Carcharu cyn-heddwas am gam-drin merch ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog gyda Heddlu Gwent wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar ar ôl i reithgor ei gael yn euog o gam-drin merch dan 13 oed yn rhywiol.
Roedd John Stringer, sy'n 43 oed ac o Gaerdydd, wedi pledio'n ddieuog i bump o gyhuddiadau yn ymwneud â'r plentyn.
Ond benderfynodd y rheithgor fis Medi ei fod yn euog o'r holl gyhuddiadau.
Roedd y rheiny yn cynnwys dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd, dau gyhuddiad o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, ac un cyhuddiad o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.
Clywodd y llys fod y ferch wedi dioddef “niwed seicolegol difrifol” o ganlyniad i’r cam-drin.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, dywedodd y barnwr fod ymdrechion Stringer i argyhoeddi’r rheithgor o’i ddiniweidrwydd yn “sinigaidd” a’i fod yn “risg uchel i ferched ifanc”.
Ar ôl ei euogfarn, cafodd Stringer ei ddiswyddo o'r heddlu a'i wahardd rhag bod yn heddwas eto.
Mewn datganiad ar ran y dioddefwr, clywodd y llys fod y gamdriniaeth wedi newid y ferch, gan adael "atgof negyddol, poenus, parhaol o ran fawr o’i phlentyndod".
Clywodd y llys ei bod wedi meddwl am ladd ei hun, ac wedi ysgrifennu llythyrau at bobl oedd yn agos ati.
- Cyhoeddwyd9 Medi
- Cyhoeddwyd2 Medi
Wrth ddedfrydu Stringer, dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod y ferch "wedi dweud nad oedd hi eisiau ei wneud [un agwedd o'r cam-drin], ond fe wnaethoch chi ddal ati gan fynnu ei bod hi'n gwneud".
Dywedodd pan gafodd Stringer ei arestio, “roedd y gamdriniaeth yn gwaethygu”.
Ychwanegodd y Barnwr y bu hi'n “dorcalonnus” i’r llys glywed am yr effaith a gafodd y gamdriniaeth ar y ferch.
Dywedodd wrth Stringer: “Roedd eich statws fel heddwas wedi eich galluogi i guddio’ch cymhellion a’ch troseddu.”
Ychwanegodd wrth deulu’r ferch: “Mae’n amlwg i mi ei bod hi’n ferch garedig, ofalgar, deallus a gonest.
"Mae i’w chanmol am ei dewrder a’i gonestrwydd.”
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.