'Siom' lleihau nifer y gwelyau yn ward blant Bronglais
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd llai o welyau ar ward blant Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth dros dro.
Mewn cyfarfod ddydd Iau, fe gyhoeddodd penaethiaid y byddai nifer y gwelyau yn gostwng o naw i bump am gyfnod o chwe mis o 1 Tachwedd.
Roedd rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y ward yn sgil prinder nyrsys.
Bydd y gwasanaeth yn parhau i fod yn 24 awr, ac fe fydd mwyafrif y plant sydd angen gofal am hyd at 36 awr yn dal i gael eu trin yn Ysbyty Bronglais.
Dim ond plant sy'n ddifrifol wael fydd yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Mae Celyn, mab Jamie a Rhydian Fitter, bron yn flwydd ac wedi treulio rhan helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf mewn ysbytai.
Dywed ei rieni fod pob ysbyty wedi bod yn wych ond bod Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais yn hollbwysig iddyn nhw, a bod y newyddion yn "siom".
"Mae'r doctoriaid a'r nyrsys fan hyn yn 'nabod Celyn," medd Rhydian Fitter.
"Maen nhw'n gwybod sut mae e'n ymdopi gyda gwahanol bethau ac mae e ond bum munud i ffwrdd.
"Maen nhw wedi achub ei fywyd fwy nag unwaith."
'Angen recriwtio mwy o nyrsys'
Ychwanegodd ei wraig Jamie bod y newyddion gan y bwrdd yn well na'r disgwyl ond bod yn rhaid i benaethiaid sylweddoli bod teithio yn bell i'r ysbyty yn golygu bod i ffwrdd am gyfnod oddi wrth y teulu - gan gynnwys eu merch Mabli sy'n bump oed.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi cael amser hir i ddelio â hyn. Dyw'r broblem yma ddim yn newydd," ychwanegodd Rhydian Fitter.
"Mae angen i'r bwrdd wneud mwy o ran recriwtio nyrsys.
"Er mwyn rhedeg gwasanaeth iechyd gwledig mae angen i'r bwrdd ystyried sut mae denu'r nyrsys 'ma yn fuan cyn bod y broblem yn mynd yn rhy bell a bod dim opsiwn arall ond cau."
Yn ôl Meleri Raftree o Lanilar, fe fyddai cau'r ward ym Mronglais yn gyfan gwbl wedi bod yn "gwbl drychinebus".
"Ward Angharad wnaeth achub fy mhlentyn bach i adeg yma y llynedd," meddai.
"Fe gafodd Tomi bach, oedd yn ddwy a hanner ar y pryd, haint ar ei glust ac yna seizure ac fe fuodd e yn y ward blant ym Mronglais am dros wythnos gan gael gofal arbennig.
"I ddweud y gwir fe wnaethon nhw achub ei fywyd - ac ugain mlynedd a mwy yn ôl fe wnaeth y staff yno achub fy mywyd i wedi i fi gwympo oddi ar wal.
"Fe fues i fewn yna am dros dair wythnos ac roedd hi'n braf gweld rhai o'r un staff yn nyrsio Tomi."
Beth arall gafodd ei benderfynu yn y gorllewin ddydd Iau?
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
Ddydd Iau roedd penaethiaid Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried dyfodol nifer o wasanaethau iechyd - yn eu plith Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tregaron ac uned mân anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.
Yn sgil methiant i recriwtio nyrsys, a'r ffaith bod dwy nyrs ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth, roedd y bwrdd wedi cyflwyno nifer o argymhellion.
Fe ddaeth cadarnhad y bydd Ward Angharad yn cadw pum gwely ar gyfer triniaethau brys.
Clywodd y cyfarfod os bydd modd recriwtio mwy o staff yn y cyfamser bydd yr uned yn ailagor cyn gynted â phosib.
'Dim effaith ar ofal brys plant'
Yn ôl Lisa Humphrey, o'r bwrdd iechyd, gallai parhau gyda’r system bresennol fod wedi arwain at gau’r uned yn ddirybudd.
Dywedodd wrth y cyfarfod fod yna risg wrth wneud hyn “o ystyried y pellter rhwng Bronglais a Glangwili”.
Ychwanegodd fod yna “peth oleuni” wrth iddyn nhw barhau i geisio recriwtio mwy o staff.
Clywodd y cyfarfod bod y newid ddim yn effeithio ar ofal brys plant yn Ysbyty Bronglais.
Wrth gloi’r cyfarfod fe ddywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Neil Wooding, fod y bwrdd wedi gorfod delio “â thair achos heriol, i gyd yn ymwneud â heriau diogelwch”.
Ychwanegodd fod “penderfyniadau heddiw wedi bod yn rhai adweithiol, ond mae angen bod yn strategol” yn y dyfodol.
Gohebu ychwanegol gan Sara Dafydd a Craig Duggan