Wilkinson i gyhoeddi carfan Euro 2025 Cymru ar gopa'r Wyddfa

- Cyhoeddwyd
Bydd rheolwr tîm merched Cymru, Rhian Wilkinson ar gopa'r Wyddfa fore Iau i gyhoeddi ei charfan ar gyfer pencampwriaeth Euro 2025.
Mae cyrraedd copa mynydd ucha' Cymru – os yn cerdded yn hytrach na chymryd y trên, hynny yw – yn golygu gwaith caled ac ymroddiad.
Gwaith caled sydd wedi gweld Cymru yn cyrraedd uchelfannau rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf erioed.
Mae'r cyffro wedi cynyddu ers i dîm Wilkinson drechu Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn fis Rhagfyr y llynedd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Roedd y nod o gyrraedd rowndiau terfynol wedi bod y tu hwnt iddyn nhw tan nawr – ond mae'r tîm bellach ar drothwy pennod hanesyddol.
Yr ymgyrch i gyrraedd Y Swistir
Fel gyda dringo mynydd, fe wynebodd Cymru sawl her yn ystod yr ymgyrch ragbrofol.
Gorffennodd Cymru yn ddi-guro ar frig Grŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd – oedd hefyd yn cynnwys Croatia, Wcráin a Kosovo – i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.
Colli o 2-1 oedd yr hanes draw yn Slofacia yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Ond yn yr ail gymal yng Nghaerdydd sicrhaodd goliau Jess Fishlock a Ceri Holland fuddugoliaeth o 2-0 a gornest yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn y rownd derfynol.

Jess Fishlock yn arwain dathliadau Cymru wedi iddyn nhw drechu Gweriniaeth Iwerddon i gyrraedd Euro 2025
Wedi i'r cymal cyntaf orffen yn gyfartal 1-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe deithiodd y Cymry i Ddulyn gyda'r nod o geisio creu hanes.
Sgoriodd Hannah Cain a Carrie Jones i roi Cymru 2-0 ar y blaen, ac er i Iwerddon ymateb gyda gôl hwyr, sicrhawyd buddugoliaeth o 3-2 ar gyfanswm goliau.
Roedd golygfeydd emosiynol wedi'r chwiban olaf yn Stadiwm Aviva wrth i'r chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr ddathlu cyflawniad hanesyddol.
Pwy fydd yn y garfan?
Bydd Wilkinson yn cyhoeddi carfan o 23 chwaraewr ar gyfer y gystadleuaeth, gyda'r rheolwr eisoes wedi datgan ei bod yn gwybod pwy fydd 20 o'r chwaraewyr hynny.
Seren y garfan heb os yw Jess Fishlock, sydd wedi ennill mwy o gapiau a sgorio mwy o goliau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall.
Mae Fishlock, sydd bellach yn 38, yn ffigwr allweddol yn yr un modd ag yr oedd Gareth Bale gyda thîm y dynion.
Fe fydd ei phrofiad o chwarae yn yr Unol Daleithiau gyda Seattle Reign yn amhrisiadwy.

Cafodd Angharad James ei gwneud yn gapten Cymru ym mis Hydref 2024
Mae'r chwaraewr canol cae Angharad James hefyd yn chwarae i Seattle, a hi fydd capten Cymru yn y Swistir.
Mae Fishlock, James, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe a Kayleigh Barton wedi ennill cyfanswm o 638 gapiau dros Gymru.
Chwaraewr profiadol arall yw'r cyn-gapten Sophie Ingle, sydd yn wynebu ras i brofi ei ffitrwydd ar gyfer y gystadleuaeth.
Nid yw Ingle wedi chwarae ers mis Medi'r llynedd ar ôl dioddef anaf difrifol i'w phen-glin - anaf cyffredin iawn yng ngêm y merched.
Ond bu'r chwaraewr 33 oed, fydd yn gadael Chelsea yr haf hwn, yn ymarfer gyda'r garfan cyn y gêm ddiweddar yn erbyn Yr Eidal yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dyw'r cyn-gapten Sophie Ingle heb chwarae ers mis Medi'r llynedd
Mae disgwyl y bydd yr amddiffynnwr Rhiannon Roberts a'r golwr Olivia Clark yn holliach, ond bydd Mayze Davies, Megan Wynne a Laura O'Sullivan-Jones yn colli allan oherwydd anafiadau.
Bydd enwau Ceri Holland, Hannah Cain, Elise Hughes, Lily Woodham, Ffion Morgan, Carrie Jones ac Alice Griffiths yn sicr o fod ar y rhestr.
A fydd 'na le yn y garfan i chwaraewyr iau megis Mary McAteer a Mared Griffiths - y ferch 18 oed o Drawsfynydd sydd yn chwarae i Manchester United?
Ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r garfan fe fydd y tîm yn teithio i Bortiwgal i baratoi, cyn symud ymlaen i'r Swistir a'u pencadlys yn Weinfelden yng ngogledd y wlad.
Mae un mynydd wedi ei ddringo yn barod er mwyn cyhoeddi'r garfan – bydd sawl mynydd yn wynebu tîm Cymru dros yr wythnosau nesaf yn y Swistir.
Y gwrthwynebwyr
Bydd 16 o dimau yn cystadlu mewn pedwar grŵp o bedwar yn y Swistir.
Yng Ngrŵp D bydd Cymru yn wynebu'r deiliaid Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd – un o'r grwpiau anoddaf y gallen nhw fod wedi'i gael.

Lloegr yw'r deiliaid, ar ôl trechu'r Almaen yn y ffeinal i ennill Euro 2022
Yr Iseldiroedd fydd y gwrthwynebwyr yn y gêm agoriadol yn Lucerne ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf.
Bydd Cymru yn herio Ffrainc ar 9 Gorffennaf yn St Gallen, ac yno hefyd fydd gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Lloegr ar 13 Gorffennaf.
Bydd y timau sydd gorffen yn y ddau safle uchaf ym mhob grŵp yn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl