Pwy yw Eluned Morgan?

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan oedd yr aelod ieuengaf yn Senedd Ewrop pan gafodd ei hethol yn 1994

  • Cyhoeddwyd

Mae Eluned Morgan eisoes wedi cael ei chadarnhau fel arweinydd newydd Llafur Cymru.

Hi yw'r ddynes gyntaf i arwain y blaid ac mae disgwyl mai hi fydd y ddynes gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Dyma'r ail waith iddi roi ei henw ymlaen i fod yn arweinydd, ond mae'r amgylchiadau yn wahanol iawn y tro hwn.

Chwe blynedd wedi'r ymgais aflwyddiannus honno, mae disgwyl i Eluned Morgan gael ei hethol yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth.

Dyma edrych yn ôl ar yrfa wleidyddol Eluned Morgan, a ddechreuodd 30 mlynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eluned Morgan ei magu yn ardal Trelái, Caerdydd

Pan ymunodd Ms Morgan â Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd ond y bumed fenyw o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.

Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.

Am bymtheg mlynedd ar ôl hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.

Magwraeth wleidyddol

Fe gafodd ei magu yn Nhrelái yng Nghaerdydd.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Glantaf, cyn mynd i Goleg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg, ac yna ymlaen i Brifysgol Hull.

Roedd ei thad yn ficer ac yn gyn-arweinydd ar gyngor yr hen De Morgannwg.

Roedd ei mam, Elaine, hefyd yn gynghorydd.

Mi oedd eu cartref yn fwrlwm gwleidyddol, gyda ffigyrau amlwg fel Rhodri Morgan a Mark Drakeford yn rhan o'r cylch hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Morgan wedi bod yn weinidog Iechyd ers 2021

Yn 2011 fe gafodd ei dyrchafu’n aelod o Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drelái, a bu’n llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Senedd San Steffan, cyn cael ei hethol i Senedd Cymru yn 2016 dros etholaeth ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.

Ers hynny, mae hi wedi cyflawni cyfres o swyddi fel gweinidog, cyn cael ei phenodi’n weinidog iechyd yn 2021, ynghanol y pandemig.

Mae'r swydd honno yn cael ei gweld fel yr anoddaf o fewn y llywodraeth, yn enwedig yn ystod y fath amgylchiadau heriol.

Mae sawl mater arwyddocaol wedi codi yn ystod ei chyfnod yn y rôl, er enghraifft ei phenderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig unwaith eto.

Ddwy flynedd yn ôl fe ddywedodd Ms Morgan y byddai rhedeg y gwasanaeth iechyd ar gyllideb dynn yn “uffern ar y ddaear”.

Cyfres o ymddiheuriadau

Ffynhonnell y llun, YMCHWILIAD COVID-19 Y DU
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis am oryrru

Ry’n ni wedi gweld cyfres o ymddiheuriadau hefyd.

Datgelodd yr ymchwiliad Covid iddi regi mewn neges destun at gydweithwyr am yr amrywiad Omicron.

Dywedodd ei bod hi'n flin am hynny ac nad “dyna’r hyn rydych chi ei eisiau" gan ferch i ficer!

Mae ei gŵr, Rhys Jenkins, yn offeiriad hefyd, ag yn feddyg teulu. Mae ganddynt ddau o blant.

Daeth ymddiheuriad arall ym mis Mehefin 2022 pan gafodd ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis am oryrru.

Fe ymddiheurodd eto'r llynedd am jôc am y diweddar Margaret Thatcher ac ad-drefnu’r cabinet Ceidwadol yn San Steffan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Irranca-Davies yn rhedeg fel dirprwy i Ms Morgan

Soniodd nad oedd hi am barhau yn Ysgrifennydd Iechyd pan ddaeth Vaughan Gething i rym, ond fel 'na fuodd hi.

Nawr, mae’n ymddangos fel bod ei hamser wedi cyrraedd, a’r syniad o uno gyda Huw Irranca-Davies yn plesio.

Ond fe fydd uno’r blaid Lafur yn y Senedd yn dasg lawer anoddach na rhedeg ysbytai, efallai’r dasg anoddaf iddi ei wynebu yn ei gyrfa hyd yma.