Eryri'n cefnogi mesurau i gyfyngu ar ail gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio'n unfrydol i'w gwneud hi'n orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio os am drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau o fewn ffiniau Eryri.
Yn Hydref 2022 derbyniodd cynghorau ac awdurdodau cynllunio fwy o bwerau gan y llywodraeth i reoli ail gartrefi.
Bwriad yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4 ydi gorfodi unrhyw un sydd am drosi cartref domestig yn ail gartref i dderbyn sêl bendith gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod perthnasol.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus mae disgwyl i Wynedd fod yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r newidiadau.
Ond y disgwyl yw y bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn eu dilyn wedi i aelodau o'r pwyllgor cynllunio roi eu sêl bendith i awdurdodi'r broses fore Mercher.
Rheolau tebyg ar draws Gwynedd
Yn ôl y parc mae dros hanner poblogaeth Eryri wedi eu prisio allan o'r farchnad dai, ond mewn rhai ardaloedd mae'r ffigwr gyn uched ag 80%.
Ym mis Awst y llynedd fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd o blaid cyflwyno Erthygl 4, gyda disgwyl i'r grymoedd hynny fod yn weithredol o fis Medi eleni.
Ond does gan Cyngor Gwynedd ddim hawliau cynllunio dros ardaloedd sydd o fewn y parc cenedlaethol.
Argymhelliad yr adroddiad i Bwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri fore Mercher, a gafodd ei gymeradwyo'n unfrydol gan aelodau, oedd fod y parc hefyd yn cyflwyno Erthygl 4.
Byddai cyflwyno'r mesurau'n yn golygu bod rheolau tebyg yn eu lle ar draws Gwynedd gyfan, yn ogystal â rhai rhannau o sir Conwy sydd hefyd o fewn ffiniau'r parc.
Ond does dim disgwyl i'r mesurau yn Eryri ddod i rym tan o leiaf Mehefin 2025 - mae disgwyl cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a 12 mis o gyfnod rhybudd.
Roedd trafodaeth dros gyflwyno mesurau Erthygl 4 i rannau o'r parc yn unig ond yr argymhelliad oedd y dylai'r mesurau fod yn weithredol dros holl ardal y parc.
Clywodd aelodau byddai'r parc yn agored i heriau cyfreithiol posib os na fyddent yn aros 12 mis cyn eu cyflwyno.
Ni fydd y mesurau yn effeithio ar eiddo sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau.
'Canmol arweinwyr y parc'
Pan drafodwyd cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd roedd peth gwrthwynebiad gyda grŵp yn dadlau byddai'r mesur yn achosi cwymp ym mhris tai trigolion Gwynedd ac yn cosbi pobl leol.
Ond mae cynlluniau'r parc wedi'u croesawu gan ymgyrchwyr iaith sy'n dweud fod un allan o bob chwe tŷ oddi fewn ffiniau'r parc yn ail gartref neu lety gosod tymor byr.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd arbenigwr tai sydd hefyd yn aelod o weithgor Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, Walis George, ei fod yn croesawu'r newidiadau.
"Mae'n rhaid i ni ganmol arweinwyr awdurdod y parc am ddod â'r polisi yma ger bron, mae'r rhain yn bwerau newydd a 'da ni'n ffyddiog bydd y parc yn gweithredu ar hyn," meddai.
"'Da ni'n gweld hwn fel cam pwysig ond cam cyntaf i ddechrau mynd i'r afael â'r anghyfartaledd sy'n cael ei achosi gan system sy'n seiliedig ar farchnad dai agored.
"Fydd y polisi yma ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i bobl sydd eisoes yn defnyddio eiddo fel ail gartref neu lety gwyliau - ond yn amlwg i fynd i'r afael ag anghenion tai lleol 'da chi ddim yn mynd i sôn am raglen adeiladu cannoedd o dai mewn ardal fel parc cenedlaethol.
"Ac felly mae angen edrych ar ddulliau o sicrhau ymyrraeth yn y farchnad dai fel fod mwy o'r stoc dai bresennol yn dod o dan reolaeth cyrff cyhoeddus, mentrau cymunedol... yn ogystal â galluogi pobl leol sy'n awyddus i brynu i allu gwneud hynny."
Yn ôl yr adroddiad mae'r canran cyfunol o ail gartefi a llety gwyliau hunanarlwyo o 17.4% ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol yn sylweddol uwch nag y canran cyfunol ar gyfer ardaloedd siroedd Gwynedd a Chonwy.
"Mae'r niferoedd ar gyfer cynghorau cymuned o fewn neu'n rhannol o fewn y Parc Cenedlaethol yn dangos yr un patrwm â Gwynedd a Chonwy, sef cynnydd yn y cyfanswm cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ers 2020," ychwanega'r adroddiad.
'Aros yn nwylo lleol'
Un arall sy'n croesawu'r penderfyniad ydy Shan Ashton, sy'n byw yng Nghapel Curig.
Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "'Dwi yma ers rhyw 50 mlynedd a 'dwi 'di gweld newid anferth yma... fyswn i'n gweud bod nifer y boblogaeth llawn amser sy'n byw yma - o ble bynnag maen nhw'n dod - wedi haneru, a'r gweddill yn mynd yn dai haf neu dai gosod cyfnod byr.
"Ma' Capel Curig wastad wedi bod yn le gwyliau ers i'r math o dwristiaeth sydd gennym ni heddiw gychwyn mewn ffordd, felly 'da ni'n gyfarwydd â chroesawu pobl yma, mae hi'n bwysig i nodi, ond ma'r hen steil o gynnig gwely a brecwast yn gartrefi pobl wedi diflannu.
"Dwi'n meddwl bod y lle gwely a brecwast olaf yn y pentre' newydd droi yn dŷ gwyliau enfawr ac felly mae'n amhosib i bobl ifanc gael tai yma.
"Ma'r gwaith i bobl leol yn lleihau ar y cyfan, ma' ambell gyflogwr da yn canolbwyntio ar bobl leol, ond wrth gwrs gwaith tymhorol yw e, a dyw e ddim yn waith sy'n talu.
"Dydi o ddim yn ddigon i gynnal teulu o gwbl, ac mae hynny'n bwysig.
"Ma' lot o'r llefydd 'ma p dan berchnogaeth allanol, felly mae'r elw sy'n cael ei wneud yn mynd allan o'r gymuned.
"Os ydi'r lle yn aros yn nwylo lleol o leiaf mae'r pres yn cael ei gylchredeg yn lleol - ma' 'na blant yna, ma' nhw'n llenwi'r ysgolion lleol, yn prynu mewn siopau lleol, yn cynnal gweithgareddau cymunedol a diwylliannol yr ardal ac yn cadw'r iaith yn fyw.
"Ond os ydi o'n troi'n dŷ haf dan berchnogaeth allanol mae hynny i gyd yn cael ei chwalu, i'r fath raddau lle mae rhywun yn cwestiynu pam eich bod chi'n siarad Cymraeg mewn tŷ tafarn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023