Mesurau i geisio lleddfu problemau traffig yn Niwbwrch
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar ymwelwyr i baratoi at beidio cael mynediad i un o draethau mwyaf poblogaidd y gogledd.
Mae traeth Llanddwyn a choedwig Niwbwrch yn fannau poblogaidd ymhlith twristiaid ac mae hynny yn achosi llawer iawn o broblemau traffig yn yr ardal.
CNC sy’n gofalu am draeth Llanddwyn, y goedwig gyfagos a’r meysydd parcio, tra bod cyngor Sir Ynys Môn yn rheoli’r ffyrdd yn Niwbwrch.
Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, mae nhw wedi ymrwymo i gefnogi CNC a pharhau i gydweithio er mwyn ceisio cael datrysiadau tymor byr a hir.
'Mynd yn waeth'
Mae Helen Jenner yn byw yn lleol. Dywedodd : "Mae wedi mynd yn waeth yn y deg mlynedd diwethaf a 'dw i'n meddwl yn enwedig ers y pandemig, mae llawer mwy o bobl yn dod i fan'ma i gael eu gwylia nhw.
"Mae'n mynd yn waeth ac yn waeth, mae pawb yn cwyno. 'Dw i fel rhiant weithiau yn osgoi mynd lawr i'r traeth oherwydd bod cymaint o bobl yno."
Wrth ymateb i fesurau newydd CNC dywedodd Helen : "Diwedd y dydd, mae nhw wedi bod yn trafod neud pethau am amser hir rŵan. Cael cyfarfodydd yn lleol, gofyn i bobl, ond mae pobl leol yn teimlo'n rhwystredig, does dim byd yn cael ei wneud."
Ond yn ôl llefarydd ar ran CNC, mae nifer o fesurau wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd.
Mae Euros Jones yn rheolwr gweithrediadau i CNC yng ngogledd orllewin Cymru.
"Dros y blynyddoedd 'da ni wedi rhoi nifer o fesurau mewn. Cyn Covid, mi oedd tua 150,000 o bobl yn ymweld â'r safle, erbyn hyn mae'n agosach at 170,000 y flwyddyn sydd yn dipyn o gynnydd," meddai.
"Mi yda ni wedi rhoi gwelliannau yn y maes parcio, y fynedfa a phethau felly. Yn fwy diweddar rydyn ni wedi cymryd y cam i roi rheolydd traffig yn y stryd a 'da ni 'di bod yn gweld sut mae hynny'n gweithio.
"Yn ychwanegol i hynny, 'da ni wedi cael cyngor gan y cyngor sir a chynghorwyr yn dweud ella bod angen cymryd cam hyd yn oed yn bellach na hynny - felly 'odda ni wedi bwriadu cymryd y cam i roi system newydd mewn lle dros ŵyl y banc... ond 'da ni wedi dod â hynny 'mlaen i'r penwythnos yma rŵan ac mi fyddwn ni'n dysgu o hynny," ychnwaegodd Euros Jones.
Yn ogystal, dywedodd CNC y bydd wardeiniaid yn patrolio eu safleoedd yn ystod yr haf i ateb unrhyw gwestiynau, rhoi cyngor ac arweiniad a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn : "Rydym yn llawn ymwybodol o’r pwysau traffig a’r effaith ar y gymuned leol ym mhentref Niwbwrch. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru a pharhau i gydweithio er mwyn adnabod datrysiadau tymor byr a hir.”