Eisteddfod: Cynnal seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener

CadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd enillydd Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 - os bydd teilyngdod - yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Cadwyn.

Fe fydd y buddugol yn cael cadair a £750 - y gwobrau yn rhoddedig gan ddisgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol a theulu Llanhari i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bu Berian Daniel yn gweithio â disgyblion lleol i gael ysbrydoliaeth am ddyluniad y Gadair

Fel y Cymoedd diwydiannol eu hunain, mae dylanwad glo a haearn i'w gweld yn glir ym mhensaernïaeth a chynllun y gadair, ac mae cyfraniad afonydd Rhondda, Cynon a'r Taf yn amlwg hefyd.

Berian Daniel yw'r dylunydd a bu'n cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth.

"Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â'r syniad o greu afon o lo a'r term ‘Aur y Rhondda’. Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth," meddai.

"Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae’i ddylanwad yn parhau'n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon."

Daw'r derw'r gadair o goeden hynafol fu'n tyfu ger cartre’ Iolo Morganwg yn y Bont-faen, nid nepell i ffwrdd ym Mro Morgannwg.

Enillydd y gadair y llynedd - Alan Llwyd - fydd yn cyfarch y bardd.

Fe fydd Cerdd y Cadeirio yn cael ei chyflwyno gan Anni Cilgerran a Chân y Cadeirio yn cael ei chanu gan Heulen Cynfal - y ddwy ymhlith prif enillwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Fore Gwener bydd y gorseddigion newydd er anrhydedd yn cael eu croesawu gan yr Archdderwydd Mererid.