Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi eu cyhoeddi.
Mae'r sawl sydd ar y rhestr yn cael eu anrhydeddu am "eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.
Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maen nhw'n cael eu rhannu i dri chategori:
Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau;
Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl;
Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.
Y Wisg Las
Mae'r cyn-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post, yn cael ei anrhydeddu gan yr Orsedd eleni.
Mae'n un o 49 o bobl fydd yn cael eu derbyn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf fis Awst.
Yn ôl yr orsedd "mae'n gwbl briodol fod safiad Noel Thomas yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun drwy Orsedd Cymru".
"Dwi'n falch ofnadwy, dweud y gwir," meddai Mr Thomas, "ac mae'n rhaid i mi ddweud dwi'n falch i'r cyfryngau Cymraeg, achos efo Sion Tecwyn o'r BBC ers talwm dechreuodd y cychwyn i mi, ac wedyn mi fuodd Taro Naw."
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y seremoni.
"Fel un o hogia Sir Fôn yn cael fy anrhydeddu ymysg rhai llawer gwell na fi, neu bobl dwi 'di sbio fyny arnyn nhw, mae'n anrhydedd ofnadwy."
Fe fydd yn derbyn y Wisg Las, am ei gyfraniad i'w fro.
Ymhlith y bobl eraill fydd yn derbyn y Wisg Las mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Joseff Gnagbo, sy'n geisiwr lloches o'r Arfordir Ifori, ac wedi bod yn diwtor Cymraeg ail iaith yng Nghaerdydd
Mae Theresa Mgadzah Jones, symudodd i Brydain o Zimbabwe ac ymgartrefu yng Nghaerdydd, hefyd yn cael eu hurddo. Bu'n gweithio i'r Groes Goch yng Nghasnewydd, gan gyflwyno'r Gymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau lluniau i blant sydd wedi'u cyfieithu gan Manon Steffan Ros a'u cyhoeddi gan y Mudiad Meithrin.
"Dwi mor falch i ymuno â'r Orsedd," meddai. "Mae'n fraint bod fy ngwaith gyda gwasanaethau ffoaduriaid y Groes Goch wedi cael ei adnabod y ffordd yma."
Mae'r darlledwr Gerallt Pennant, a chyn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, hefyd yn cael eu derbyn i'r Urdd Derwydd - y Wisg Las - yn ogystal â'r barnwyr Meleri Tudur Thomas o Gaernarfon, John Thomas o Abertawe a'r Arglwydd John David Lloyd-Jones KC, sy'n un o farnwyr y Goruchaf Lys, ac yn dod yn wreiddiol o Bontypridd.
Ymhlith y bobl eraill o ardal yr Eisteddfod eleni i gael eu hurddo mae Geraint Davies o Dreherbert fu'n gynghorydd yn y Rhondda am flynyddoedd, ac yn aelod cynta'r ardal yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Hefyd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, gafodd ei geni a'i magu yng Nghwm Cynon, cyn-gyfarwyddwr Arholiadau CBAC, Derek Stockley, a Delyth Badder o Bontypridd - y patholegydd pediatrig cyntaf i fedru'r Gymraeg.
Mae mam a'i merch yn cael eu derbyn eleni - yr arbenigwr bwyd Nerys Howell, a'i merch, y chwaraewr rygbi Elinor Snowsill, enillodd 76 o gapiau dros Gymru, cyn iddi ymddeol y llynedd.
Dywedodd Nerys y bydd yn brofiad arbennig gael eu hurddo gyda'i merch.
"Falle bod e wedi digwydd o'r blaen dwi ddim yn gwybod, ond mae'n deimlad arbennig iawn," dywedodd.
"Mae e hyd yn oed yn fwy arbennig, ac yn meddwl gymaint i fi, gan fod y Steddfod ym Mhontypridd, ac wedyn ces i'n addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Rhydfelen, ac felly mae fel 'swn i'n mynd nôl i ngwreiddiau, mewn ffordd."
Mae Elinor yn cytuno y bydd yn achlysur i'w gofio.
"I neud e wrth ochr mam ma' fe'n rili sbesial, achos hi sydd wedi bod yn un o brif gefnogwyr fi dros y blynyddoedd.
"Mae 'di teithio ar draws y byd yn dilyn y gemau - Canada, Awstralia... pobman.
"Mae wastad wedi bod yno yn y dorf, ac mae'n rhywun sydd wedi pigo fi lan yn ystod yr amseroedd caled, ond cefnogi'r llwyddiant hefyd."
Y Wisg Werdd
Ymhlith y bobl i dderbyn y Wisg Werdd am eu cyfraniad i fyd y celfyddydau mae Angharad Lee, sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r ddrama gerdd Nia Ben Aur fydd yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod eleni.
Yn ogystal ag un o arweinyddion Côr yr Eisteddfod, Elin Llywelyn-Williams, sy'n ddirprwy bennaeth Ysgol Llwyncelyn yn y Rhondda.
Athrawes arall sy'n cael ei hurddo yw Catrin Rowlands, sy'n dysgu yn Ysgol Llanhari.
Mae'r awdur Jane Aaron, sy'n gyfrifol am gofiant Cranogwen sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn derbyn y Wisg werdd hefyd.
Mae 'na anrhydeddau hefyd i'r haneswyr Gareth Williams a Sian Rhiannon Williams.
Ac mae dau yn cael eu derbyn am eu cyfraniad i'r Gymraeg yn ardal Merthyr Tudful, Anne England o Aber-fan a chyn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan.