Carcharu dyn am losgi llety i bobl fregus yng Nghaerdydd

Clywodd y llys fod Jakes dan ddylanwad cyffuriau pan wnaeth o gynnau'r tân
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am losgi llety i bobl fregus yng Nghaerdydd ac achosi gwerth dros £2m o ddifrod.
Roedd Lee Jakes, 33, wedi cyfaddef llosgi bwriadol ar ôl cynnau tân yn Dyfrig House yn ardal Glan yr Afon ychydig cyn hanner nos ar 4 Mawrth.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond cafodd pob un o'r 21 o drigolion eu symud, ac roedd to'r adeilad wedi cael ei ddifrodi yn sylweddol.
Dangoswyd lluniau camerâu cylch cyfyng i Lys y Goron Caerdydd o Jakes, a oedd yn breswylydd yno ar y pryd, yn llosgi darn o bren y tu allan i'w ystafell.
Clywodd y llys mai'r gred yn wreiddiol oedd bod y tân yn un damweiniol, ond cafodd Jakes ei arestio ar 20 Mai wedi i'r lluniau fideo ddod i'r amlwg.
Mewn datganiad, dywedodd Jakes nad oedd wedi bwriadu cynnau'r tân, ond ei fod yn ceisio llosgi chwilen ddu (cockroach).

Cafodd pob un o'r 21 o drigolion yn Dyfrig House eu symud wedi'r digwyddiad
Clywodd y llys fod y difrod i'r adeilad yn sylweddol, a bod gwerth y difrod hwnnw yn tua £2.2m - ond bod cwmnïau yswiriant eisoes wedi talu dros £3.3m yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Wrth ddedfrydu Jakes, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei bod wedi "cwestiynu'r erlyniad ynghylch pam nad ydych chi wedi cael eich cyhuddo o drosedd fwy difrifol", o ystyried natur "diofal" ei weithredoedd a'r difrod a gafodd ei achosi.
Ychwanegodd fod Jakes, a oedd dan ddylanwad cyffuriau ar y pryd, wedi gweithredu "heb feddwl am y peryg yr oeddech chi'n ei achosi", na'r bobl fregus a gafodd eu heffeithio.
Roedd Jakes - sydd â chofnod troseddol helaeth clywodd y llys - wedi pledio'n euog o'r blaen i un cyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol.
Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn a phedwar mis o garchar, a bydd yn treulio o leiaf hanner y cyfnod hwnnw dan glo.
Mae hefyd wedi cael gorchymyn i dalu £187 mewn costau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.