Vapes untro wedi eu gwahardd yng Nghymru o ddydd Sul

Dynes yn fepioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeddf newydd yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi vapes untro yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae gwaharddiad ar vapes untro wedi dod i rym yng Nghymru a ledled y DU ddydd Sul.

O 1 Mehefin ymlaen bydd cyfyngiadau ar hysbysebu a gwerthu vapes, tra bod rhai tafladwy (disposable) wedi eu gwahardd yn llwyr.

Dim ond dyfeisiau sy'n cael eu hystyried fel rhai sydd modd eu hailddefnyddio fydd yn gyfreithlon.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi yn gyntaf gan Lywodraeth y DU fis Ionawr y llynedd, yn dilyn galwadau arnyn nhw i weithredu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud fod y dystiolaeth yn "dangos yn glir" na ddylai plant a phobl ifanc fepio.

Disgrifiad,

Beth oedd y farn ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon i'r gwaharddiad ar vapes untro?

Mae ICC yn dweud bod bron i un o bob chwech [16%] o ddisgyblion blwyddyn 11 yn fepio'n rheolaidd, a bron i hanner wedi trio vape.

Maen nhw hefyd yn dweud nad ydy'r rhan fwyaf o bobl ifanc erioed wedi ysmygu cyn dechrau fepio.

Mae'r mwyafrif o vapes yn cynnwys nicotin, allai arwain at fod yn gaeth.

Ond mae hefyd yn gyffur sy'n gallu effeithio ar ganolbwyntio, y cof a'r gallu i ddysgu.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn amcangyfrif bod 360,000 o vapes untro yn cael eu taflu yng Nghymru mewn blwyddyn, tra bod 120,000 yn cael eu rhoi i lawr y toiled.

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, bod vapes untro yn creu sbwriel a llygredd plastig

Dywedodd llefarydd ar ran ICC "er bod fepio'n fwy diogel nag ysmygu i oedolion, nid yw heb risgiau ac nid oes gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr eto o'r effeithiau iechyd hirdymor".

"Mae'r gwaharddiad ar fepio untro yn gam pwysig wrth gymryd camau brys i atal cenhedlaeth newydd o bobl ifanc sy'n gaeth i nicotin," meddai.

Ychwanegodd bod "rhaid i ni sicrhau ein bod yn dysgu o'n profiad gyda thybaco ac yn gweithio mor galed â phosib i atal plant a phobl ifanc rhag defnyddio vapes".