'Gwych' bod yn rhan o gân 'hanesyddol' Cymru i Euro 2025

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores sydd wedi recordio cân tîm Cymru ar gyfer Euro 2025 yn dweud ei bod hi'n fraint cael bod yn rhan o "rywbeth mor hanesyddol".

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi anthem swyddogol y tîm, fydd yn cystadlu yn y bencampwriaeth yn y Swistir ym mis Gorffennaf.

Teitl y gân yw 'Never Gonna Break Her', ac fe'i hysgrifennwyd gan yr enillydd Grammy, y gantores a'r gyfansoddwraig, Amy Wadge.

Y gantores o Ferthyr Tudful, Liss Jones, sy'n canu'r gân, a dywedodd bod ei recordio wedi ei helpu wrth iddi ddysgu Cymraeg.

Mae'r gân ar gael ar blatfformau ffrydio o ddydd Mercher.

Amy Wadge a Liss JonesFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cyfansoddwyd y gân gan yr enillydd Grammy, Amy Wadge, a'r gantores yw Liss Jones

Mae tîm menywod Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf erioed ac mae'r trac yn alwad i'r genedl i gefnogi'r tîm sydd wedi creu hanes, yn ôl CBDC.

Ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Liss Jones: "Mae'n wych fod yn rhan o rywbeth mor hanesyddol."

"Dwi'n mynd i'r Swistir am y gic gyntaf i berfformio'r gân – dwi mor gyffrous.

"Mae cael fy newis i ganu 'Never Gonna Break Her', anthem swyddogol Cymru, yn anrhydedd oes.

"Fel merch ifanc yn tyfu lan yng Nghymru, roeddwn i wastad yn dilyn fy mreuddwydion – yn union fel y chwaraewyr anhygoel hyn.

"Mae'r gân hon ar eu cyfer nhw, ond hefyd ar gyfer pob menyw a gafodd ei dweud nad oedd hi'n gallu."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan FA Wales

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan FA Wales

Mae Liss Jones yn dod o Ferthyr ac mae wedi bod yn canu ers yn ddwy oed.

Mae wedi ymddangos ar lwyfan y London Palladium a bu'n gyn-ymgeisydd ar The Voice UK.

Y tu hwnt i'w gyrfa gerddorol, mae wedi gweithio fel gyrrwr dosbarthu i fusnes mecanyddol ei thad, ac yn mwynhau herio stereoteipiau.

Mae rhywfaint o Gymraeg i'w chlywed yn y gân: "Mae'n byw yn dy galon, Mae'n byw yn dy galon di".

Ar Dros Frecwast, soniodd ei bod yn dysgu Cymraeg a bod y "profiad yma wedi helpu fi i ddeall mwy o'r iaith".

"Rydw i mor falch o fod yn rhan o hyn a mor falch o fod yn Gymraes.

"Mae'n wych bod yn rhan o gân mor arbennig – dwi wedi crio ychydig o weithiau."

Disgrifiad,

Gwyliwch: Paratoadau tîm Cymru ar gyfer Euro 2025

Amy Wadge sydd wedi ysgrifennu'r geiriau i 'Never Gonna Break Her', ac mae'n dweud iddi ysgrifennu "o'r galon".

"Mae'n ymwneud ag ysbryd di-dor ein chwaraewyr, ond hefyd â phob menyw sydd erioed wedi gorfod ymladd i gael ei gweld, ei chlywed neu ei pharchu."

Enillodd Amy Wadge wobr Grammy ar ôl cyd-weithio gydag Ed Sheeran ar y gân 'Thinking Out Loud', a enillodd Gân y Flwyddyn yn 2016.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu caneuon i artistiaid fel Alicia Keys, Camila Cabello, Kylie Minogue, Pink, James Blunt, Kacey Musgraves a Sam Ryder.

Ychwanegodd bod "gan Liss Jones lais eiconig", a bod "pobl yn ei hadnabod o The Voice, ond rydw i wedi bod yn ymwybodol ohoni ers blynyddoedd, ac rwy'n credu mai hi yw un o'r cantorion gorau sydd gennym yng Nghymru o ran llais".

Tim Cymru yn ennill eu lle yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sicrhaodd Cymru eu lle yn Euro 2025 ar ôl trechu Gweriniaeth Iwerddon yn ffeinal y gemau ail gyfle

Bydd Cymru'n cychwyn eu hymgyrch Euro 2025 yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, cyn wynebu Ffrainc yn St Gallen ar ddydd Mercher, 9 Gorffennaf.

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn dychwelyd i St Gallen i gwblhau eu gemau yn y grŵp yn erbyn Lloegr ddydd Sul, 13 Gorffennaf.