Y pum her fwyaf sy'n wynebu Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan ar fin dod yn brif weinidog nesaf Cymru, ar ôl cael ei chadarnhau fel arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru.
Mae’n dilyn ymddiswyddiad Vaughan Gething, a gyhoeddodd ei fod yn ildio'r awenau yr wythnos ddiwethaf ar ôl cyfres o benderfyniadau dadleuol.
Bydd Ms Morgan yn dod yn brif weinidog ar ôl pleidlais yn y Senedd, ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Unwaith y bydd yn dechrau yn ei swydd, bydd yn wynebu nifer o heriau ar unwaith.
1. Cyllid Llywodraeth Cymru
Bydd angen gwneud penderfyniadau ar ble i wneud toriadau.
Mae gweinidogion Cymru yn aml wedi dewis rhoi arian ychwanegol i'r GIG ar draul adrannau eraill.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf daethant o dan y lach am dorri'n ôl ar gefnogaeth i'r celfyddydau.
Gallai sut maen nhw'n penderfynu rhannu'r gyllideb fod yn ffynhonnell poen pellach i'r weinyddiaeth newydd.
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Awst
2. Uno rhaniadau Llafur Cymru
Daeth rhaniadau Llafur i'r amlwg pan ymddiswyddodd pedwar aelod o Lywodraeth Cymru ar yr un pryd i orfodi Mr Gething i adael.
Mae Ms Morgan wedi addo uno'r grŵp a gwella rhai o'r rhaniadau y mae wedi'u hwynebu.
Ond gyda niferoedd yn dynn yn y Senedd - mae gan Lafur union hanner y 60 o seddi - gall anghytuno agored wneud gafael y blaid ar rym yn sigledig.
Gallai fod o gymorth bod llawer o broblemau Llafur Cymru wedi'u tanio gan benderfyniadau Mr Gething - gan gynnwys y cyfraniad o £200,000 i'w ymgyrch gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Wrth addo uno'r grŵp, mae gweinyddiaeth newydd Ms Morgan yn edrych fel petai'n mynd i glymbleidio â'i hun.
Cefnogodd ei dirprwy brif weinidog arfaethedig, Huw Irranca-Davies, wrthwynebydd arweinyddiaeth Mr Gething, Jeremy Miles, yn yr ornest ddiwethaf.
Roedd Ms Morgan yn cefnogi Mr Gething.
3. Taro bargen â gwrthbleidiau
Ni all Llafur lywodraethu yn y Senedd - na phasio ei chyllideb nesaf - heb gymorth y gwrthbleidiau.
Rhan o'r hyn a arweiniodd at ymadawiad Mr Gething oedd amharodrwydd Plaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds i gydweithio ag ef.
Mae'n debyg y bydd hynny'n newid o dan Ms Morgan.
Er, hyd yn oed os ydynt yn fwy parod i ymgysylltu â hi, ni fyddai Plaid Cymru na Ms Dodds am gael eu cymryd yn ganiataol.
Mae'n bosib y byddan nhw am dorri cytundeb gyda Ms Morgan ar gyfer prosiectau neu syniadau arbennig.
4. Y gwasanaeth iechyd
Bydd Ms Morgan, sydd wedi bod yn ysgrifennydd iechyd Cymru ers 2021, yn dod o dan bwysau o’r newydd i wella perfformiad GIG Cymru wrth iddi gael ei dyrchafu'n brif weinidog.
Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar restr aros ysbyty ar hyn o bryd - y lefel uchaf erioed.
Mae arolygon yn dangos yn gyson mai iechyd yw un o’r prif faterion, os nad y brif flaenoriaeth, i bleidleiswyr yng Nghymru.
Ym mis Ebrill, tynnodd Ms Morgan sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud ar leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, gyda 97% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd mewn chwech o'r saith ardal bwrdd iechyd.
5. Etholiad y Senedd 2026
Ar y gorwel mae etholiad y Senedd yn 2026, pan fydd nifer aelodau’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
Bydd y system bleidleisio hefyd yn newid, wrth i’r cyntaf i’r felin gael ei dileu o blaid system sy’n adlewyrchu’r gyfran o’r bleidlais y mae pob plaid wedi’i chael.
Bydd Ms Morgan yn ymwybodol bod cyfran Llafur o'r bleidlais yng Nghymru wedi gostwng 4% yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf, o'i gymharu â 2019.
Roedd arolwg barn YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi llithro.