheolwr Cymru

Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian Roberts ei fod wedi ymrwymo i Como tan o leiaf 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae Osian Roberts wedi dweud nad yw am gael ei ystyried ar gyfer rôl rheolwr Cymru, gan ymrwymo ei ddyfodol i glwb Como yn Yr Eidal.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi dechrau'r broses o ganfod olynydd i Rob Page, a gafodd ei ddiswyddo fel rheolwr fis diwethaf.

Roedd Roberts - cyn-is-reolwr Cymru - yn un o'r ffefrynnau ar gyfer y swydd.

Ond mae bellach wedi ymrwymo ei ddyfodol i glwb Como yn Yr Eidal, wedi iddo eu harwain o Serie B i Serie A y tymor diwethaf.

'Rhyw ddydd'

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol dywedodd Roberts: “Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am fynegi diddordeb mewn siarad efo fi ynglŷn â rôl rheolwr tîm cenedlaethol Cymru.

“Fel Cymro hynod angerddol a balch fe fyddwn i wrth fy modd yn dod yn rheolwr Cymru rhyw ddydd.

“Ar hyn o bryd, fodd bynnag, rydw i ar daith anhygoel gyda Como 1907, ar ôl helpu i’w harwain at ddyrchafiad hanesyddol i Serie A.

“Rwyf wedi ymrwymo i’r clwb gwych hwn a’n prosiect cyffrous tan o leiaf 2026 ac rwy’n ddiolchgar am byth am eu cefnogaeth a’u ffydd ynof fi.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i dîm cenedlaethol Cymru wrth iddynt gychwyn ar bennod gyffrous arall.

"I'r Wal Goch a holl gefnogwyr Cymru rydw i wedi bod trwy gymaint â nhw - y dagrau a'r llawenydd - hoffwn ddiolch yn ddiffuant am y gefnogaeth rydw i wedi'i chael gennych chi wastad, ac yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf."

Mae cyn-seren Cymru Craig Bellamy, a chyn-ymosodwr Arsenal a Ffrainc Thierry Henry ymysg yr enwau sy'n cael eu hystyried i olynu Page.

Mae CBDC wedi cael cais am sylw.