Disgwyl i Barc Eryri gyflwyno rheolau llymach ar ail gartrefi

Beddgelert o'r awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r rheolau'n berthnasol i ardaloedd fel Beddgelert, sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gefnogi cynllun i'w gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.

Fe gafodd awdurdodau ledled Cymru ragor o bwerau gan y llywodraeth yn Hydref 2022 i reoli nifer yr ail gartrefi.

Bwriad yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4 ydy gorfodi unrhyw un sydd am drosi cartref domestig yn ail gartref i dderbyn sêl bendith gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod perthnasol.

Cyngor Gwynedd yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd eisoes wedi manteisio ar y grymoedd hynny.

Ond mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyhoeddi eu bod nhw am gyflwyno Erthygl 4 mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Does dim disgwyl i'r mesurau yn Eryri ddod i rym tan o leiaf Mehefin 2025, a byddai'n cynnwys pob ardal sydd o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd.

Bydd penderfyniad terfynol aelodau'r pwyllgor cynllunio yn dilyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus a 12 mis o gyfnod rhybudd.

Yn ôl dogfen yr awdurdod ar gyfer y cyfarfod, derbyniodd y parc 357 o ymatebion yn ystod y cyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd.

Roedd effaith negyddol ar brisiau tai, y farchnad dai, cyllid personol, twristiaeth a'r economi, yn ogystal ag amlygu'r angen i ystyried gweithredu mesurau eraill, yn rhai o'r pryderon a godwyd gan drigolion yr ardal.

Roedd y rheiny o blaid wedi nodi'r angen i reoli niferoedd tai haf, ac yn cydnabod yr angen i sicrhau cymunedau cynaliadwy a hyfyw, a chynnal a gwarchod yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau tebyg eisoes yn eu lle yng Ngwynedd ers y llynedd

Yn ôl awdurdod y parc mae dros hanner poblogaeth Eryri wedi eu prisio allan o'r farchnad dai, ond mewn rhai ardaloedd mae'r ffigwr mor uchel ag 80%.

Yn haf y llynedd fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd o blaid cyflwyno Erthygl 4, gyda'r grymoedd hynny'n weithredol o fis Medi eleni.

Byddai cyflwyno'r mesurau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yn golygu bod rheolau tebyg yn eu lle ar draws Gwynedd gyfan, yn ogystal â rhai rhannau o Sir Conwy.