Cwmni cemegion yn bwriadu torri 220 o swyddi yn Y Barri

Mae cemegion wedi bod yn cael eu cynhyrchu ar y safle ers yr 1940au
- Cyhoeddwyd
Mi fydd tua 220 o swyddi yn cael eu colli yn Y Barri ar ôl i gwmni cemegion Dow gadarnhau cynlluniau i gau rhan o'u safle yn y dref.
Fe ddaw hyn yn dilyn "asesiad o'u hasedau Ewropeaidd" ac mae disgwyl i'r broses ddechrau yng nghanol 2026.
Mae'r cwmni am gau'r ffatri sy'n cynhyrchu siloxanes sylfaenol - sy'n cael eu defnyddio i greu cludyddion a selyddion - ond does dim disgwyl i adrannau eraill gael eu heffeithio gan y toriadau.
Wrth gydnabod fod hyn yn newyddion anodd i'r gweithwyr a'r gymuned leol, fe gadarnhaodd Dow y bydd tua 220 o swyddi yn cael eu torri dros y tair i bedair blynedd nesaf.

Dywedodd Dow y byddai'r toriadau posib yn "helpu i gryfhau safle cystadleuol y cwmni"
Mae cemegion wedi bod yn cael eu cynhyrchu ar y safle ers yr 1940au, ac mae tua 850 o bobl yn gweithio yno ar hyn o bryd.
Ers 2016 mae'r safle i gyd wedi bod yn eiddo i'r cwmni o'r Unol Daleithiau, Dow.
Ar 30 Mehefin, 2025, fe gymeradwyodd Bwrdd Cyfarwyddwyr Dow gamau ailstrwythuro.
Bellach, maen nhw'n targedu diwedd 2027 i gau'r asedau hyn gyda'r posibilrwydd o ddatgomisiynu a gwaith dymchwel yn parhau hyd at 2029 yn ôl yr angen.
Ycwhanegodd Dow nad yw'r penderfyniad hwn mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchiad ar dîm y Barri, sydd wedi dangos proffesiynoldeb ac ymroddiad aruthrol ac maen nhw'n ymrwymedig i gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt drwy gydol y cyfnod pontio.
'Newyddion ofnadwy'
Wrth ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite fod y penderfyniad yn "newyddion ofnadwy i aelodau, eu teuluoedd a'r economi leol".
"Mae'n swyddogion wedi gweithio'n galed i leihau effaith y diswyddiadau a byddwn yn parhau i frwydro i sicrhau fod cymaint o'n haelodau a phosib yn derbyn hyfforddiant fel bod modd symud i swyddi eraill o fewn Dow."
Ychwanegodd swyddog rhanbarthol Unite, Anthony Simpson fod eu "gwaith caled wedi arwain at arbed rhai o'r swyddi oedd mewn peryg" ond bod angen sicrhau fod y llywodraeth yn cefnogi'r ymdrechion hyfforddi hefyd.
"Rydyn ni angen strategaeth ragweithiol o fewn ein diwydiant gweithgynhyrchu er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth o safon yn ardal Y Barri yn y dyfodol," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2024