Siom clybiau o Lŷn dros gynnal gêm bêl-droed 40 milltir i ffwrdd

Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-Droed Pwllheli eu bod wedi eu "siomi" dros y ffordd mae'r trefniadau wedi eu gwneud
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed o Wynedd yn dweud eu bod yn siomedig gyda phenderfyniad "diangen" i gynnal gêm ddarbi 40 milltir i ffwrdd.
Dros y Sul bydd timau datblygu Pwllheli a Nefyn yn wynebu ei gilydd mewn gêm derfynol ym Mhenmaenmawr, sir Conwy.
Ond mae swyddogion CPD Pwllheli wedi dweud eu bod yn "arbennig o bryderus" am y trefniadau ac yn dadlau y dylai'r gêm gael ei chwarae yn nes at y ddau glwb.
Y gred ydy bod cynnig wedi ei wneud i chwarae'r ffeinal ar faes un o'r ddau glwb ym Mhen Llŷn.
Dywed Cymdeithas Bêl-Droed Arfordir Gogledd Cymru - trefnwyr y gystadleuaeth - eu bod yn derbyn nad yw lleoliad y gêm yn agos i Bwllheli na Nefyn ond bod trafodaethau helaeth wedi'u cynnal ymhlith yr holl glybiau i sicrhau tegwch.

Mae Penmaenmawr yn daith 40 milltir o Nefyn a Phwllheli
Dim ond saith milltir sy'n gwahanu Nefyn a Phwllheli, gyda'r ddau yn brif glybiau ardal Llŷn.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru - sy'n gweinyddu sawl lefel o'r gêm yn y gogledd - wedi trefnu'r gêm derfynol ar gyfer dydd Sul ar Gae Sling, Penmaenmawr.
Mewn datganiad dywedodd CPD Pwllheli eu bod wedi eu "siomi" dros y ffordd mae'r trefniadau wedi eu gwneud, a'u bod wedi eu "gadael allan o gyfathrebu hanfodol".
"Dylai'r rownd derfynol fod wedi cael ei chwarae'n lleol - roedd hyn yn amlwg yn opsiwn synhwyrol ac yn un a fyddai wedi gwasanaethu'r gymuned orau," meddai'r datganiad.
"Mae gofyn i ddau dîm lleol deithio dros 40 milltir i gwrdd yn ymddangos yn ddiangen ac yn anghyson â'r nodau cynaliadwyedd sy'n cael eu coleddu'n eang mewn chwaraeon erbyn hyn."

Y gred ydy bod cynnig wedi ei wneud i'r gymdeithas chwarae'r gêm ar faes Nefyn (uchod) neu Bwllheli
Ychwanegodd y clwb: "Cynigiwyd ateb ymarferol a lleol a fyddai wedi hybu presenoldeb uwch, lleihau costau, ac annog awyrgylch well.
"Nid yw'r rhesymu dros beidio â dilyn yr ateb hwn wedi bod yn glir nac yn gredadwy."
Ymateb Cymdeithas Bêl-Droed Arfordir Gogledd Cymru
Dywed Cymdeithas Bêl-Droed Arfordir Gogledd Cymru eu bod yn derbyn nad yw'r lleoliad yn agos i Bwllheli na Nefyn, ond nid yw hynny'n golygu y gallai lleoliad gwell ar gyfer y gêm hon fod ar gael yn nes at Bwllheli a Nefyn.
"Byddem yn gwadu unrhyw faterion ynghylch gohebiaeth neu gysylltu," medd datganiad.
"Mae'r gynghrair yn ymestyn dros 80 milltir, ac ar hyn o bryd mae ganddi 18 o glybiau sy'n aelodau. Mae pob un o'r 18 clwb yn cael eu croesawu, eu parchu ac yn cael cyfle cyfartal.
"Cynhaliwyd cyfarfod cynghrair ym mis Chwefror, lle gwahoddwyd holl aelodau'r gynghrair. Nid oedd Pwllheli yn y cyfarfod. Roedd hwn yn gyfle i Bwllheli gymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer y rownd derfynol.
"Ystyriodd y rhai oedd yn bresennol y posibilrwydd y gallai'r clwb a gafodd ei dynnu gyntaf yn y rownd derfynol gynnal y gêm. Fodd bynnag, roedd y clybiau yn unfrydol yn erbyn y syniad hwnnw.
"Mae rowndiau terfynol i fod yn achlysur y mae chwaraewyr yn ei gofio ac yn rhoi cyfleoedd teg i'r ddau dîm ennill.
"Teimlai'r clybiau oedd yn bresennol y byddai chwarae rownd derfynol ar faes nad oedd yn niwtral yn niweidio y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd.
"Ystyriwyd dau leoliad am gyfnod hir. Dewiswyd yr opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio ar y sail bod disgwyl iddo fod ar gael ar ddyddiad penodol o gymharu â Ffenics Penmaenmawr. Yn anffodus, daeth i'r amlwg wedyn nad oedd y dewis cyntaf ar gael.
"Roedd y pwyllgor wedyn yn hynod falch o sicrhau Ffenics Penmaenmawr, yr ail faes a ystyriwyd gan y clybiau a oedd yn aelodau.
"Mae'n bwysig nodi bod Penmaenmawr dros hanner awr yn nes at Bwllheli na'r maes gwreiddiol."