Cau ysbyty cymunedol 'er mwyn i fwy o gleifion gael gofal adref'
- Cyhoeddwyd
Bydd ysbyty cymunedol Tregaron yn cau ar ôl i benaethiaid y bwrdd iechyd bleidleisio'n unfrydol i gau'r naw gwely i gleifion mewnol.
Roedd nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r cais, gan ddweud y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar ysbytai cyffredinol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Ond dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddan nhw'n darparu mwy o wasanaethau i gleifion yn eu cartrefi eu hunain.
Roedd pobl, meddai adroddiad gan y bwrdd, wedi "dweud y byddai'n well ganddyn nhw fod adref, neu'n agosach at adref".
Dywedodd yr adroddiad fod staff ddim yn teimlo’n ddiogel yn yr ysbyty ar hyn o bryd oherwydd prinder staff a phryderon ynghylch diogelwch.
Yn y cyfamser, mae'r bwrdd hefyd wedi penderfynu cau Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, yn ystod y nos, o fis Tachwedd am gyfnod o chwe mis.
'Ddim yma i fod yn boblogaidd'
Mewn cyfarfod ddydd Iau, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dr Neil Wooding: "Dydyn ni ddim yma i fod yn boblogaidd, ni yma i wneud y penderfyniadau gorau.
"Mae angen ni ystyried sut bydd ein penderfyniadau yn effeithio cymunedau."
Dywedodd Andrew Cruthers, Prif Swyddog Gweithredu’r bwrdd iechyd, ei bod hi’n anoddach i reoli’r gwelyau yn Nhregaron.
Bydd symud staff o’r ysbyty allan i’r gymuned, meddai, yn galluogi pedair gwaith yn fwy o bobl i dderbyn gofal adref.
Beth arall gafodd ei benderfynu yn y gorllewin ddydd Iau?
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
Ar hyn o bryd mae pedwar claf yn derbyn gofal yn Nhregaron.
Dywedodd y bwrdd fod “cynlluniau cadarn” mewn lle i ryddhau'r cleifion yn ddiogel a bod amseru i ryddhau'r cleifion yn ddibynnol ar yr unigolion.
Yn ôl Mr Wooding, cafodd y penderfyniad ei wneud "heb unrhyw ddiystyrwch o’r bobl a fydd yn poeni yn y gymuned, ond gyda golwg gadarnhaol gallwn ddarparu gwell gwerth cyhoeddus o ganlyniad i’r penderfyniad hwn".
Ychwanegodd ei bod hi’n "glir bod pobl Tregaron yn caru eu hysbyty".
'Gwario dim mwy na £5.3m y mis'
Clywodd y cyfarfod yn gynharach fod y bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg yn eu cyllideb o £64m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Er mwyn cadw'r diffyg i'r swm hwn dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Huw Thomas na all y diffyg bob mis fod yn fwy na £5.3m – ond adroddodd mai £5.4m oedd y diffyg diweddaraf yn y mis.
Dywedodd Mr Thomas fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran lleihau gwariant, yn enwedig ar nyrsys asiantaeth.
Ym mis Mai 2023 roedd Hywel Dda yn gwario £3m y mis ar nyrsys asiantaeth – ym mis Awst 2024 gwariodd £1m.
Yn ymateb i'r penderfyniad dywedodd Aelod Senedd Cymru Ceredigion, y Llywydd Elin Jones ei bod yn “hynod siomedig".
"O'n i wedi disgwyl y bydde’r gwelyau yna wedi para yn y gymuned nes bod Cylch Caron wedi cael ei adeiladu fel adnodd newydd - dyna oedd yr addewid i’r gymuned yn lleol.
"Felly mae’n ergyd fawr i’n hyder ni yn y gwasanaeth iechyd a gwasanaeth gofal yn yr ardal fod y gwelyau yma yn diflannu nawr.
"Ni’n gwybod bod angen gwelyau, ni’n gwybod bod cleifion yn Bronglais angen dod allan o'r ysbyty yna, a ma' ysbyty fel Tregaron wedi cynnig opsiwn.
"Ni gyd yn pryderu tamaid bach beth sydd o’n blaenau yn y gaeaf."
Dywed y bwrdd iechyd fod cau'r ysbyty yn golygu bod modd cyfrannu at fodel gofal cymunedol yn yr ardal, Model Cylch Caron.
Bydd Cylch Caron yn cynnwys canolfan adnoddau integredig newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Nhregaron.
Bydd y ganolfan yn cynnwys meddygfa newydd, fferyllfa, clinigau cleifion allanol a fflatiau gofal ychwanegol.
Ond mae pobl leol yn honni na fydd yn medru cymryd lle'r ysbyty gan na fydd yno unrhyw welyau cleifion mewnol.
Mae prosiect Cylch Caron wedi cael ei drafod ers dros 10 mlynedd a thra bod safle ar gyfer y ganolfan wedi ei brynu, nid oes unrhyw waith adeiladu wedi dechrau eto.
Dywed adroddiad y bwrdd iechyd fod “oedi difrifol wedi bod oherwydd ffactorau lluosog, fodd bynnag mae cynnydd yn cael ei wneud nawr".
Mae tendrau wedi’u cyflwyno ac mae cytundeb ar gyfer datblygu’r ganolfan i’w ddyfarnu cyn diwedd 2024.
Cau uned mân anafiadau yn Llanelli
Yn yr un cyfarfod ddydd Iau, fe ddaeth penderfyniad unfrydol i gau Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, yn ystod y nos, o fis Tachwedd am gyfnod o chwe mis.
Fe ddywedodd Andrew Cruthers, Prif Swyddog Gweithredu’r bwrdd iechyd, fod yna bryderon ynghylch diogelwch cleifion a staff.
Dywedodd Dr Ghosal, cyfarwyddwr Ysbyty Tywysog Phillip: “Bydd cau dros nos yn gwella gofal cleifion. Dyw e ddim am dynnu gwasanaethau i ffwrdd, mae'n ymwneud â'i wella.
"Bydd angen cydweithio gydag ysbytai Glangwili a Threforys er mwyn sicrhau na fydd pwysau ychwanegol ar yr ysbytai."
Clywodd y cyfarfod bydd gwasanaethau yn cael eu darparu drwy rif 111 ar gyfer mân anafiadau yn ystod y nos.
Ychwanegodd Dr Jon Morris, Arweinydd Clinigol yr uned: “Dyma’r penderfyniad anoddaf dwi wedi gorfod gwneud yn fy ngyrfa.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024