Gallai miloedd fod â niwed alcohol i'r ymennydd heb wybod

Lee Caldwell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Caldwell, 56, wedi derbyn triniaeth am niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol (ARBD)

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib bod miloedd o bobl sydd â niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol (ARBD) yn mynd heb gael diagnosis, yn ôl arbenigwr.

Mae ymchwil yn awgrymu bod yfed 35 uned o alcohol yr wythnos am bum mlynedd neu fwy yn gallu achosi ARBD - sy'n effeithio ar allu person i gyflawni tasgau syml dydd i ddydd.

Dywedodd Lee Caldwell, 56, a gafodd ddiagnosis o ARBD y llynedd, ei fod yn cael trafferth gyda'i gof a phroblemau ymddygiad.

Mae'r Athro Gareth Roderique Davies yn dweud fod stigma a diffyg ymwybyddiaeth wedi arwain at fethu ag adnabod ARBD, a bod diffyg adnoddau yn her.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £67m i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol, gan gynnwys ARBD.

'Y caethiwed yn bwysicach na byw'

Os nad yw pobl gydag ARBD yn cael diagnosis gallan nhw fod angen gofal nyrsio hirdymor yn y pendraw, ond gyda'r ymyrraeth gywir fe allan nhw wella a byw yn annibynnol.

Cafodd Lee Caldwell, o ogledd Cymru, ei dderbyn i Dŷ Brynawel - cyfleuster adsefydlu (rehabilitation) preswyl yn y de, lle cafodd ddiagnosis o ARBD fis Medi diwethaf.

Pan roedd ei yfed ar ei waethaf, dywedodd ei fod yn ei chael hi'n "haws croesi'r ffordd i'r garej" i brynu alcohol na wynebu'r teimladau o euogrwydd a chywilydd sy'n gysylltiedig â goryfed.

"Daeth y caethiwed yn bwysicach na byw," meddai Mr Caldwell, oedd yn arfer gweithio fel peiriannydd y Llynges Frenhinol, ac fel rheolwr adeiladu.

Gan egluro'r heriau dyddiol y gall ARBD eu cyflwyno, dywedodd: "Un diwrnod pan o'n i'n rehab, do'n i methu dod o hyd i fy 'stafell.

"Dywedodd ffrind: 'Byddai'n help petai chdi yn yr adeilad iawn - ti'n byw draw fan 'na'."

Dywedodd Mr Caldwell nad oedd ei gof tymor hir wedi'i effeithio ond ei fod yn cael trafferth gyda "phethau gwirion" fel cofio a oedd wedi cymryd ei feddyginiaeth.

Ond dywedodd, ar ôl treulio chwe mis yn y ganolfan adsefydlu: "Dydw i ddim yn deffro hefo cravings a dwi'n dod yn fwy ffit yn gorfforol."

Sue Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sue Gwyn eu bod wedi gweld cynnydd mewn problemau ymennydd oherwydd alcohol ers y pandemig

"Ers y pandemig 'da ni'n gweld llawer mwy o bobl â phroblemau ymennydd oherwydd eu bod yn yfed," meddai Sue Gwyn, prif weithredwr Tŷ Brynawel.

Mae'r elusen yn helpu gyda thrin pobl sy'n camddefnyddio sylweddau, ond mae'n arbenigo mewn ARBD.

Dywedodd fod cleifion fel arfer yn cael eu cyfeirio atyn nhw gan awdurdodau lleol.

"Gall hyd yn oed cyn lleied â 35 uned o alcohol yr wythnos, am efallai pedair neu bum mlynedd, effeithio ar eich ymennydd," meddai Ms Gwyn.

"Pan chi'n meddwl bod 36 uned tua phedair potel o win, mae yna lawer iawn o bobl sy'n yfed hynny bob wythnos ac yn meddwl bod hynny'n iawn oherwydd nad oes ganddyn nhw broblemau amlwg ar yr iau.

"Ond rydyn ni'r un mor bryderus am ymennydd pobl ag ydyn ni am unrhyw beth arall."

Sawl uned sydd mewn diodydd alcoholig?

  • Peint o lager, cwrw neu seidr cryfder is - 2 uned

  • Peint cryfder uwch - 3 uned

  • Gwydraid bach o win (125ml) - 1.5 uned

  • Gwydraid mawr o win (250ml) - 3 uned

  • Joch sengl o wirodydd (25m) - 1 uned

Ffynhonnell: GIG, dolen allanol

Fel elusen, a'r unig sefydliad di-elw sy'n darparu triniaeth ARBD yng Nghymru, dywedodd Ms Gwyn nad yw trefniadau ariannu yn glir.

Er bod byrddau cynllunio ardal wedi clustnodi cyllid ar gyfer cymorth dibyniaeth, dywedodd mai ychydig o'r rheiny fyddai'n ariannu triniaeth ARBD.

Mae cymorth yn Nhŷ Brynawel yn costio £1,760 yr wythnos, yn cael ei ddarparu am o leiaf chwe mis.

"Os edrychwch chi ar effaith hirdymor rhywun yn gorfod mynd i ofal preswyl am efallai 10 neu 20 mlynedd, ac wedyn chwe mis neu flwyddyn yn cael ei dreulio yma, dwi'n meddwl ei fod yn arian sydd wedi'i fuddsoddi'n dda," meddai Ms Gwyn.

Yr Athro Gareth Roderique Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae stigma yn chwarae "rôl fawr" wrth i bobl gael diagnosis cywir, meddai'r Athro Gareth Roderique Davies

Dywedodd yr Athro Gareth Roderique Davies - cyd-arweinydd grŵp ymchwil dibyniaeth Prifysgol De Cymru - fod stigma yn chwarae "rôl fawr" wrth i bobl gael diagnosis cywir.

"Gall unigolion sy'n yfed yn ormodol ymddangos yn ddryslyd ac yn anhrefnus, ac efallai hyd yn oed yn ymosodol, ac mae hynny'n golygu ar unwaith eu bod yn cael eu trin mewn ffordd sydd wedi'i stigmateiddio," meddai.

"Ond mewn gwirionedd yn dangos arwyddion o niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol.

"Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod rhai unigolion ag ARBD yn cael diagnosis anghywir o ddementia cynnar.

"Ond nid clinigau cof yw'r lle iawn iddyn nhw o reidrwydd, oherwydd mae hynny'n delio ag anhwylder dirywiol - ond os yw ymyriadau'n digwydd ar yr amser iawn, does dim rhaid i ARBD waethygu.

"Mewn llawer o amgylchiadau gall wella gyda'r ymyrraeth gywir."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi mwy na £67m "i helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan gyffuriau ac alcohol, gan gynnwys pobl â niwed i'r ymennydd, i sicrhau bod ystod o wasanaethau a chefnogaeth mewn lle".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae llwybrau clinigol yn fater i bob bwrdd cynllunio ardal ei benderfynu ac mae'n bwysig eu bod yn gweithio'n agos gyda'r holl sefydliadau priodol i sicrhau bod ARBD yn cael ei adnabod yn gynnar."

Pynciau cysylltiedig