Dim treth twristiaeth i deithiau plant a phobl ifanc wedi'r cwbl

Bydd plant o dan 18 oed sy'n aros mewn llety lefel is yn cael eu heithrio'n gyfan gwbl - gyda thaliadau i bawb arall yn cynyddu 5c y noson o ganlyniad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd plant a phobl ifanc sy'n aros mewn hosteli, meysydd gwersylla neu ganolfannau awyr agored yng Nghymru yn gorfod talu'r dreth twristiaeth arfaethedig wedi'r cwbl.
Roedd pryderon y byddai bwriad Llywodraeth Cymru i godi tâl o 75c y noson yn gwneud tripiau ysgol yn anfforddiadwy i deuluoedd incwm isel.
Roedd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi dweud yn y gorffennol y byddai eithrio plant o'r dreth ar ymwelwyr yn golygu "cwymp sylweddol" mewn refeniw.
Ond yn ystod trafodaethau yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford, ar ôl ystyried y dystiolaeth eto, y byddai rhai o dan 18 oed sy'n aros mewn llety lefel is "yn awr yn cael eu heithrio'n gyfan gwbl" - gyda thaliadau i bawb arall yn cynyddu 5c y noson o ganlyniad.
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
Ebrill 2027 yw'r dyddiad cynharaf y gallai'r dreth ddechrau, meddai swyddogion, a hynny os y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chymeradwyo gan Senedd Cymru.
Nid oes disgwyl i bob cyngor gyflwyno'r dreth ar ymwelwyr. Pe byddent yn gwneud hynny byddai'n codi tua £33m y flwyddyn.
Byddai hyn yn golygu y byddai'r ffi am aros mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn cynyddu o'r £1.25 a gynigiwyd yn wreiddiol i £1.30 y person y noson.
Byddai'n cynyddu o 75c i 80c ar gyfer hosteli a gwersylloedd.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu "heithrio'n gyfan gwbl" rhag talu'r dreth twristiaeth arfaethedig, meddai Mark Drakeford
Dywedodd Drakeford y bydd yr ardoll ymwelwyr yn "costio llai na rhol selsig", "llai na hanner paned o goffi" a "llai na photel o ddŵr".
"Dydw i ddim yn credu am eiliad y bydd talu'r ardoll gymhedrol hon yn atal pobl rhag popeth sydd gan Gymru i'w gynnig," meddai.
"Bydd y bil hwn yn gwneud lles, bydd yn rhoi dewis i bobl."
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr arian sy'n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau mewn ardaloedd sydd â phroblemau twristiaeth, ond dywed beirniaid y bydd yn atal ymwelwyr.
'Niweidiol i fusnesau twristiaeth Cymru'
Dywedodd Janet Finch Saunders, Aelod Ceidwadol Aberconwy yn y Senedd, fod ei phlaid yn "gwbl yn erbyn" y mesur, ac mae'n credu y bydd yn "niweidiol i fusnesau twristiaeth Cymru".
Dywedodd Gareth Davies AS fod y dreth yn anfon neges "fod Cymru ar gau i fusnes a bod dim croeso i dwristiaid".
Mae Luke Fletcher o Blaid Cymru yn cefnogi'r mesur - dywedodd bod twristiaeth yn "rhoi pwysau anghynaladwy ar ein cymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae lefel uchel o dwristiaeth".
Ychwanegodd bod treth o'r fath yn gyffredin ar draws Ewrop "heb unrhyw effaith andwyol ar eu sectorau twristiaeth" ac yn "ffordd gynaliadwy i gefnogi economïau lleol a seilwaith twristiaeth".
Mae rhai gweithredwyr twristiaeth wedi beirniadu'r cynlluniau gan ddweud y gallen nhw atal pobl rhag ymweld â Chymru.
Cyn y datganiad ddydd Mawrth roedd grwpiau eraill, gan gynnwys y Sgowtiaid, wedi codi pryderon y gallai pobl ifanc golli allan ar wersylloedd ac aros dros nos yng Nghymru.