Canfod trysorau coll yr Oes Haearn o dan faes awyrlu Y Fali

Rhai o'r cloddwyr ar ben eu digon ar ôl darganfod arteffact hanesyddol ar safle'r Awyrlu yn Y Fali
- Cyhoeddwyd
Mae trysorau coll o'r Oes Haearn wedi cael eu darganfod gan gyn-filwyr a phersonél milwrol dan un o feysydd awyr yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru.
Daeth rhannau o gerbyd Celtaidd i'r fei ar safle'r Awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn, a'r gred yw eu bod tua 2,000 o flynyddoedd oed.
Mae 'na gred eu bod yn rhan o gasgliad enwog Llyn Cerrig Bach, a gafodd ei ddarganfod yn y 1940au yn ystod gwaith i ymestyn y maes awyr ar gyfer awyrennau bomio Americanaidd.
Mae'r arteffactau wedi eu nodi'n swyddogol yn drysor cenedlaethol gan Uwch Grwner Gogledd Cymru.
Fe fyddan nhw nawr yn cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru a'u harddangos yn Oriel Môn, Llangefni.

Dolen cyfrwy a ddaeth i'r fei yn Ynys Môn
Fe gafodd y gwaith cloddio ei wneud fis Ebrill y llynedd, fel rhan o fenter sy'n cefnogi iechyd a lles personél milwrol a chyn-filwyr.
Mae'n cyfrannu at adferiad i unigolion "clwyfedig, anafedig a sâl" trwy roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn ymchwiliadau archeolegol ar draws yr ystad amddiffyn.
Eitem arall a ddaeth i'r fei oedd dolen cyfryw, gyda brithwaith coch addurniadol, ar gyfer llywio awenau cerbyd rhyfel Celtaidd.
Mae'n un o dri yn unig sydd wedi eu darganfod gyda'r addurn arbennig yma yng Nghymru.
David Ulke, sy'n gyn-arweinydd sgwadron, ddaeth o hyd iddyn nhw.
Dywedodd ei fod "yn eithaf sicr" beth oedd y ddolen wedi i'r cloddwyr "gael ein briffio ar y math o bethau y gallen ni ddisgwyl eu darganfod".
"Roeddwn i ar ben fy nigon, a dweud y lleiaf! Rydw i wedi bod yn ymwneud ag archeoleg ers blynyddoedd lawer a hwn oedd y darganfyddiad mwyaf arwyddocaol i mi ei wneud erioed o bell ffordd."

Daeth y ffrwyn ceffyl yma ei ddarganfod wrth i'r gwaith cloddio ddirwyn i ben
Daeth y Rhingyll Hedfan, Graham Moore o hyd i ddarn ffrwyn ceffyl sydd o bosib yn dyddio o tua 60AD.
"Roedd chwilio am y casgliad coll yn waith caled ac roedd gennym ni ardal enfawr i'w gwmpasu," meddai.
"Nid tan y diwrnod olaf – gyda dim ond 10 munud i fynd – y darganfyddais y darn ffrwyn ceffyl.
"Ar y dechrau roedd y tîm yn meddwl fy mod yn tynnu coes, ond sylweddolais yn gyflym fy mod wedi dod o hyd i rywbeth arbennig.
"Ni allai geiriau egluro sut yr oeddwn yn teimlo yn y foment honno, ond roedd yn brofiad bendigedig."

Roedd Graham Moore a David Ulke wrth eu boddau ar ôl dod i hyd i eitemau hanesyddol o bwys
"Mae'n anhygoel ein bod yn cael ein hatgoffa eto o arwyddocâd y safle ar garreg drws RAF y Fali a pha mor bwysig ydyw i hanes Cymru," dywedodd Pennaeth Gorsaf RAF y Fali a Chapten y grŵp, Gez Currie.
"Paratoadau RAF y Fali yn y 1940au i helpu i atal goresgyniad a dynnodd i'r amlwg arwyddocâd y lleoliad hwn a'i gysylltiadau â goresgyniad cynharach gan y Rhufeiniaid."
Gan nodi bod angen i'r Awyrlu "fod yn warcheidwaid cyfrifol o'r tir hwn", ychwanegodd eu bod "yn hynod falch o fod yn rhan o ymdrechion i ddarganfod a gwarchod yr arteffactau pwysig hyn o hanes Cymru ac yr un mor falch bod ein milwyr ni ein hunain wedi chwarae rhan mor agos yn yr ymdrechion hyn".
'Ychwanegu gwybodaeth newydd bwysig'
Mae'r darganfyddiadau'n cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru, sy'n gartref i nifer o eitemau o gasgliad cychwynnol Llyn Cerrig Bach.
Dywedodd Adam Gwilt, Uwch Guradur y Cynfyd yn Amgueddfa Cymru: "Mae'n anhygoel meddwl bod yr arteffactau 2,000 o flynyddoedd oed hyn wedi aros mor gyflawn ac wedi'u cadw'n dda o fewn dyddodiad mawn bas, a gafodd ei symud yn flaenorol a'i lusgo i'r maes awyr dros 80 mlynedd yn ôl o lyn hynafol cyfagos!
"Mae'r darn ffrwyn ceffyl a'r ddolen cyfryw ill dau yn cynnwys arddulliau nad ydynt wedi'u cynrychioli ymhlith y casgliad gwreiddiol.
"Byddan nhw'n ychwanegu gwybodaeth newydd bwysig am roi gwrthrychau gwerthfawr fel rhoddion crefyddol i'r llyn ar ddiwedd Oes yr Haearn, ychydig cyn, neu tua'r adeg pan oresgynnodd y Fyddin Rufeinig Ynys Môn.
"Mae'n wych y bydd yr arteffactau hyn yn hygyrch i'w harddangos ac er budd y cyhoedd yn Oriel Môn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019