Sir Benfro: Galw am welliannau i reolau TB

Simon Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd NFU Cymru Sir Benfro Simon Davies fod TB "ddim yn rhywbeth sy’n gwella"

  • Cyhoeddwyd

Roedd bron i 40% o wartheg Cymru a gafodd eu difa yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd y diciâu yn dod o Sir Benfro, yn ôl ffigyrau Defra.

Dydd Llun, cafodd Bwrdd TB newydd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i weithio tuag at eu nod o Gymru heb TB erbyn 2041.

Mae dros 32,000 o wartheg wedi cael eu difa oherwydd y diciâu yn Sir Benfro dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Ond wrth i Sioe Sir Benfro ddechrau, mae cadeirydd NFU Cymru Sir Benfro wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "warthus", gan alw unwaith eto am strategaeth gynhwysfawr i ymdrin â’r clefyd.

“Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, ni wedi bod mewn a mas o TB tua tair gwaith neu bedair gwaith erbyn hyn,” meddai Simon Davies, sy’n godro 250 o wartheg yn Nhrewilym Uchaf, Eglwyswrw.

“Yn Sir Benfro, yn gyfan gwbl, dyw e ddim yn rywbeth sy’n gwella yn anffodus, mae’r ffigyrau sydd mas heddi nawr yn dweud hynny.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd bron i 40% o wartheg Cymru a gafodd eu difa yn ystod y 12 mis diwethaf yn dod o Sir Benfro

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Defra, dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae mwy na 32,000 o wartheg wedi'u difa oherwydd diciâu yn Sir Benfro.

Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, cafodd 11,197 o wartheg eu difa yng Nghymru oherwydd diciâu, gyda 4,259 ohonynt - sef 38% - o Sir Benfro.

Roedd hyn yn 3% o gynnydd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae’r ffigwr yn warthus” meddai Mr Davies.

“Mae e wir yn boenus ond dwi ddim yn synnu i ddweud y gwir, achos dwi’n cael sawl galwad ffôn bob wythnos gan bobl sy’n teimlo'r straen yma."

Ychwanegodd fod 136 o fuchesi yn Sir Benfro dan gyfyngiadau TB yn Ebrill 2014, o'i gymharu â 183 ym mis Mawrth 2024.

“Dyw hwnna ddim yn progress nac ydy?” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn wlad heb TB erbyn 2041

Yn ôl trefnwyr Sioe Sir Benfro, mae llai o wartheg wedi cofrestru eleni, er bod niferoedd cofrestru yn y sectorau eraill wedi cynyddu.

Maen nhw’n amau mai diciâu yw’r rheswm am y gostyngiad, er nad oes modd iddynt ddweud hynny'n bendant.

Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn wlad heb TB erbyn 2041.

Mewn datganiad, fe ddywedon nhw, eu bod yn cydnabod yr effaith ar y diwydiant.

“Rydym wedi gwrando ar y pryderon a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar TB buchol a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant.

"Mae hyn yn cynnwys gwaith y Grŵp Cynghori Technegol sydd newydd ei sefydlu sydd eisoes wedi darparu eu cyngor arbenigol ar bynciau penodol.

“O ganlyniad, rydym eisoes wedi gwneud dau newid sylweddol i'n dull polisi. Bydd y Bwrdd Rhaglen TB newydd hefyd yn cyfrannu at y gwaith hwn."

Sefyllfa Sir Benfro 'yn wahanol'

Wrth gyfeirio ar y bwrdd newydd a gafodd ei sefydlu ddechrau’r wythnos, dywedodd Simon Davies ei fod yn gam "positif" ymlaen, er ei fod yn teimlo bod sefyllfa Sir Benfro "yn wahanol".

“Ni ‘di cael mwy a mwy o reolau yn erbyn profi gwartheg ac eto ma’r ffigyrau 'ma yn gwaethygu - mae hynny yn dweud rhywbeth,” meddai.

“Mae’n rhaid i chi edrych dros Glawdd Offa. Draw yn Lloegr ma' nhw 'di lleihau TB mewn mannau 56%.

"Mae hynny’n rywbeth y dylai'r Grŵp Cynghori Technegol edrych arno a symud ‘mlaen. Rhaid i ni ddysgu’r gwersi a’r ffyrdd gorau i daclo’r clefyd 'ma.”