Trysor prin o'r Oes Efydd i'w gweld yn Aberystwyth

Cafodd yr eitemau eu canfod yn Llangeitho yn 2020
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf yn gyhoeddus, mae trysorau prin o’r Oes Efydd wedi cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.
Mae’r celciau, sef dros 50 o eitemau a gafodd eu canfod yn Llangeitho yn 2020, yn cynnwys offer efydd, arfau ac addurniadau corff.
Daw’r arddangos wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd eu targed ariannol er mwyn prynu’r eitemau a’u cadw yn y sir.
Dywedodd Cyril Evans, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion fod "nifer o forthwylion, topiau'r morthwyl eu hunain, wedyn arfau a hefyd mwclesi a chlustlysau corff" ymhlith y trysorau o 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r eitemau'n rhan o "dreftadaeth" Cymru, medd Cyril Evans
“Maen nhw’n brin ofnadwy ac wrth gwrs maen nhw’n rhan o’n treftadaeth ni,” meddai.
“Beth fyddai’n ddiddorol darganfod yw ble gaethon nhw eu gwneud, gan bwy ac o bosib pam gaethon nhw eu cuddio hefyd.”
Cafodd y trysorau eu darganfod yn Llangeitho yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio datgelyddion metel.
Dywedodd y crwner fod y gwrthrychau yn "drysor" yn unol â'r Ddeddf Trysor, gyda chyfle’n dod i’w prynu a’u cadw’n lleol.
'Ennill medal aur'

Mae'r trysor yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth
Bellach, mae'r celciau ar gael yn Amgueddfa Ceredigion wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd targed ariannol o £4,200 i brynu’r trysorau.
Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion yr Amgueddfa fod y swm wedi’i godi "dros nos bron".
“Roedd yr arian yn llifo ymhellach na Cheredigion, o Gymru ben baladr a dros y ffin, oherwydd eu pwysigrwydd archeolegol nhw, eu pwysigrwydd nhw yng nghyd-destun hanes yr ardal ond hanes ehangach Cymru,” meddai.
“'Dw i nawr yn meddwl, pan ‘dan ni’n ganol y gemau olympaidd a’r sôn am y gwahanol fedalau, 'dw i’n credu mai medal aur enillodd Ceredigion pan ddaeth y celciau o’r oes efydd yma i’r golwg.”
Mae’r celciau i’w gweld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, lle bydd arddangosfa yn cael ei chreu yn y dyfodol fydd yn nodi’r hanes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2024