Cymraes sy'n gweithio i Coca-Cola yn annog talent ifanc 'i aros yng Nghymru'

Beti George yn holi Glenda Jones-Williams ar gyfer rhaglen Beti a'i Phobol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glenda Jones-Williams wedi canu cloch y Gyfnewidfa Stoc yn Efrog Newydd fel rhan o'i swydd gyda chwmni Coca-Cola

  • Cyhoeddwyd

Gallai datblygiadau mewn technoleg ei gwneud hi'n haws i dalent ifanc aros yng Nghymru ar gyfer swyddi rhyngwladol yn y dyfodol, yn ôl Cymraes sydd â swydd flaenllaw gyda un o frandiau enwoca'r byd - Coca Cola.

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru, dywedodd Glenda Jones-Williams nad ydi hi'n gweld llawer o Gymry yn y byd busnes mewn cwmnïau rhyngwladol, a bod Cymry yn dal i fod yn "draddodiadol" o ran dewis swyddi.

Yn wreiddiol o Frynaman, mae hi wedi gweithio gyda Coca-Cola ers bron i 18 mlynedd, a bellach yn Is-lywydd Pobol a Diwylliant Gogledd Ewrop, Asia a'r Môr Tawel gyda'r cwmni.

Mae ei swydd yn cynnwys chwilio am dalent a sgiliau'r dyfodol, ac mae'n dweud bod y "byd busnes wedi mynd yn fach" oherwydd ei bod hi'n bosib gweithio o unrhywle erbyn hyn.

Ychwanegodd: "Lle oedden ni'n draddodiadol yn chwilio am dalent o gwmpas ble bydde'r swyddfa, ni nawr yn chwilio am dalent ble bynnag ma' nhw, dim ond bo nhw'n gallu trafaelu, mae technoleg nawr yn cysylltu pawb gyda'i gilydd."

'Hap a damwain' ymuno â Coca-Cola

Ar ôl dechrau ar yrfa fel cyfreithwraig, mae Glenda yn dweud iddi ymuno â Coca-Cola "ar hap a damwain" yn dilyn gwneud Cwrs Meistr mewn Adnoddau Dynol (HR).

"Ges i head-hunter yn ffonio o Lundain eisiau siarad gyda fi am ddwy swydd - un y cwmni ffasiwn Burberry a Coca-Cola oedd y llall."

Ar ôl cael llawer o sgyrsiau penderfynodd gymryd y swydd gyda'r cwmni diod oherwydd ei fod yn "frand enfawr".

Er bod y swydd yn fyd-eang ac yn mynd â hi i bob cwr o'r byd, mae'n dweud ei bod yn "ffodus iawn" bod y cwmni wedi caniatáu iddi allu byw a gweithio yng Nghaerdydd.

Byddai'n hoffi gweld mwy o Gymry yn mentro i weithio gyda chwmnïau mawr.

"Ni dal yn tueddu i fod yn draddodiadol...cyfreithiwr, doctor, dysgu, mae shwt gymaint o gyfleusterau mas 'na, sai'n deall pam does dim fwy o Gymry yn y busnesau mawr 'ma.

"Bydden i'n hybu unrhyw un i fynd i weithio i gwmni mawr rhyngwladol."

Poteli Coca-ColaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glenda yn dweud ei bod yn "dwlu" ar bob munud o'i gwaith gyda Coca-Cola

Mae Glenda Jones-Williams hefyd yn cydnabod yr heriau i gwmni mawr fel Coca-Cola wrth geisio mynd i'r afael â llygredd amgylcheddol.

"Ni yn trial bod ar flaen y gad o ran ffeindio ffyrdd i ddod dros y mass production o'r plastig 'ma, achos beth o'n nhw'n dweud bydde 'na fwy o boteli Coca-cola yn y môr na physgod cyn bo hir a mae hwnna'n rhywbeth sobor iawn i'w ddweud".

Mae 'na sialens hefyd meddai o ran sicrhau bod y cwmni yn parhau'n berthnasol a chynaliadwy mewn oes lle mae pobl yn fwy ymwybodol o'u hiechyd.

"Mae'n bwysig i gael balance yn ein bywyd bob dydd," meddai.

'Pinshio'n hunan yn aml'

Mae'n sôn hefyd am y profiad bythgofiadwy o ganu'r gloch yn y Gyfnewidfa Stoc yn Efrog Newydd.

"Odd e'n 'pinch me moment' - odd hi'n 2010 ac on i wedi gwerthu y cwmni bottling 'ma nôl mewn i'r Coca-Cola brand, transaction mawr mawr.

"Fi'n cofio aros ar y podium yn y New York Stock Exchange a meddwl 'beth fi'n neud fan hyn', a'r gloch yn canu."

Ac mae'n dweud ei bod yn "dwlu" ar bob munud o'i gwaith.

"O'n i byth yn meddwl bydde merch o Frynaman, siarad Cymraeg, byth yn gweithio i gwmni fel Coca Cola yn y lle cynta, ond i gael y fraint o drafaelu'r byd a dysgu am gelfyddyd dros y byd i gyd, dwi'n pinshio'n hunan yn aml".

Pynciau cysylltiedig