'Wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy'r dydd' cyn cael help

Mae Arwel Wyn Griffith wedi mynd 90 diwrnod heb ddefnyddio cyffuriau, y cyfnod hiraf iddo mewn 17 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am gyffuriau drwyddi draw
Mae angen buddsoddi mwy mewn sefydliadau sy'n helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau, yn ôl pennaeth canolfan adferiad yn y gogledd.
Yn ôl Penrhyn House, Bangor mae mwy yn gofyn am gymorth gyda dibyniaeth alcohol a chyffuriau, gan alw am gynllun a buddsoddiad hir dymor i gadw pobl rhag camddefnyddio sylweddau.
Yn ôl ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru mae nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau adferiad wedi gostwng dros y ddwy flynedd diwethaf.
Ond yn ôl cadeirydd grŵp o Aelodau'r Senedd, dydy'r ffigyrau ddim yn adlewyrchiad teg o'r darlun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi dros £67m i wella gwasanaethau cymorth i bobl sy'n gaeth.
'Do'n i just methu stopio'
Ers 10 mlynedd mae Penrhyn House yn cynnig arweiniad a chymorth i bobl sy'n gaeth i sylweddau ac alcohol, ac mae'n ceisio helpu unigolion yn y gymuned hefyd.
Gyda galw am fwy o gyllid mi rannodd rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth eu profiad nhw gyda Newyddion S4C.
Yn 35 oed mae Arwel Wyn Griffith yn dod o ardal Caernarfon ac yn sôn am yr her o frwydro dibyniaeth ar gocên ers 17 mlynedd.

Mae tri sydd wedi cael help Penrhyn House wedi rhannu eu profiadau gyda'r BBC
"Yn y cychwyn oedd o'n rhoi high i fi a 'neud i fi deimlo'n confident," meddai.
"O'n i'n enjoyo fo fatha party drug ond wedyn ar ôl blynyddoedd o gymryd o o'n i just isio cloi'n hun yn bedroom a cuddiad a cau curtains... ofn cysgod fy hun.
"Doedd o ddim y bleser o gwbl. Doeddwn i ddim yn joio fo ond do'n i just methu stopio cymryd o - oedd y craving just too much.
"Doedd o'm yn fywyd o gwbl, doedd genai'm pres a ddim yn cysgu na'n byta'n iawn.
"Nes i just 'neud y penderfyniad bo' fi isio gwella a dyma fi'n symud mewn i Penrhyn House ac mae'n un o'r petha gorau dwi 'rioed 'di 'neud.
"Dwi'n difaru peidio 'neud o'n gynt."
Wrth siarad mae Arwel yn nodi carreg filltir arbennig ag yntau'n dathlu 90 diwrnod heb ddefnydd cyffuriau.
"Dyma'r hira' dwi 'di bod yn yr 17 mlynedd diwethaf a dwi'n teimlo lot gwell."

Roedd Mark ac Elen yn "wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy'r dydd"
Rhai sy'n gwybod yr her o roi'r gorau i gyffuriau ac yna aros yn lân ydy Mark ac Elen, sydd wedi gwneud hynny ers dwy flynedd.
"Nath o gymryd drosodd bywydau ni," meddai Mark.
"Pa bynnag cash oedd ganddo ni, o'n i'n mynd allan i 'nôl cyffuriau, wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy'r dydd."
Yn ôl Elen mi gafodd blynyddoedd o ddibyniaeth ar gyffuriau effaith enfawr ar ei hiechyd meddwl.
"Oedd o'n really anodd, ddim yn cysgu am ddyddiau, yn hallucinatio ac o'n i'n teimlo'n really sal.
"Do'n i'm yn cysgu lot ac o'n i fyny am ddyddiau – oedd o'n really anodd."
Mae'r ddau bellach yn helpu pobl eraill sy'n ddibynnol ar gyffuriau ac yn dweud bod y cymorth sydd ar gael yn Penrhyn House yn amhrisiadwy.
"Heb fan hyn ella 'sa ni ddim efo'n gilydd ond 'da ni 'di ca'l yr ail chance," meddai Mark.
"O'n i'm yn meddwl sŵn i'n gallu gwneud o ar y dechrau," meddai Elen.
"Dwi'n well person wan... focused, ac ma'n amazing."

Does dim digon o arian i helpu pawb sy'n ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol, meddai James Deakin
Fe ddangosodd ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher bod, ar gyfartaledd, llai yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cyffuriau ers dechrau 2023.
Ond dweud mae Cyfarwyddwr Gweithredol Penrhyn House, James Deakin bod mwy yn gofyn am gymorth.
"Y peth haws mewn ffordd ydy rhoi'r gorau i gyffuriau - cadw draw ohonyn nhw wedyn ydy'r peth anoddaf," meddai.
"Mae pawb sy'n dod trwy'r drws yma... mae'n rhaid bod nhw isio bod yn sobor ond aros felly sy'n anodd ac mae angen mwy o bres i roi mewn i wasanaethau i bobl sy'n adfer."
Wrth ymateb dywedodd Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth, Peredur Owen Griffiths nad yw'r ffigyrau'n cynnig darlun teg.
"O'r stwff anecdotal dwi'n ei weld ac o'r pobl dwi'n siarad efo mae pobl dal yn syffro a dal yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sylweddau i gael allan o broblemau.
"Mae lot o hwn yn cael ei wreiddio mewn tlodi, mewn angen a mental health.
"Mae'r sector dan bwysau ariannol ac mae'r byd defnydd cyffuriau yn newid."
'Pob marwolaeth yn drasiedi'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi.
"Rydyn ni'n buddsoddi dros £67m i wella gwasanaethau cymorth ar gyfer y rheiny sy'n cael eu heffeithio ac i leihau nifer y marwolaethau yn y dyfodol, gan gynnwys dros £8.8m ar gyfer gwasanaethau cymorth yng ngogledd Cymru.
"Mae ein dull o fynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn cynnwys atal, triniaeth, a chymorth adfer, gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd a lleihau niwed yn gyffredinol.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r heddlu i leihau'r niwed y mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn ei achosi."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2024