TB yng Nghymru 'wedi gwaethygu'n ofnadwy' ers datganoli
- Cyhoeddwyd
Mae sefyllfa TB yng Nghymru "wedi gwaethygu'n ofnadwy" ers datganoli, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae polisi TB yn un o sawl ffactor sy'n poeni ffermwyr sydd wedi bod yn ymgynnull yn ddiweddar, yn flin gyda pholisïau gwledig Llywodraeth Cymru.
Mae un fferm laeth yn Sir Gâr, sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers dros ddwy flynedd, wedi dweud wrth BBC Cymru bod hi'n anodd gweld ffordd mas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol iawn" o effaith TB ar iechyd meddwl ffermwyr, a bod nifer yr achosion yn gostwng yn y tymor hir.
Ar ddiwedd 2021 fe wnaeth Gareth Williams gymryd rheolaeth o fferm ei deulu gyda'i wraig Manon.
Ond o fewn wythnosau roedd y fuches odro wedi profi'n bositif i TB, ac ers hynny mae'r fferm ar gyrion Castell Newydd Emlyn wedi bod o dan gyfyngiadau.
Y gobaith oedd y byddai'r sefyllfa'n gwella - llai o wartheg yn profi'n bositif, ac yn y pen draw, y fferm yn gadael y cyfyngiadau.
'Ni ddim yn gweld goleuni'
Ond yr wythnos ddiwethaf cafodd dros 30 o wartheg godro eu casglu o'r fferm i'w difa ar ôl profion positif.
Roedd hynny'n 15% o'u buches yn diflannu fwy neu lai dros nos, ac mae'r cwpl yn rhagweld y bydd y siec laeth £10,000 yn llai fis yma.
Ar ben hynny, mae'r profion TB cyson bob 60 diwrnod yn bwysau ar y ddau.
"Ni'n derbyn dau, dri peth ar y tro, a ma' hynny bob dau neu dri diwrnod," meddai Manon wrth raglen Dros Frecwast.
"Ma' fe'n cario 'mlaen o hyd ac o hyd - does dim stop ar y gwaith papur.
"Fi'n credu, reit ar y dechre, falle o'n i bach yn naïf i'r peth.
"Pan o' ni'n profi reit ar y dechrau ro'n i'n dweud 'tro hyn fyddwn ni'n dod yn glir - dyw hi ddim wedi bod yn rhy ffôl, ni ond wedi colli llond llaw o anifeiliaid, mae'n iawn'.
"Ond erbyn hyn ni ddim yn gweld goleuni ar y sefyllfa. Pan mae prawf yn dod, ni bron yn gwybod beth yw'r canlyniad."
Ergyd i'r busnes ac i'r meddwl
Ychwanegodd Gareth: "Mae wedi bod yn dipyn o ergyd - colli 30 o dda - ar y busnes ac yn feddyliol.
"Pan chi'n gweld y da chi 'di bod yn bridio - bridio'r math o fuwch chi mo'yn - a chi'n colli nhw, mae'n dipyn o ergyd."
Cwestiynu effeithiolrwydd polisi TB Llywodraeth Cymru mae undebau, gyda chadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud nad oes datblygiad cadarnhaol wedi bod ers datganoli.
"Mae wedi gwaethygu'n ofnadw. Mae'r ffermwyr yn gorfod gwneud llawer mwy o brofi'r anifeiliaid," meddai Brian Walters.
"Os chi'n mynd nôl i'r 90au, o'dd Cymru bron a bod yn glir o TB.
"Ond o dan y llywodraeth, o dan y Cynulliad, ni wedi mynd o'r sefyllfa hynny i golli miloedd o wartheg bob blwyddyn oherwydd TB.
"[Mae hynny] oherwydd bod ni ddim yn fodlon edrych ar y gwir broblem yn y bywyd gwyllt.
"Mae hwnnw yn broblem sy'n rhaid taclo.
"Mae'n wir bod TB yn gallu symud o wartheg i wartheg, ond hefyd mae'n symud o'r bywyd gwyllt i'r gwartheg."
Yn ôl data Llywodraeth Cymru mae nifer yr achosion o TB wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd, ond gostwng hefyd mae nifer y buchesi yn ôl undebau.
Mae hyn i gyd yn cael effaith ar ffermwyr, gyda 85% yn dweud wrth undeb NFU Cymru yn ddiweddar bod y sefyllfa yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl.
'Mwy o gydymdeimlad gan blentyn'
Nôl ar fferm Manon a Gareth mae 'na ffeil ddu drwchus ar fwrdd y gegin.
Prawf o'r holl ddogfennau TB sydd wedi cyrraedd y fferm dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Y mwyafrif yn cynnwys newyddion drwg, a diffyg cefnogaeth gan staff iechyd anifeiliaid, yn ôl y cwpl.
Dywedodd Manon: "Pan daeth y lori i gasglu'r 30 buwch 'na wythnos dwetha', o'dd Gruff y mab - sy'n bedair oed - fan hyn yn y ffenest yn gofyn 'pam bod lori ar y clos, beth sy'n mynd 'mlaen?'
"Wedes i wrtho fe, a pan daeth Gareth mewn roddodd e gwtch enfawr iddo fe.
"Ni 'di cael mwy o gydymdeimlad oddi wrth plentyn pedair oed nag y'n ni'n cael gan y bobl ni'n delio gyda, ac sy'n creu'r polisïau 'ma."
'Gwella dim'
Ychwanegodd Gareth: "Mae'r llywodraeth yn trial dileu'r TB 'ma, ond sa i'n credu bod e'n gweithio.
"So pethau'n gwella lot a fi'n credu bod y bobl yn y swyddfa dan straen - so fe'n gwella dim a ma' nifer y da sy'n mynd yn ofnadwy.
"'Na'r rhan fwya' ohono fe - fi'n credu bo' nhw jysd yn overwhelmed gyda'r gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol iawn o'r effaith ofidus mae TB mewn gwartheg yn ei gael ar iechyd a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd".
"Dyma pam rydyn ni'n gwbl benderfynol i waredu â TB mewn gwartheg yng Nghymru.
"Drwyddi draw, rydym yn gweld gwelliant ledled Cymru, gyda nifer y digwyddiadau o fewn buchesi newydd yn gostwng yn y tymor hir.
"Ni all y llywodraeth ddileu TB ar eu pen eu hunain - mae gweithio ar y cyd â ffermwyr a milfeddygon yn allweddol i gyrraedd ein nod o Gymru heb TB."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Mai