Penodi Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru

Craig BellamyFfynhonnell y llun, CBDC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Craig Bellamy chwarae 78 o weithiau i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod Craig Bellamy wedi ei benodi yn rheolwr newydd ar dîm dynion Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i Bellamy, 44, gael ei benodi yn rheolwr - ond mae ganddo brofiad helaeth o hyfforddi yn dilyn cyfnodau gyda Burnley, Anderlecht a Chaerdydd.

Fe chwaraeodd cyn-ymosodwr Caerdydd, Manchester City a Lerpwl 78 o weithiau i Gymru, yn ogystal â threulio cyfnod fel capten ar ei wlad.

Mae CBDC wedi bod yn chwilio am olynydd i Rob Page, ar ôl iddo gael ei ddiswyddo fis diwethaf.

Fe gadarnhaodd y gymdeithas fore Mawrth fod Bellamy wedi arwyddo cytundeb i arwain y tîm tan 2028.

Ers tro, mae Bellamy wedi dweud mai ei freuddwyd fyddai rheoli ei wlad a bu'n cyfarfod swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Roedd 'na drafodaethau hefyd gyda chyn-seren Arsenal Thierry Henry, rheolwr Georgia Willy Sagnol a rheolwr Oxford United, Des Buckingham.

Ond Bellamy wnaeth lwyddo i greu'r argraff fwyaf yn ystod y trafodaethau hynny a fo fydd yn arwain y tîm yn ystod eu hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2026.

Nid dyma'r tro cyntaf i Bellamy geisio am y rôl, wedi iddo gael ei gyfweld ar ôl i Chris Coleman adael yn 2017 - ond Ryan Giggs gafodd ei benodi yn rheolwr bryd hynny.

Ei gêm gyntaf fel rheolwr fydd y gêm yn erbyn Twrci ar 6 Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd, cyn i Gymru deithio i Montenegro ar 9 Medi.

'Anrhydedd mwyaf fy mywyd'

Wedi cadarnhad o'r penodiad, dywedodd Bellamy: “Mae'n anrhydedd anhygoel i mi gael y cyfle i arwain fy ngwlad, a dyma anrhydedd mwyaf fy mywyd.

"Unwaith gododd y cyfle yma roeddwn wedi cyffroi.

"Dwi'n teimlo'n barod am yr her o ddatblygu'r tîm yma er mwyn dod â llwyddiant parhaus i bêl-droed Cymru.

"Dydw i methu aros i ddechrau yn ein gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Bellamy 19 gôl i Gymru, gan gynnwys un yn y fuddugoliaeth enwog yn erbyn yr Eidal yn 2002

Chwaraeodd Bellamy 78 o weithiau dros Gymru, cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, fe dreuliodd gyfnodau gyda Norwich City, Coventry City, Celtic, Blackburn Rovers, Liverpool, West Ham United, Manchester City a Lerpwl cyn gorffen gyda Chaerdydd.

Fe ddechreuodd hyfforddi gydag academi Caerdydd cyn dod yn is-reolwr i Vincent Kompany yn Anderlecht.

Pan gafodd Kompany ei benodi yn rheolwr ar Burnley yn ddiweddarach, cafodd Bellamy ei benodi yn is-reolwr iddo yno hefyd.

Ar ôl i Kompany symud i Bayern Munich ar ddechrau'r haf, cafodd Bellamy ei benodi yn rheolwr dros-dro ar y Clarets ac roedd yn cael ei gysylltu â'r swydd barhaol, ond yr wythnos diwethaf daeth cadarnhad fod Scott Parker wedi ei benodi yn rheolwr ar Burnley.

Roedd adroddiadau fod Parker yn awyddus i gadw Bellamy yn rhan o'i dim hyfforddi ond daeth cadarnhad fore Mawrth fod Bellamy wedi gadael y clwb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Bellamy wedi bod yn cydweithio'n agos gyda cyn-gapten Gwlad Belg, Vincent Kompany

Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams: “Roedd y broses recriwtio yn un drylwyr... ac rwy'n hynod falch o gyhoeddi mai Craig fydd ein prif hyfforddwr newydd.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gemau Cynghrair y Cenhedloedd ac i weithio gyda Craig i sicrhau llwyddiant i bêl-droed Cymru."

Dadansoddiad cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts

"O'r hyn dwi'n ddeall, fe ddaeth Craig Bellamy yn agos iawn at gael y swydd pan adawodd Chris Coleman am Sunderland, ond dwi'n meddwl bod yr amser wedi dod i Craig i wneud y cam o fod yn is-reolwr ac yn hyfforddwr i fod yn rheolwr.

"Pan oedd o'n hogyn ifanc yn Norwich mi oedd ganddo fo obsesiwn gydag ochr tactegol y gêm.

"Fysa fo'n eistedd lawr gyda'r rheolwr ar y pryd, Bruce Rioch ac yn trafod gwahanol dactegau a phroblemau - fysa fo'n defnyddio'r potiau halen a phupur fel chwaraewyr!

"Roedd o'n stiwdant o'r gêm, o hyd yn gofyn cwestiynau ac wastad yn barod i ddysgu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd neb yn gweithio'n galetach na Bellamy ar y cae, yn ôl Iwan Roberts

"Mae o wedi aeddfedu fel person ac fel hyfforddwr.

"Ar adegau 'da chi eisiau'r ochr tanllyd yna - fydd gan Craig ddim ofn dweud yr hyn sydd ar ei feddwl, a dwi'n credu bod o'n iawn i reolwyr gael dweud eu dweud.

"Dwi'n meddwl y bydd y tîm yn adlewyrchu'r ffordd yr oedd Craig yn chwarae ar y cae - ar y droed flaen, cyflym, reit uniongyrchol.

"A'r peth pwysicaf, y peth mawr i mi, doedd neb yn gweithio'n galetach na Craig Bellamy.

"Dwi'n disgwyl i dîm Cymru o dan arweiniad Craig Bellamy weithio mor galed, fydd na'r un tîm yn gweithio mor galed ar y cae os na Craig gaiff y swydd."