Hosbis i fod yn feddygfa gangen wrth i 3,000 o gleifion orfod symud

Meddygfa Tyddewi
Disgrifiad o’r llun,

Mae cytundeb y feddygfa yn dod i ben ar 31 Hydref eleni

  • Cyhoeddwyd

Bydd hosbis yn cael ei defnyddio fel meddygfa gangen yn sgil cau'r unig feddygfa yn Nhyddewi, Sir Benfro.

Ym mis Gorffennaf, daeth cadarnhad y bydd bron i 3,000 o gleifion meddygfa Dewi Sant yn cael eu trosglwyddo i feddygfeydd eraill cyn iddi gau.

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu trosglwyddo i feddygfa Solfach, tair milltir i ffwrdd.

Ond daeth cadarnhad ddydd Iau y bydd Tŷ Shalom yn Nhyddewi hefyd yn cael ei ddefnyddio fel meddygfa gangen.

Mae pobl leol wedi ystyried prynu adeilad meddygfa Dewi Sant ar gyfer meddygfa o dan arweiniad y gymuned, ond mae disgwyl iddi gau ddiwedd Hydref.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad diweddaraf, dywedodd ymgyrchydd fod y bwrdd iechyd lleol wedi dangos diffyg tosturi i'r cleifion fydd yn cael eu heffeithio.

Yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddydd Iau, rhoddodd y cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Jill Patterson, ddiweddariad ar ddyfodol Meddygfa Dewi Sant.

Dywedodd y bydd cleifion yn gallu casglu presgripsiynau yn Nhŷ Shalom, er mwyn lleihau nifer yr ymwelwyr ar safle Solfach.

Fe wnaeth Ms Patterson gydnabod pryderon pobl leol, gan gyfeirio at faterion sydd wedi codi mewn llythyron gan y cyhoedd i’r bwrdd iechyd.

Aeth ymlaen i gadarnhau bod gwaith ar gyfer meddygfa newydd yn Solfach, Meddygfa Penrhyn, yn dechrau cyn bo hir.

Roedd hi’n cydnabod ei bod hi’n "anodd i’r gymuned gredu ynddom ni pan nad ydyn nhw’n gallu gweld y gwaith sy’n cael ei wneud".

Ond cadarnhaodd fod contractwr yn ei le a bod disgwyl i'r gwaith ddechrau'n fuan.

'Dim tosturi'

Mewn ymateb i’r cyfarfod, dywedodd Dr Richard Hayward, sy’n ymgyrchydd dros Feddygfa Dewi Sant bod adroddiad Ms Paterson "unwaith eto yn siomedig".

"[N]id oes unrhyw dosturi o hyd tuag at y cleifion a fydd yn cael eu heffeithio mor andwyol gan nad oes ganddynt feddyg teulu yn Nhyddewi," meddai.

"Dylid gofal i gleifion y practis cyfunol gael ei ddarparu ar draws dau safle ac ychydig iawn o gost ychwanegol sydd i wneud hyn, os o gwbl. Y gymhariaeth ariannol hon sydd heb ei chyflwyno i'r Bwrdd.

"Mae'r ffaith y bydd yna dri meddyg teulu cyflogedig yn Solfach hefyd yn gamarweiniol - (mae un o'r tri meddyg teulu rhan amser ar wyliau hir).

"Mae ein meddyg teulu yn awyddus i barhau ond ni chrybwyllwyd unrhyw gydnabyddiaeth o hyn."

Pynciau cysylltiedig