Rhybudd am fisoedd o darfu ar yr A470 yn Llanfair-ym-muallt

Llanfair-ym-muallt
Disgrifiad o’r llun,

Yr A470 a'r A483 trwy Lanfair-ym-muallt yw un o'r prif lwybrau rhwng y gogledd a'r de

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd y gallai gyrwyr wynebu misoedd o darfu wrth i waith ffordd sylweddol gael ei gwblhau yn Llanfair-ym-muallt ym Mhowys.

Bydd y gwaith o osod wyneb newydd ar yr A470 a'r A483 yn y dref yn digwydd rhwng 3 Tachwedd 2025 a 1 Mawrth 2026.

Bydd y ffordd yn cael ei chau ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae'r gwaith wedi ei gynllunio mewn tri cham er mwyn ceisio lleihau'r effaith ar y gymuned a busnesau lleol yn ystod cyfnod y Nadolig.

Bydd y rheolaeth traffig yn stopio erbyn 5 Rhagfyr ac yn ail-gychwyn ar 5 Ionawr.

Mae modd clywed mwy am y gwaith mewn digwyddiad yn Neuadd Strand, Llanfair-ym-muallt ar 15 Hydref.

Pynciau cysylltiedig